Prif Weithredwr a Rheolwr Cyffredinol, IPO

Adam Williams

Bywgraffiad

Bywgraffiad

Penodwyd Adam yn Brif Weithredwr a Rheolwr Cyffredinol yn ffurfiol ym mis Rhagfyr 2022 (ar ôl bod yn Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro o fis Medi 2022).

Yn flaenorol, roedd Adam yn Gyfarwyddwr Busnes a Pholisi Rhyngwladol ac yn aelod o Fwrdd yr IPO, ac roedd yn gyfrifol am weithgareddau rhyngwladol y Swyddfa, trafodaethau masnach, cymorth i fusnesau’r DU a’r byd academaidd, yn ogystal â hybu’r ecosystem IP yn y DU.

Mae Adam wedi gweithio’n flaenorol yn Llywodraeth y DU ar faterion polisi Amddiffyn ac mae ganddo brofiad helaeth o ymdrin â materion polisi yn yr UE, y Cenhedloedd Unedig a NATO yn ogystal â chynnal trafodaethau dwyochrog.

Ymunodd Adam â’r Swyddfa Eiddo Deallusol ar ddiwedd 2009 fel Pennaeth Cydgysylltu Rhyngwladol yn y Gyfarwyddiaeth Hawlfraint a Gorfodi. Yna ymgymerodd â rôl Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Rhyngwladol ym mis Gorffennaf 2013 a rôl Cyfarwyddwr ym mis Medi 2017.

Bu Adam hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol gwirfoddol ar gyfer Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru rhwng 2019 a 2021.

Mae gan Adam radd Baglor yn y Gwyddorau a gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes.

Yn ei amser personol, mae Adam yn mwynhau coginio, teithio rhyngwladol a gwylio Rygbi’r Undeb.

Prif Weithredwr a Rheolwr Cyffredinol, IPO

Y prif weithredwr yw arweinydd yr IPO ac mae’n gyfrifol am reoli’r sefydliad o ddydd i ddydd. 

Mae’r Rheolwr Cyffredinol yn gyfrifol yn ffurfiol am weithrediad yr IPO a goruchwylio ansawdd ei adroddiadau cyfrifyddu ac ariannol.

Intellectual Property Office