Amdanom ni

Mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn ymchwilio i gŵynion am Gyllid a Thollau EM (CThEM) ac am Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Rydym yn adolygu penderfyniadau’r Swyddfa Gartref ynghylch hawl i iawndal o dan y Cynllun Iawndal Windrush. Yn ychwanegol, rydym yn ymchwilio i gŵynion ynghylch sut y gwnaeth y Swyddfa Gartref ddelio â hawliad am iawndal. Bydd Swyddfa’r Dyfarnwr yn ystyried a yw’r sefydliad wedi gweithredu ei reolau, safonau, arweiniad a chodau ymarfer yn deg ac yn gyson. Mae ein penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth ffeithiol y gŵyn neu’r cais am adolygiad.


Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Rôl Swyddfa’r Dyfarnwr yw:

  • darparu gwasanaeth hygyrch a hyblyg, a gwneud penderfyniadau teg a diduedd
  • cefnogi ac annog datrysiadau effeithiol
  • defnyddio dealltwriaeth ac arbenigedd i gefnogi’r sefydliadau i ddysgu o gŵynion ac i wella gwasanaethau i gwsmeriaid

Dysgwch ragor am yr hyn y gallwn ymchwilio iddo yn CThEM ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu yn y Swyddfa Gartref.

Annibyniaeth

Mae’r Dyfarnwr a Swyddfa’r Dyfarnwr yn darparu adolygiad annibynnol a diduedd o gŵynion.

Mae Swyddfa’r Dyfarnwr o fewn yr un endid cyfreithiol â Chomisiynwyr CThEM, ac mae’r staff yn gyflogeion CThEM.

Mae’r Dyfarnwr yn ddeiliad swydd – nid yw’n gyflogai CThEM nac yn swyddog i CThEM – ac mae’n gweithio y tu allan i CThEM. Mae ganddo’r awdurdod personol annibynnol i adolygu cwynion.

Diogelir yr annibyniaeth drwy delerau penodi’r Dyfarnwr.

Ein gwasanaeth i gwsmeriaid

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni

Byddwn yn:

  • eich trin mewn ffordd gwrtais a phroffesiynol
  • gofalu am yr wybodaeth a rowch i ni
  • cyfathrebu â chi gan ddefnyddio iaith syml, a chan osgoi jargon
  • esbonio sut yr ydym yn delio â’ch cwyn

Yr hyn a ddisgwyliwn gennych chi

Rydym yn disgwyl i chi drin ein staff, a’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu, â pharch. Mae ein polisi gweithredoedd cwsmeriaid yn esbonio sut yr ydym yn delio â gweithredoedd annerbyniol.

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau