Siarter gwybodaeth bersonol
Mae ein siarter gwybodaeth bersonol yn cynnwys y safonau y gallwch eu disgwyl pan fyddwn yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol neu’n cadw eich gwybodaeth bersonol. Mae hefyd yn rhoi sylw i’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi, i'n helpu ni i ddiweddaru'r wybodaeth.
Mae gennych hawl mynediad statudol (ceir rhai eithriadau) i ddata personol amdanoch chi o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
Mae’r hawl mynediad hwn i ddata personol ar gyfrifiadur neu ar ffeiliau strwythuredig a gedwir â llaw. Mae gennych hawl i gael gwybod a yw’r ‘rheolydd data’ yn cadw unrhyw ddata amdanoch chi – yn yr achos hwn, Swyddfa Cymru, ac os felly:
- hawl i gael disgrifiad o’r data
- hawl i gael gwybod i ba bwrpas y mae’r data’n cael ei brosesu
- hawl i gael gwybod pwy yw’r derbynwyr neu’r dosbarthiadau o dderbynwyr y datgelir y data iddynt neu y gellid datgelu’r data iddynt.
Mae gennych hefyd hawl i gael copi o’r wybodaeth gydag esboniad o unrhyw dermau cymhleth ac i gael unrhyw wybodaeth sydd ar gael i’r swyddfa ynghylch ffynhonnell y data.
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 wedi ymestyn yr hawl hwn i ganiatáu mynediad i ddata personol a ddelir mewn unrhyw fath o ffeil.
Cewch wneud cais am fynediad i’ch data personol chi. Gelwir hyn yn ‘gais i weld gwybodaeth’. Dylech gysylltu â Swyddfa Cymru yn correspondence@ukgovwales.gov.uk i wneud cais.
Rhaid ymdrin â chais i gael mynediad i ddata personol yn brydlon, o fewn 40 diwrnod i dderbyn y cais. Efallai y byddwn yn codi ffi, na fydd yn fwy na £10.
Os credwch nad yw eich cais am fynediad i’ch data personol wedi cael sylw yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, gallwch ysgrifennu at y Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF