Ein llywodraethiant

Cylch gwaith bwrdd adrannol Swyddfa Cymru.


Ein bwrdd adrannol

Mae’r bwrdd adrannol yn gyfrifol am adolygu strategaeth yr adran a monitro perfformiad yn erbyn ei Chynllun Cyflawni Canlyniadau.

Nod y bwrdd yw:

  • darparu arweinyddiaeth weladwy ac effeithiol i’r sefydliad
  • sicrhau bod adnoddau Swyddfa Cymru a’i risgiau corfforaethol yn cael eu rheoli’n gadarn
  • darparu amgylchedd gwaith diogel ac iach i staff ac ymwelwyr.

Mae’r bwrdd yn cyfarfod hyd at chwe gwaith y flwyddyn ac fel arfer mae’n cael ei gadeirio gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Cylch Gorchwyl Bwrdd Rheoli Swyddfa Cymru (PDF, 156 KB, 6 tudalen)

Mae tri is-bwyllgor sy’n adrodd yn rheolaidd i’r bwrdd rheoli:

Uwch Dîm Arwain

Mae Uwch Dîm Arwain y Swyddfa yn cynnwys Cyfarwyddwr a dirprwy gyfarwyddwyr yr adran. Mae’n cyfarfod bob wythnos i drafod materion gweithredol, gan gynnwys digwyddiadau mawr, adnoddau a materion cyllidebol. Gall y Bwrdd Adrannol gyfeirio materion i’r Uwch Dîm Arwain ar gyfer gweithredu a phenderfynu, a gall yr Uwch Dîm Rheoli uwchgyfeirio materion i’r Bwrdd ar gyfer goruchwylio a phenderfynu strategol.

Grŵp Llywodraethu’r DU

Mae’r Swyddfa yn rhan o Grŵp Llywodraethu’r DU (UKGG) sy’n cynnwys y Grŵp Undeb a Chyfansoddiad yn Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol; Swyddfa’r Alban; Swyddfa’r Adfocad Cyffredinol (OAG); a Swyddfa Cymru. Mae’r Grŵp yn arwain gwaith Llywodraeth y DU ar faterion cyfansoddiadol a datganoli ac ef yw’r brif ffynhonnell cyngor i Weinidogion ac Adrannau Llywodraeth y DU yn y maes hwn.

Mae’r Cyfarwyddwr yn mynychu cyfarfodydd wythnosol Uwch Dîm Arwain y Grŵp i drafod materion yn ymwneud â datganoli a’r cyfansoddiad sy’n croesi ffiniau adrannol.