The Rt Hon Alun Cairns

Bywgraffiad

Cafodd Alun Cairns ei benodi yn Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru ac yn Chwip Llywodraeth ar 15 Gorffennaf 2014. Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol ar gyfer Bro Morgannwg ym mis Mai 2010 (ail-etholwyd 2015).

Addysg

Bu Alun ym Mhrifysgol Cymru ac mae ganddo Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes.

Gyrfa wleidyddol

  • penodi yn Is-ysgrifennydd Seneddol yn Swyddfa Cymru ac yn Chwip Llywodraeth 2014
  • ethol yn AS ar gyfer Bro Morgannwg 2010
  • ethol yn Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999

Gyrfa tu allan i wleidyddiaeth

Cyn iddo gael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bu Alun yn gweithio i Fanc Lloyds am dros 10 mlynedd, mewn datblygu busnes gan fwyaf, ac roedd ei swydd olaf yn ymwneud â chydymffurfiaeth gwasanaethau ariannol.

Bywyd personol

Mae Alun yn byw yn ei etholaeth gyda’i wraig Emma, sy’n rhedeg ei busnes bach ei hun, a gyda’u mab Henri. Roedd ei dad yn weldiwr yn British Steel ac roedd ei fam yn cadw siop.

Mae’n mwynhau rhedeg ac mae wedi cwblhau 4 Marathon Llundain gan godi arian i elusennau lleol ac ef oedd yr AS cyflymaf i gwblhau’r cwrs 26 milltir yn 2013.