Gweithdrefn gwyno
Sut mae cwyno os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn gan aelod o staff Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn gan aelod o staff Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, dylech godi’r mater gyda’r aelod staff yn gyntaf.
Os nad yw hyn yn briodol, neu os gwelwch nad yw’r aelod staff dan sylw wedi datrys y mater, dylech ysgrifennu at:
Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol
Swyddfa Cymru
1 Pwynt Caspian
Caspian Way
Caerdydd
CF10 4DQ
Rhowch gymaint o wybodaeth â phosib ynghylch y broblem.
Bydd pennaeth y gwasanaethau corfforaethol un ai’n delio â’r gŵyn neu’n gofyn i gydweithiwr sydd â’r cymwysterau priodol wneud hynny. Fel rheol byddwn yn ymateb i chi o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich llythyr. Os oes angen mwy na 10 diwrnod gwaith ar gyfer yr ymchwiliad, byddwn yn ysgrifennu atoch i egluro’r oedi a rhoi gwybod i chi pa bryd y bydd adroddiad llawn yn cael ei anfon.
Os ydych yn dal i fod yn anhapus gyda’r ffordd y mae’r swyddfa wedi delio â’ch cwyn, gallwch ofyn i Aelod Seneddol (AS) gyfeirio’r mater i sylw’r Comisiynydd Seneddol dros Weinyddu (sy’n cael ei alw’n ombwdsmon).
Does dim rhaid i’r AS fod yn AS i chi. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cysylltu â’ch AS chi, ac os nad ydych yn gwybod pwy yw eich AS, mae’r wybodaeth ar gael ar wefan y Senedd. Mae’r ombwdsmon yn gwbl annibynnol ac mae ganddo bwerau i ymchwilio i gwynion am adrannau llywodraeth y DU.