Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gwasanaethau, IPO

Andy Bartlett

Bywgraffiad

Andy yw Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Swyddfa Eiddo Deallusol y DU, Asiantaeth Weithredol Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y system eiddo deallusol yn y DU. Cafodd ei benodi ym mis Awst 2022.

Yn y rôl hon, mae Andy yn gyfrifol am holl swyddogaethau hawliau cofrestredig yr IPO; patentau, nodau masnach a dyluniadau, gan gynnwys y gwasanaethau tribiwnlys a chyfryngu cysylltiedig. Mae hefyd yn gyfrifol am wasanaethau Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) ac am gyflwyno Rhaglen Drawsnewid Un IPO.

Mae ganddo gyfoeth o brofiad arwain mewn amrywiol rolau polisi, llysgenhadol a gweithredol a darparu rhaglenni o fewn IPO. Yn fwyaf diweddar mae wedi bod yn arwain Rhaglen yr IPO i drawsnewid y ffordd y mae’n darparu gwasanaethau i’w gwsmeriaid gan gynnwys defnyddio technolegau esbonyddol fel Deallusrwydd Artiffisial Mae wedi chwarae rhan hirsefydlog mewn mentrau i wella’r system batentau rhyngwladol gan gynnwys cysoni cyfraith patent sylweddol a fframweithiau rhannu gwaith megis y Briffyrdd Erlyn Patentau.

Mae’n eiriolwr brwd dros yr angen i foderneiddio’r system Eiddo Deallusol i sicrhau ei bod mor effeithiol â phosibl ar gyfer annog arloesi a thwf economaidd ac ar gyfer darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

Ymunodd â Swyddfa Eiddo Deallusol y DU fel archwiliwr patentau ym 1990 ar ôl graddio mewn Ffiseg o Brifysgol Birmingham.

Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gwasanaethau, IPO

Mae’r Dirprwy Brif Weithredwr yn gyfrifol am systemau patentau, nod masnach a dylunio cofrestredig cenedlaethol y DU. 

Intellectual Property Office