Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol
Canllawiau cymunedol cyfryngau cymdeithasol Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Defnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i esbonio a rhannu gwybodaeth yn ymwneud ag atwrniaethau arhosol (LPAs) a gwaith yr OPG. Rydym hefyd yn defnyddio ein sianeli i rannu manylion am sut brofiad yw gweithio yn OPG, a deall materion cwsmeriaid.
Nid ydym yn defnyddio ein sianeli fel llwybr ymholiadau gwasanaeth cwsmeriaid, ond rydym yn cymedroli ein holl sianeli i annog trafodaeth adeiladol, rheoli sylwadau sarhaus a dileu gwybodaeth anghywir a rennir ar bostiadau. Wrth bostio sylwadau, a fyddech cystal â dilyn ein canllawiau cymunedol a nodir isod.
Mae defnydd o’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn rhwym i God y Gwasanaeth Sifil.
I gael rhagor o wybodaeth gweler cyngor gan bob un o’r sianeli cyfryngau cymdeithasol : X (a elwid gynt yn Twitter), Facebook, LinkedIn, a YouTube.
Canllawiau cymunedol cyfryngau cymdeithasol
Pwrpas y canllawiau hyn yw cadw ein sianeli cymdeithasol yn berthnasol ac yn ddiogel i gwsmeriaid a staff. Os na chaiff y rhain eu dilyn, byddwn yn cymryd camau priodol i guddio, dileu, adrodd neu rwystro sylwadau, rhyngweithiadau a defnyddwyr.
Ni ddylai defnyddwyr bostio sylwadau ar sianeli OPG sydd:
- yn enllibus neu anweddus
- yn cynnwys delweddau graffig, sensitif neu dramgwyddus
- yn dwyllodrus neu gamarweiniol
- yn groes i unrhyw hawliau eiddo deallusol
- yn groes i unrhyw gyfraith neu reoliad
- yn hysbysebion ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau masnachol
- yn sbam (negeseuon negyddol ac/neu enllibus parhaus lle mai’r nod yw ysgogi ymateb neu sylwadau nad ydynt yn destunol)
Byddwn yn gweithredu ar sylwadau sy’n enllibus neu’n ddifenwol megis cyhuddiad a wneir yn erbyn unigolyn a enwir, er enghraifft aelod o staff.
Gallwn ddileu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, bostiadau y teimlwn eu bod yn amhriodol. Mae hyn yn cynnwys trafod achosion personol ac unigolion mewn sylwadau.
Er enghraifft, cyfeiriad at enwau unigolion, dyddiad geni neu leoliad neu fanylion penodol ynghylch LPA a allai wneud unigolyn yn adnabyddadwy.
Rydym yn defnyddio ffilterau i guddio anweddustra yn awtomatig, a byddwn yn defnyddio ein disgresiwn ein hunain i guddio neu ddileu sylwadau sy’n mynd yn groes i’n canllawiau cymunedol. Mae’n bosibl y bydd eich sylw yn dal yn weladwy i chi, ond ni fydd yn weladwy i eraill. Ar adegau prin, efallai y byddwn yn rhwystro defnyddwyr o’r dudalen os ydynt yn parhau i dorri’r canllawiau cymunedol.
Adrodd am sylw
Os gwelwch rywbeth nad yw’n ymddangos yn iawn, neu sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, rhowch wybod i ni trwy neges uniongyrchol ar y sianel.
Rydyn ni ar-lein
Mae ein sianeli Facebook, X, LinkedIn, Instagram a YouTube yn cael eu cymedroli o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am – 4pm.
Ymateb i sylwadau a negeseuon
Nid yw ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio fel sianel gwasanaeth cwsmeriaid, ac ni fyddwn yn gallu gwneud sylwadau ar achosion penodol neu bersonol.
-
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol a Chwestiynau Cyffredin ewch i’n tudalennau ‘atebion i’ch cwestiynau’
- Ar gyfer ymholiadau ynghylch achosion penodol a cheisiadau Atwrneiaeth Arhosol (LPA) gallwch anfon e-bost at customerservices@publicguardian.gov.uk neu ffonio 0300 456 0300. Bydd yn ddefnyddiol pe bai gennych eich gwybodaeth LPA wrth law. Mae rhestr lawn o’r hyn i’w gynnwys yn eich e-bost ar gael ar ein blog.
- Ar gyfer cwynion, gweler gweithdrefn gwyno’r OPG
- Am ragor o wybodaeth a diweddariadau gwasanaeth ewch i www.gov.uk/opg
Ymholiadau cyfryngau
Dylid cyfeirio pob ymholiad gan y cyfryngau at Swyddfa’r Wasg y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ).
Adolygwyd ddiwethaf: Awst 2024