Ein llywodraethiant

Y fframwaith llywodraethu ar gyfer PecynUK.


Llywodraethu PecynUK

Mae fframwaith llywodraethu wedi’i ddatblygu ar gyfer PecynUK er mwyn goruchwylio’r broses o ddechrau a gweithredu holl weithgareddau PecynUK. Mae’r strwythur llywodraethu yma yn cynnwys Bwrdd Llywio o Weinidogion o’r Pedair Gwlad, Pwyllgor Gweithredol a Phwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg ymgynghorol.

Galwad ar arbenigwyr diwydiant i ymuno â grwpiau cynghori allweddol PecynUK

Mae PecynUK, y gweinyddwr sydd newydd ei benodi ar gyfer y cynllun pEPR, wedi ymrwymo i weithio gydag arbenigwyr o bob rhan o’r gadwyn werth pecynwaith i’w arwain yn ei waith.  

Bydd y berthynas waith agos yma yn cael ei chefnogi gan gyngor arbenigol gan y pedwar bwrdd cynghori canlynol;  

  • Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun  

  • Pwyllgor Cynghori Technegol Methodolegau Asesu Ailgylchadwyedd  

  • Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithiolrwydd ac Effeithlonrwydd 

  • Grŵp Cynghori ar Gyfathrebu a Newid Ymddygiad

Bydd argymhellion y grwpiau yma yn chwarae rhan ganolog i arwain PecynUK wrth iddo dyfu a datblygu.  

Bydd y pedwar grŵp cynghori gwirfoddol yma yn rhoi cyngor arbenigol ac argymhellion i dîm arweinwyr PecynUK. Fydd y grwpiau ddim yn gwneud penderfyniadau, ond yn ffynhonnell gwybodaeth a phrofiad dibynadwy sy’n cynnwys aelodau a fydd â thoreth o arbenigedd gweithredol ac arbenigedd polisi o amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.  

Mae Grŵp Llywio gwirfoddol Gweinyddwr y Cynllun (SASG) yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o lywodraethau pedair gwlad y Deyrnas Unedig, awdurdodau lleol a sectorau y mae cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (pEPR) wedi effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol, gan gyfarfod bob mis, mae SASG yn gwneud argymhellion i fwydo dyluniad gweithredol PecynUK, sut mae’n gweithredu a’i gyfeiriad strategol, gan gynnwys llywodraethu.

Aelodaeth Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun 

  • Cadeirydd Annibynnol: Sebastian Munden 

  • Pennaeth Gweinyddwr y Cynllun: Dr Margaret Bates 

Swyddogion o’r Llywodraethau: 

  • Rhodri Asby (Llywodraeth Cymru) 

  • Dexter Davis (Defra ar ran Lloegr) 

  • Shane Doris (DAERA ar ran Gogledd Iwerddon) 

  • David McPhee (Llywodraeth yr Alban) 

Cynrychiolwyr o’r Awdurdodau Lleol (Cymdeithasau Llywodraeth Leol): 

  • Silke Isbrand (Confensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban – COSLA) 

  • Craig Mitchell (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – CLlLC) 

  • Eamon Lally (Cymdeithas Llywodraeth Leol – LGA) 

  • Andrew Cassells (Cymdeithas Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon – NILGA) 

Busnesau/Cynhyrchwyr: 

  • Luke Emery (Aldi) 

  • Karen Graley (Annibynnol) 

  • Sokhna Gueye (Nestlé) 

  • Jim Bligh (Ffederasiwn Bwyd a Diod – FDF) 

  • Andrew Tighe (Cymdeithas Cyrfau a Thafarndai Prydain) 

  • Paul Vanston (Cyngor y Diwydiant ar gyfer Pecynwaith a’r Amgylchedd – INCPEN) 

  • Talia Goldman (Colpac) 

  • Ian Percival (Consortiwm Manwerthu Prydain – BRC) 

  • Irasema Hernandez Elvira (Roche) 

  • Catherine Marston (Booker) 

  • Robbie Staniforth (Ecosurety) 

  • Joe Muscat (Haleon) 

Rheoli gwastraff : 

  • Stuart Hayward-Higham (Suez) 

Sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol: 

  • Paula Chin (Y Gronfa Fyd-eang ar gyfer Natur – WWF UK)