Mynediad i'r swyddfa ac amseroedd agor

Amserau a dyddiau rydym ar agor ar gyfer busnes a'n manylion lleoliad a chyswllt.


Cyfeiriad y swyddfa

Prif Swyddfa

Y Swyddfa Eiddo Deallusol
Tŷ Cysyniad
Ffordd Caerdydd
Casnewydd
De Cymru
NP10 8QQ

Swyddfa Llundain

Y Swyddfa Eiddo Deallusol
3rd Floor
10 Victoria Street
Llundain
SW1H 0NB

Cyfarwyddiadau teithio

Ydych chi’n ymweld â’n Swyddfa yng Nghasnewydd?

Mae sut mae ein cwsmeriaid yn teithio i’n swyddfa yn bwysig i ni. Yn y Swyddfa Eiddo Deallusol, rydym yn ceisio atal llygredd a lleihau effeithiau amgylcheddol trwy annog teithio cynaliadwy. Mae teithio cynaliadwy yn golygu teithio mewn ffordd sy’n lleihau eich effaith negyddol ar y blaned a bywyd gwyllt.

felly rydym yn gofyn yn garedig i’n cwsmeriaid ystyried dulliau cludiant ecogyfeillgar, gan gynnwys cludiant cyhoeddus, cerdded, beicio, a hyd yn oed rhannu lifft, er mwyn helpu i leihau allyriadau CO2.

Gallwch ddewis eich dull teithio mwyaf cynaliadwy yn Gweld map a chael cyfarwyddiadau i’n swyddfa.

Os dewiswch feicio i’n swyddfa, mae raciau beiciau ar gael i ymwelwyr ar safle Casnewydd ger y dderbynfa i gadw’ch beic.

Ydych chi’n ymweld â’n swyddfa yn Llundain? Gweld map.

Mynediad i’r anabl

Gwybodaeth amgyfleusterau i bobl anabl ar gyfer cwsmeriaid ac ymwelwyr â’r Swyddfa Eiddo Deallusol.

Manylion cyswllt

  • i ffeilio ffurflenni a dogfennau, e-bostiwch: forms@ipo.gov.uk 

  • ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, e-bostiwch: information@ipo.gov.uk 

  • ffôn: 0300 300 2000 

  • (tu allan i’r DU) +44(0)1633 811200 

  • ffôn testun: 0300 0200 015

Amserau agor

Dosbarth busnes Oriau agor ar gyfer patentau, nodau masnach a dyluniadau
Ffeilio ceisiadau newydd NAD ydynt yn hawlio blaenoriaeth Bob dydd a phob amser
Ffeilio ceisiadau newydd sy’n hawlio blaenoriaeth Hanner nos dydd Llun i 11:59pm dydd Gwener
Adnewyddu hawl eiddo deallusol presennol Hanner nos dydd Llun i 11:59pm dydd Gwener
Ffeilio pob ffurflen a dogfen arall Hanner nos dydd Llun i 11:59pm dydd Gwener
Unrhyw ddosbarth arall o fusnes Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Mae ein Canolfan Cymorth i Gwsmeriaidar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm. Os byddwch yn ein ffonio ychydig cyn 5pm, byddwn yn gwneud ein gorau i ateb eich cwestiwn(cwestiynau) yn llawn. Os yw’n debygol y bydd eich ymholiad yn cymryd peth amser y tu hwnt i 5pm i’w ddatrys, byddwn yn eich hysbysu’n gynnar yn yr alwad ac yn trefnu i’ch ffonio’r diwrnod gwaith nesaf yn ystod ein horiau agor ar amser sy’n gyfleus i chi.

Yn yr un modd, os ydych yn ymweld â’r swyddfa, caniatewch ddigon o amser ar gyfer eich ymweliad i’n galluogi i ddatrys eich ymholiad erbyn 5pm. Rydym yn gofyn i chi gysylltu â ni cyn ymweld. Mae hyn er mwyn i ni allu darparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi. Mae llawer o’n staff yn parhau i weithio gartref ar hyn o bryd felly rydym yn gofyn am 24 awr o rybudd o’ch ymweliad ac yn gofyn i chi drefnu apwyntiad gyda ni. Gallwch wneud hyn drwy ffonio neu e-bostio ein Canolfan Cymorth i Gwsmeriaidgyda’r manylion cyswllt a ddarperir uchod. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod aelodau o’r tîm priodol ar y safle i’ch cefnogi.

Penwythnosau a gwyliau banc

Ystyrir bod y swyddfa ar gau ar benwythnosau,dydd Gwener y Groglith, Dydd Nadoliga holl wyliau banc Cymru a Lloegr ar gyfer pob math o fusnes, ac eithrio ar gyfer ffeilio ceisiadau newydd nad ydynt yn hawlio blaenoriaeth. Os caiff dogfennau eu ffeilio ar gyfer y mathau hyn o fusnes ar adegau pan ystyrir bod y swyddfa ar gau, byddant yn derbyn dyddiad ffeilio swyddogol o’r diwrnod gwaith nesaf. 

Mae unrhyw gyfnod amser swyddogol sy’n dod i ben ar benwythnos neu unrhyw ddiwrnod arall y mae’r swyddfa ar gau yn cael ei ymestyn i’r diwrnod gwaith nesaf.

Ceisiadau rhyngwladol ac Ewropeaidd

Bydd y Swyddfa’n derbyn ac yn prosesu ceisiadau patentau a nodau masnach Ewropeaidd a Rhyngwladol sy’n cael eu ffeilio’n uniongyrchol gyda ni o dan y Cytuniad Cydweithredu ar Batentau, y Confensiwn Ewropeaidd ar Batentau, a systemau Protocol Madrid. Mae’r oriau busnes ar gyfer ffeilio’r ceisiadau hyn ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig yr un fath â’r hyn uchod ar gyfer ffeilio ceisiadau patentau a nodau masnach y DU.

Sut i ffeilio dogfennau gyda ni

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein canllaw ar sut i ffeilio dogfennau gyda’r Swyddfa Eiddo Deallusol.