Cynllun iaith Gymraeg
Mae’r cynllun hwn yn nodi sut bydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.
Cynllun Iaith Gymraeg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Cafodd y cynllun hwn ei baratoi dan adran 21 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg dan adran 9 o’r Ddeddf. Cafodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei ddiddymu ar 31 Mawrth 2012 yn dilyn cymeradwyo Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Cafodd gwaith y bwrdd ei drosglwyddo i Gomisiynydd y Gymraeg ac i Lywodraeth Cymru.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn cyflwyno safonau statudol a fydd yn disodli cynlluniau iaith Gymraeg. Bydd y safonau’n pennu sut y dylai sefydliadau penodol ddefnyddio’r Gymraeg. Mae nifer o sefydliadau eisoes yn gweithredu Safonau’r Gymraeg. Dros amser, bydd mwy o sefydliadau’n dod dan ddyletswydd statudol i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg wrth i’r system honno ddisodli’r system cynlluniau iaith Gymraeg a ddarparwyd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Ar hyn o bryd, nid oes gan rai sefydliadau, megis Cyrff y Goron, fel Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â’r Safonau. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu na fydd gofyniad ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn y dyfodol. Yn y cyfamser, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i weithredu ei chynllun iaith Gymraeg a bydd yn ei adolygu er mwyn ei gryfhau, ac yn adolygu’r cynllun hwn cyn pen tair blynedd iddo ddod i rym.
Cafodd y cynllun diwygiedig hwn ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 28 Chwefror 2020.
Rhagair gan Nick Goodwin
Y Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi cynllun yn egluro sut bydd y gwasanaethau hynny’n cael eu darparu yn Gymraeg.
Rydym wedi mabwysiadu’r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, i’r graddau y bo hynny’n briodol dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.
Rwyf yn falch o gyflwyno ein cynllun Iaith Gymraeg sy’n egluro sut byddwn yn rhoi’r egwyddor honno ar waith wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys unigolion, personau gyfreithiol a chyrff corfforaethol, gan gynnwys mudiadau gwirfoddol; elusennau, cyfarwyddwyr ac eraill sy’n cynrychioli cwmnïau cyfyngedig. Nid yw’n cynnwys pobl sy’n gweithredu mewn capasiti sy’n cynrychioli’r Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth.
Nick Goodwin
1. Cyflwyniad
1.1 Ein sefydliad
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn darparu gwasanaethau i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch materion eiddo ac ariannol ac iechyd a lles ar ran pobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud hynny dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
O 31 Gorffennaf 2019, roedd cyfrifoldebau OPGs yn ymestyn i gefnogi gwneud penderfyniadau eiddo ac ariannol ar ran pobl ar goll o dan Ddeddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder ac mae ganddi swyddfeydd yn Llundain, Birmingham a Nottingham. Mae’n gweithio yng Nghymru ac yn Lloegr, ac mae trefniadau ar wahân yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Sefydlwyd OPG ar 1 Hydref 2007 i gefnogi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni’r swyddogaethau cyfreithiol canlynol yr MCA
- cynnal cofrestr o atwrneiaethau arhosol (LPA) ac atwrneiaethau parhaus (EPA)
- cadw cofrestr o orchmynion llys sy’n penodi dirprwyon
- goruchwylio dirprwyon a benodir gan y Llys Gwarchod
- ymchwilio i sylwadau am atwrneiod neu ddirprwyon cofrestredig
O 31 Gorffennaf 2019, roedd y swyddogaethau hyn yn ymestyn i
- cadw cofrestr o orchmynion llys sy’n penodi gwarcheidwaid
- goruchwylio gwarcheidwaid a benodir gan yr Uchel Lys
- ymchwilio i sylwadau am warcheidwaid cofrestredig
Yn Saesneg, enw’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw Office of the Public Guardian (OPG).
2. Cynllunio a darparu gwasanaethau
2.1 Polisïau a chynlluniau
Bydd ein polisïau, ein mentrau a’n gwasanaethau’n gyson â’r cynllun hwn. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg am gynigion a fydd yn effeithio ar y cynllun hwn neu’n effeithio ar gynlluniau sefydliadau eraill. Ni fyddwn yn addasu’r cynllun hwn heb gael cymeradwyaeth y Comisiynydd.
Pan fyddwn yn ystyried datblygu a gweithredu polisïau a mentrau, byddwn yn sicrhau bod y staff a’r cynghorwyr a fydd yn ymwneud â’r gwaith yn ymwybodol o’r cynllun a’n cyfrifoldebau dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg.
Byddwn yn asesu canlyniadau ieithyddol unrhyw bolisïau neu fentrau a fydd yn effeithio ar ein gwasanaeth i’r cyhoedd yng Nghymru. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod ein polisïau a’n mentrau yn hyrwyddo ac yn hwyluso defnyddio’r Gymraeg ac yn symud y sefydliad yn nes at drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
Bydd pob polisi a menter yn gyson a’r cynllun hwn a’r mesurau sydd ynddo ac ni fyddant yn ei danseilio.
Pan fo’n bosibl, bydd ein dogfennau ymgynghori yn trafod y berthynas rhwng y Gymraeg a’r polisïau, y mentrau a’r gwasanaethau sy’n cael eu datblygu.
Byddwn yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod deddfwriaeth newydd yn cefnogi defnyddio’r Gymraeg.
Pan fyddwn yn cyfrannu at ddatblygu a/neu gyflawni polisïau, mentrau, gwasanaethau neu ddeddfwriaeth a arweinir gan sefydliadau eraill, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n gyson â’r cynllun hwn.
2.2 Darparu gwasanaethau
Byddwn yn sicrhau bod cynifer â phosibl o’n gwasanaethau ar gael yn Gymraeg – a byddwn yn rhoi gwybod i’r cyhoedd sut mae cael mynediad atynt.
Er enghraifft, byddwn yn cynnwys is-bennawdau ar ein holl ffurflenni a fydd yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr eu bod ar gael yn Gymraeg; bydd defnyddwyr yn gallu defnyddio botwm toglo ar ein tudalennau GOV.uk i symud rhwng y tudalennau Cymraeg a Saesneg; ac ar wahoddiadau byddwn yn rhoi gwybod i bobl y bydd gwasanaethau cyfieithu ar gael ar gyfer cyfarfodydd.
2.3 Gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan drydydd partïon ar ran Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Bydd unrhyw drefniadau a wnawn â thrydydd partïon yn gyson â’r rhannau perthnasol yn y cynllun hwn.
2.4 Safonau ansawdd
Bydd ansawdd y gwasanaethau Cymraeg a Saesneg a gynigir o’r un safon, a bydd y gwasanaethau’n cael eu darparu o fewn yr un amserlen.
3. Ymdrin â’r cyhoedd Cymraeg eu hiaith
Ar adeg y cyswllt cyntaf gofynnir i gwsmeriaid newydd os yw’n well ganddynt gyfathrebu â ni yn Gymraeg ynteu Saesneg a byddwn yn rhoi gwybod i’n cwsmeriaid presennol bod y gwasanaeth ar gael iddynt. Bydd yr ymatebion yn cael eu rhoi ar gofnod canolog a bydd yr holl gyfathrebu â’r cwsmer yn y dyfodol yn cael ei wneud yn yr iaith o’u dewis.
Byddwn yn defnyddio system sgorio, i’w gytuno arni gyda’r Comisiynydd, er mwyn nodi’n wrthrychol unrhyw ohebiaeth safonol neu gylchlythyr y bydd angen eu cyhoeddi yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog (er enghraifft, pan fydd yr ohebiaeth yn dechnegol neu’n hir iawn).
3.1 Cyfathrebu’n ysgrifenedig (gan gynnwys e-bost)
Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd ohebu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Bydd unrhyw un sydd eisiau cyfathrebu â ni trwy e-bost yn Gymraeg yn cael cydnabyddiaeth awtomatig safonol ddwyieithog; bydd y gydnabyddiaeth hon yn rhoi gwybod iddynt y byddwn yn anfon ymateb Cymraeg llawn os ydynt wedi anfon neges Gymraeg atom.
Pan fyddwn yn cael gohebiaeth yn Gymraeg, byddwn yn ateb yn Gymraeg o fewn yr un amserlen â gohebiaeth Saesneg. Pan na fydd modd i ni ateb yn llawn o fewn yr amserlen honno, byddwn yn ysgrifennu ac yn egluro hynny yn Gymraeg.
Oherwydd cyfraith diogelu data, nid yw’n bosibl delio ag ymholiadau dros e-bost bob tro. Yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn anfon llythyr Cymraeg neu ddwyieithog yn ymateb i neges e-bost o fewn yr un amserlen y byddem yn ei dilyn wrth ddelio â gohebiaeth arall.
Ni ddylai gohebiaeth Gymraeg arwain at oedi.
Yn amodol ar y system sgorio a nodir uchod, pan fyddwn yn anfon gohebiaeth safonol neu gylchlythyr at nifer o dderbynwyr yng Nghymru, bydd yn ddwyieithog oni bai ein bod yn gwybod y byddai’n well gan yr holl dderbynwyr dderbyn yr ohebiaeth yn Gymraeg yn unig neu yn Saesneg yn unig.
Os oes rhaid cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg o unrhyw ohebiaeth ar wahân, ein harfer fydd sicrhau bod y naill fersiwn a’r llall ar gael ar yr un pryd.
Bydd atodiadau a anfonir gyda llythyrau Cymraeg neu ddwyieithog yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, (pa un bynnag sy’n berthnasol), pan fyddant ar gael.
Bydd yr holl ohebiaeth Gymraeg y byddwn yn ei chyhoeddi yn cael ei llofnodi yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.
3.2 Llythyrau penderfyniad
Llythyr penderfyniad yw llythyr sydd wedi’i anelu at gynulleidfa gyhoeddus ehangach.
Os bwriedir i lythyr penderfyniad gyfleu polisi i gynulleidfa ehangach o lawer na’r rheini a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol ag ymchwiliad neu weithdrefn statudol arall, byddwn yn trin hwnnw, dan y cynllun hwn, fel cyhoeddiad.
3.3 Cyfathrebu dros y ffôn
Oherwydd ein lleoliad, nid yw’n ymarferol i ni gynnal sgyrsiau dros y ffôn yn Gymraeg. Fodd bynnag, os bydd rhywun sy’n ffonio’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, byddant yn cael dau ddewis:
- parhau â’r alwad yn Saesneg
neu
- ysgrifennu atom yn Gymraeg a chael ymateb ysgrifenedig i’r ymholiad yn Gymraeg
3.4 Cynadleddau a chyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru
Rydym yn croesawu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn ein cynadleddau a chyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru. Byddwn yn nodi hyn mewn deunyddiau cyhoeddusrwydd a byddwn yn rhoi gwybod i’r cyhoedd sut mae modd iddynt roi gwybod i ni ymlaen llaw eu bod yn dymuno siarad yn Gymraeg. Os byddant yn gwneud hynny, byddwn yn sicrhau y bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.
Byddwn yn sicrhau bod hysbysiadau cyhoeddus, gwahoddiadau a mathau eraill o wybodaeth sy’n egluro’r trefniadau ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu hanfon yn Gymraeg at y bobl hynny y gwyddom fod yn well ganddynt gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad yw’r dewis iaith yn hysbys, bydd dogfennau dwyieithog ar gael.
Cyhoeddir yr holl adroddiadau a phapurau sy’n dilyn cyfarfodydd cyhoeddus yn Gymraeg ac yn Saesneg.
3.5 Ymweliadau
Mae ymwelwyr yn darparu cyngor annibynnol i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Llys Gwarchod; mae’n rhaid iddynt adrodd ar achosion gyda gorchmynion dirprwy, atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus gofrestredig.
Cyn i ni gynnal ymweliadau yng Nghymru, byddwn yn anfon gwahoddiadau a gwybodaeth Gymraeg i’r rheini sydd wedi dweud wrthym fod arnynt eisiau cyfathrebu yn Gymraeg. Os nad ydym yn gwybod eu dewis iaith, byddwn yn anfon gwybodaeth ddwyieithog.
Byddwn yn gofyn i’r rheini sy’n cael ymweliad a ydynt yn dymuno cael asesiad yn Gymraeg, a byddwn yn darparu’r asesiad yn unol â’u dewis iaith. Mae gennym dri o ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg. Bydd hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
3.6 Delio â’r cyhoedd yng Nghymru mewn ffyrdd eraill
Rydym yn gwerthfawrogi barn ein holl ddefnyddwyr a’n sefydliadau partner.
Pan fyddwn yn cynnal arolygon cyhoeddus ein harfer fydd rhoi cyfle i’r ymatebwyr ymateb yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac os dymunir, bydd holl agweddau’r arolwg yn cael eu cynnal yn Gymraeg.
Pan fyddwn yn trefnu seminarau, cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau tebyg i’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn asesu’r angen i’w darparu yn Gymraeg. Yn ystod yr asesiad, byddwn yn ystyried dewis iaith y rheini a fydd yn bresennol ac a oes hyfforddwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael
4. Wyneb Cyhoeddus Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
4.1 Ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, arddangosfeydd a hysbysebu
Byddwn yn cynhyrchu ein holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd, gwybodaeth gyhoeddus, deunyddiau arddangos a deunyddiau hysbysebu sydd i’w defnyddio yng Nghymru naill ai:
- yn Gymraeg
- yn ddwyieithog
- fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân
Os byddwn yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant o’r un maint ac ansawdd ac yn cael yr un amlygrwydd. Bydd y ddau fersiwn ar gael ar yr un pryd a byddant yr un mor hygyrch â’i gilydd.
Bydd hysbysebion a deunyddiau eraill a roddir mewn papurau newydd (neu debyg) Saesneg sy’n cael eu dosbarthu’n bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru yn ddwyieithog neu’n ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân.
Os byddwn yn gosod fersiynau Cymraeg a Saesneg, bydd hynny ar yr un pryd a byddant o’r un maint ac ansawdd ac yn cael yr un amlygrwydd.
Byddwn yn rhoi hysbysebion Cymraeg yn unig mewn cyhoeddiadau Cymraeg .
Bydd hysbysebion teledu, sinema, band eang a radio yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd ymgyrchoedd teledu ar S4C yn ystod oriau rhaglenni Cymraeg yn Gymraeg. Bydd ymgyrchoedd radio a fydd yn cael eu darlledu yn ystod rhaglenni Cymraeg ar orsafoedd radio masnachol yn Gymraeg.
Byddwn yn osgoi defnyddio is-deitlau neu ddybio hysbysebion i’r Gymraeg (ac eithrio trosleisio).
Bydd arddangosfeydd clyweledol, teithiau sain a chyfryngau rhyngweithiol yn ddwyieithog.
4.2 Hunaniaeth gorfforaethol
Byddwn yn mabwysiadu hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog lawn ar bob gohebiaeth, dogfen a chyhoeddiad a gynhyrchir ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys y cyfieithiad Cymraeg o enw’r Swyddfa (Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus).
Byddwn yn darparu cyfieithiadau a gwaith celf i gyhoeddwyr, asiantau, contractwyr ac eraill y bydd angen iddynt atgynhyrchu ein delwedd gorfforaethol.
4.3 Cyhoeddiadau a ffurflenni
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd yr holl ddeunyddiau sydd wedi’u hanelu at y cyhoedd yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi a’u hargraffu ar ffurf ddwyieithog pan fydd hynny’n rhesymol ymarferol, gan ystyried maint, cymhlethdod a chost.
Os na allwn ddarparu fersiwn dwyieithog, bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân yn cael eu darparu ar yr un pryd.
Bydd yr holl ddeunyddiau Cymraeg neu ddwyieithog a gynhyrchir ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru yr un fath â’r fersiynau Saesneg o ran maint a fformat. Byddwn yn sicrhau pan fydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân yn cael eu cynhyrchu eu bod yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd.
Byddwn yn ymgynghori â sefydliadau sy’n gweithredu ar ein rhan i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru pan fyddwn yn datblygu polisïau a mentrau sy’n effeithio ar y gwasanaethau hynny a sicrhau eu bod yn gweithredu yn unol â’n cynllun Iaith Gymraeg.
Bydd yr holl ddogfennau sy’n cael eu cyhoeddi yn Saesneg hefyd yn cael eu cyhoeddi neu ar gael i’r cyhoedd yn Gymraeg.
Byddwn yn sicrhau bod ein holl gyhoeddiadau dwyieithog neu Gymraeg ar gael ochr yn ochr â’r fersiynau Saesneg mewn print neu ar ein gwefan yn GOV.UK ac ar yr un pryd.
Byddwn yn cyfieithu ffurflenni a dderbynnir yn Gymraeg i’r Saesneg am ddim.
4.4 Y rhyngrwyd
Nid oes gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wefan annibynnol: rydym yn cyhoeddi ar GOV.UK sef y wefan ar gyfer Llywodraeth y DU sy’n cael ei chynnal gan wasanaeth digidol y llywodraeth, sy’n rhan o Swyddfa’r Cabinet.
Ni sy’n gyfrifol am ddarparu’r cynnwys ar ein tudalennau unigol ar y wefan hon, megis ein hafan, ein ffurflenni a’n canllawiau a byddwn yn sicrhau bod y rhain ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae gwasanaeth digidol y llywodraeth yn gyfrifol am ddarparu cynnwys prif ffrwd, megis rhyngwynebau a dewislenni cyffredinol ar GOV.UK, gan gynnwys ar ein tudalennau unigol.
Er mwyn sicrhau nad yw’r cynnwys hynny nad yw ar gael yn Gymraeg yn effeithio ar allu siaradwyr Cymraeg i ddod o hyd i wybodaeth, rydym wedi creu tudalen fynegai Gymraeg i helpu defnyddwyr i gael gafael ar ein holl gynnwys Cymraeg mewn un lle.
4.5 Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu
Byddwn yn datblygu, yn dylunio ac yn prynu cynnyrch a gwasanaethau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn unol â’r cynllun hwn.
Byddwn yn addasu ein systemau TGCh presennol i sicrhau ein bod yn gallu darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg.
Wrth i ni ddatblygu neu gaffael systemau TGCh byddwn yn ystyried canllawiau Comisiynydd y Gymraeg ar Dechnoleg, Gwefannau a Meddalwedd: Ystyried y Gymraeg.
4.6 Hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau recriwtio staff
Pan fyddwn yn cynhyrchu hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau recriwtio staff ar gyfer papurau newydd (neu gyhoeddiadau tebyg) Saesneg sydd ar gael yn bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru, byddant:
- yn ddwyieithog
neu
- yn ymddangos ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg
Bydd hysbysiadau mewn cyhoeddiadau Cymraeg yn Gymraeg
Mewn fersiynau dwyieithog neu fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd hysbysiadau yr un fath o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd.
Os byddwn yn hysbysebu swydd sy’n gofyn am siaradwr Cymraeg mewn cyhoeddiad Saesneg, efallai byddwn yn ysgrifennu’r hysbyseb yn Gymraeg gyda disgrifiad byr yn Saesneg.
Bydd hysbysiadau recriwtio mewn cyfnodolion Saesneg a chyhoeddiadau Saesneg eraill sy’n cael eu dosbarthu ar draws y DU yn y Saesneg, oni bai ei bod yn rhaid i ddeilydd y swydd siarad Cymraeg. Yn yr achos hwnnw, bydd yr hysbysiad yn ddwyieithog neu yn Gymraeg gydag esboniad byr yn Saesneg.
Bydd hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus neu hysbysiadau recriwtio staff a osodir mewn mannau eraill yng Nghymru yn ddwyieithog.
4.7 Datganiadau i’r wasg a chyswllt â’r cyfryngau
Bydd datganiadau i’r wasg a’r cyfryngau darlledu Cymraeg yng Nghymru yn Gymraeg, pan fydd terfynau amser yn caniatáu hynny. Pan fyddwn yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg ar y wefan GOV.UK, ein harfer fydd cyhoeddi’r rhain yn Gymraeg ac yn Saesneg a phan na fydd terfynau amser yn caniatáu hynny, byddwn yn sicrhau bod fersiwn Cymraeg ar gael mor fuan ag sy’n bosibl ar ôl hynny.
5. Recriwtio a hyfforddi
5.1 Staff
Nid oes gennym swyddfa yng Nghymru. Fodd bynnag, byddwn yn gofyn i staff os oes ganddynt sgiliau Cymraeg a byddwn yn cadw cofnod o hynny.
5.2 Recriwtio
Byddwn yn ystyried a ddylai rhuglder yn y Gymraeg fod yn sgìl dymunol neu hanfodol ar gyfer swyddi sy’n golygu cyswllt helaeth a rheolaidd gyda’r cyhoedd yng Nghymru; os felly, bydd hyn yn cael ei nodi yng nghymwyseddau’r swydd ac yn yr hysbysebion.
5.3 Hyfforddiant ieithyddol
Byddwn yn cefnogi ac yn talu am hyfforddiant i staff sydd, fel rhan o’u dyletswyddau, yn cael cyswllt helaeth neu reolaidd gyda’r cyhoedd yng Nghymru ac sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu wella eu Cymraeg. Byddwn yn caniatáu i staff fynychu hyfforddiant yn ystod oriau gwaith.
5.4 Hyfforddiant galwedigaethol
Pan fo’n ymarferol, byddwn yn darparu hyfforddiant galwedigaethol yn Gymraeg i ddatblygu gallu staff sydd â chyswllt helaeth a rheolaidd â’r cyhoedd yng Nghymru fel rhan o’u dyletswyddau.
5.5 Gweithio mewn partneriaeth
Pan fyddwn yn arweinydd strategol neu ariannol mewn partneriaeth ffurfiol, byddwn yn sicrhau bod unrhyw agweddau gwasanaeth cyhoeddus yn cydymffurfio â’r cynllun hwn.
Pan fyddwn yn ymuno â phartneriaeth ffurfiol a arweinir gan sefydliad arall, byddwn yn cydymffurfio â’r cynllun hwn ac yn annog y partneriaid eraill i gydymffurfio.
Pan fyddwn yn bartner mewn consortiwm, byddwn yn annog y consortiwm i gydymffurfio â´r cynllun hwn. Pan fyddwn yn gweithredu yn enw’r consortiwm, byddwn yn gweithredu’n unol â’r cynllun hwn.
Mae’r uchod yn cyfeirio at bartneriaethau ffurfiol yn unig a fydd yn delio â gwasanaethau sydd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru
6. Trefniadau mewnol
Bydd y mesurau yn y cynllun hwn yn cael eu hintegreiddio i weinyddiaeth arferol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
6.1 Cyfrifoldeb
Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn llwyr awdurdodi a chefnogi’r ymrwymiadau a’r trefniadau a nodir yn y cynllun hwn.
Bydd rheolwyr lleol yn gyfrifol am weithredu’r cynllun o ddydd i ddydd. Bydd penaethiaid timau’n gyfrifol am gydymffurfio yn gyffredinol. Byddwn yn penodi uwch aelod o staff i gydlynu’r gwaith sydd ei angen i gyflawni, i fonitro ac i adolygu’r cynllun hwn.
Byddwn yn paratoi ac yn diweddaru cynllun gweithredu manwl yn barhaus, i’w gytuno arno gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Bydd yn datgan sut byddwn yn gweithredu yn unol â’r cynllun hwn.
Daw’r cynllun gweithredu i rym ar y dyddiad pan ddaw’r cynllun i rym, neu cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl hynny. Bydd y cynllun yn cynnwys targedau, amseroedd targed a byddwn yn darparu adroddiad cynnydd blynyddol i’r Comisiynydd ar gyfer pob targed . Nod cyffredinol y cynllun gweithredu yw sicrhau ein bod yn adeiladu ar yr ymrwymiadau a nodir yn y cynllun hwn.
6.2 Cyfarwyddiadau a chanllawiau
Bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi mewn lle amlwg ar y fewnrwyd a bydd rheolwyr llinell yn sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau yn y gwaith. Bydd canllawiau i staff yn cael eu cyhoeddi ar y fewnrwyd ar:
- ddelio â gohebiaeth yn Gymraeg
- defnyddio Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi ac opsiynau achrededig eraill
- pryd dylid cyhoeddi dogfennau, cyhoeddiadau neu ddeunydd cyhoeddusrwydd yn ddwyieithog, neu yn y Gymraeg a’r Saesneg
- goblygiadau’r cynllun hwn i’r rhai hynny sy’n caffael gan drydydd parti
Pan nad yw’r cynllun hwn yn sôn yn benodol am gyswllt â’r cyhoedd yng Nghymru, bydd staff yn gweithio yn unol ag egwyddorion cyffredinol y cynllun.
6.3 Cyhoeddusrwydd
Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynllun, ar ôl i Gomisiynydd y Gymraeg gytuno arno a’i gymeradwyo.
Yn fewnol, bydd y cynllun yn cael cyhoeddusrwydd yn ein:
- cylchlythyr staff
- y fewnrwyd
- sesiynau briffio timau
- hyfforddiant
Yn allanol, bydd y cynllun yn cael cyhoeddusrwydd:
- drwy ddatganiadau i’r wasg
- mewn safle amlwg ar GOV.UK
- yn ein cyhoeddiadau rheolaidd i gwsmeriaid
6.4 Deddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
Pan fyddwn yn rhyddhau gwybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, byddwn yn cyfieithu’r wybodaeth honno i ddewis iaith y sawl sy’n gofyn am yr wybodaeth.
Bydd crynodeb o unrhyw wybodaeth yn cael ei ddarparu yn newis iaith y sawl sy’n gofyn am yr wybodaeth, Cymraeg neu Saesneg, am ddim, yn yr un modd ag unrhyw wybodaeth a ddylai eisoes fod ar gael yn y naill iaith a’r llall dan y cynllun iaith Gymraeg.
7 Monitro ac adrodd
Bydd y tîm polisi yn monitro ac yn adolygu’r cynllun hwn.
7.1 Monitro
Byddwn yn monitro perfformiad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ran cyflawni’r ymrwymiadau a wneir yn y cynllun hwn yn erbyn y targedau a bennir yng nghynllun gweithredu’r cynllun. Byddwn yn cofnodi’r galw am wasanaethau Cymraeg, gan gynnwys unrhyw alw am wasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i’n hymrwymiadau presennol.
Byddwn yn sefydlu trefniadau i fonitro ein perfformiad, a pherfformiad unrhyw drydydd parti sy’n darparu neu’n gweinyddu gwasanaethau ar ein rhan, o ran diwallu’r ymrwymiadau a wneir yn y cynllun hwn.
Pan ofynnir i ni wneud hynny, byddwn yn adrodd i Gomisiynydd y Gymraeg ar ein cynnydd. Bydd y math o wybodaeth y byddwn yn adrodd arni yn cynnwys y canlynol, ond heb ei gyfyngu i’r rhain:
- cydymffurfio â’r cynllun iaith Gymraeg
- y graddau y mae’r Gymraeg yn rhan annatod o waith Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- cwynion am ddarpariaeth Gymraeg a’n hymatebion
7.2 Adrodd am berfformiad
Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth a fydd yn cymharu perfformiad â’r safonau a’r targedau a nodir yn y cynllun hwn yn Adroddiad Blynyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (neu ddogfen debyg). Byddwn hefyd yn cynhyrchu adroddiad monitro dwyieithog erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn, a fydd yn adrodd ar y flwyddyn ariannol flaenorol, hynny yw 1 Ebrill i 31 Mawrth.
7.3 Adolygu a diwygio’r cynllun
Byddwn yn adolygu’r cynllun hwn cyn pen tair blynedd iddo ddod i rym.
O bryd i’w gilydd, efallai byddwn yn adolygu neu’n cynnig diwygiadau i’r cynllun hwn, er enghraifft, oherwydd newidiadau i swyddogaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Ni wneir unrhyw newidiadau i’r cynllun hwn heb gymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg.
8. Awgrymiadau a gwybodaeth gyswllt
8.1 Cwynion ac awgrymiadau ar gyfer gwella
Dylid anfon cwynion sy’n ymwneud â’r cynllun hwn, neu awgrymiadau ar gyfer ei wella, at yr uwch aelod o staff sy’n gyfrifol am y cynllun yn y cyfeiriad canlynol:
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Ebost: customerservices@publicguardian.gov.uk
Byddwn yn cydweithredu â Chomisiynydd y Gymraeg i ddatrys cwynion ac yn ystod unrhyw ymchwiliadau a gynhelir dan adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg
9. Cynllun gweithredu
Cam Gweithredu | Dyddiad targed | |
2. Cynllunio a darparu gwasanaethau | Byddwn yn sicrhau bod yr holl staff sy’n gyfrifol am bolisïau, mentrau a darparu gwasanaethau (presennol a newydd) yn ymwybodol o ymrwymiadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus dan y cynllun hwn. | Erbyn 30 Ebrill 2020 |
Byddwn yn ystyried y Gymraeg mewn asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb. | Erbyn 30 Ebrill 2020 | |
3. Ymdrin â’r cyhoedd Cymraeg eu hiaith | Byddwn yn rhoi mesurau ar waith i ganfod dewis iaith cwsmeriaid ar gyfer cyfathrebu adeg y cyswllt cyntaf. | Mae mesurau ar waith; bydd y rhain yn cael eu cryfhau wrth i ni barhau i ddatblygu ein systemau TG. |
4.Wyneb Cyhoeddus Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus | Byddwn yn cynhyrchu fersiynau Cymraeg o lyfrynnau canllaw a bydd y rhain ar gael ar GOV.UK. | Mae’r rhan fwyaf o’n llawlyfrau canllaw ar gael ar GOV.UK yn Gymraeg ac mae’r gweddill yn cael eu disodli, pan fo’n berthnasol, gyda chanllawiau wedi’u diweddaru, a fydd hefyd ar gael yn Gymraeg, dros yr 1 - 2 flynedd nesaf. Bydd yr holl nodiadau Ymarfer ar gael yn Gymraeg erbyn 31 Gorffennaf 2020. Bydd cyfres o ganllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer atwrneiod a dirprwyon ar gael erbyn 31 Gorffennaf 2020. |
Byddwn yn sicrhau bod unrhyw wasanaethau digidol sy’n wynebu’r cyhoedd yn y dyfodol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ddiofyn | Fel rhan o hynny, byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau Atwrniaeth Arhosol ar gael yn Gymraeg ar y cyfle cyntaf posib. Y bwriad yw disodli’r system Atwrniaeth Arhosol presennol gyda gwasanaeth cwbl ddigidol ac rydym wedi clustnodi 4 mis o Awst 2019 ar gyfer ystyried opsiynau posib ar sut i alluogi hynny i ddigwydd. Un o’r camau sy’n gysylltiedig â datblygu’r gwasanaeth cwbl ddigidol hwn yw sicrhau y bydd gwasanaeth byw ‘Defnyddio fy Atwrniaeth Arhosol’ byw ar gael yn Gymraeg erbyn 30 Ebrill 2020. Bydd y gwasanaeth hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr sydd eisoes â Phwer Atwrnai Parhaol rannu’r manylion hynny gyda banciau a darparwyr gofal iechyd ac ati yn ddigidol. Byddwn yn darparu diweddariad i’r Comisiynydd bob 6 mis ynghylch datblygiad gwasanaeth Atwrniaeth Arhosol cwbl ddigidol, gan ddarparu’r diweddariad cyntaf erbyn 31 Rhagfyr 2019 | |
5. Recriwtio a hyfforddi | Byddwn yn gofyn i’r holl staff pa sgiliau Cymraeg sydd ganddynt a byddwn yn cadw cofnod o’r wybodaeth hon. | Bydd yr ymarfer hwn yn cael ei wneud yn flynyddol. |
6. Trefniadau mewnol | Byddwn yn adolygu’r canllawiau i staff ar ein cynllun iaith Gymraeg i sicrhau ei fod yn dal yn berthnasol, ei fod yn codi ymwybyddiaeth a’i fod yn diwallu eu hanghenion. | 31 Rhagfyr 2019 |
Byddwn yn adolygu’r canllawiau i staff ar ein cynllun iaith Gymraeg i sicrhau ei fod yn dal yn berthnasol, ei fod yn codi ymwybyddiaeth a’i fod yn diwallu eu hanghenion.Byddwn yn atgoffa’r holl staff yn rheolaidd o’u cyfrifoldebau dan y cynllun hwn ac yn sicrhau bod y rhain yn cael eu hintegreiddio ym mhrosesau gweinyddol arferol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynllun yn fewnol ac yn allanol. | Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynllun ar ôl cymeradwyo ei ddiwygio. Byddwn yn anfon negeseuon atgoffa rheolaidd drwy ddulliau cyfathrebu mewnol a fydd yn cyd-daro â dyddiadau pwysig yng Nghymru, a chaiff hyn ei gynllunio’n flynyddol.Cyn pen mis o gymeradwyo’r cynllun hwn. | |
7. Monitro ac adrodd | Byddwn yn monitro’r galw am wasanaethau yn y Gymraeg, gan gynnwys unrhyw alw a fydd yn mynd y tu hwnt i’r ymrwymiadau rydym wedi’u gwneud yn ein cynllun. | Byddwn yn adolygu’r galw’n flynyddol. |
10. Y system sgorio ar gyfer cyhoeddiadau
Bydd y dogfennau canlynol yn cael eu cynhyrchu yn Gymraeg:
- Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol
- taflenni/llyfrynnau canllaw
- cylchlythyrau
- llythyrau at gwsmeriaid, pan fydd y cwsmer wedi gofyn am ohebiaeth yn Gymraeg
- ffurflenni statudol
- dogfennau ymgynghori
Os nad yw’r ddogfen yn y rhestr uchod, bydd y system sgorio isod yn cael ei defnyddio i benderfynu a ddylid cynhyrchu cyfieithiad Cymraeg
Sgorio:
0-6 pwynt = Saesneg yn unig ar hyn o bryd, ond efallai bydd rhaid ailfeddwl yn y dyfodol.
7-11 pwynt = dylai’r dogfennau fod yn uniaith/dwyieithog ond mae hyn yn dibynnu ar yr adnoddau cyfieithu sydd ar gael. Os penderfynir peidio â chyfieithu’r ddogfen yn ei chyfanrwydd, cynhyrchir crynodeb o’r ddogfen yn Gymraeg.
12+ pwynt = rhaid i’r dogfennau fod yn ddwyieithog.
Sylwer: Bydd y fformiwla yn adlewyrchu’r angen am ddogfennau dwyieithog yn y rhan fwyaf o achosion. Dylai’r staff feddwl yn ofalus wrth benderfynu ar gyfieithu, yn enwedig oherwydd y bydd eithriadau. Bydd y tîm polisi’n gallu rhoi cyngor.
Ystyriaethau | 1 pwynt | 2 bwynt | 3 phwynt |
1. Nifer y copïau a fydd yn cael eu hargraffu bob blwyddyn (os na chaiff y ddogfen ei hargraffu, faint o bobl fydd ar y rhestr ddosbarthu neu faint fydd yn lawrlwytho’r fersiwn electronig) | <500 | 501 - 2,000 | 2,000> |
2. Hyd (nifer y geiriau) | 2,000 > | 1,001 - 2,000 | <1,000 |
3. Natur dechnegol (ee, a fyddai’n annealladwy i ddarllenwr lleyg) | Byddai | ryw raddau | Na fyddai |
4. Am ba hyd y byddai’r cyhoeddiad yn cael ei ddefnyddio? | <6 mis | 6 - 24 mis | Mwy na 24 |
5. A yw’r ddogfen yn un uchel ei phroffil? A fydd llawer o bobl eisiau gweld y ddogfen, neu â diddordeb yn y ddogfen? | sel (proffil allanol isel) | Canolig (grwpiau penodol yn unig) | Uchel (cyfryngau; dogfen arweiniol) |
6. A yw’r cyhoeddiad yn delio â maes pwnc neu ran o Gymru sydd o ddiddordeb penodol wrth ystyried y Gymraeg? A yw’r cyhoeddiad wedi’i anelu’n benodol at ardaloedd sydd â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg? | Nac ydy | I ryw raddau | Ydy |