Ben Alexander

Bywgraffiad
Mae gan Ben Alexander dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector gwasanaethau ariannol. Bu’n gyfarwyddwr yn Deutsche Bank yn Llundain lle bu’n gyd-bennaeth masnachu deilliadau ac wedi hynny yn bartner yn Close Brothers Private Equity lle bu’n ymwneud â chodi arian sefydliadol ac yn eistedd ar fyrddau amrywiaeth o gwmnïau’r DU. Ar hyn o bryd, mae’n bartner mewn ymgynghoriaeth strategol, yn gyfarwyddwr anweithredol busnes cynnwys realiti rhithwir, yn gynghorydd masnachol ar gyfer Swyddfa’r Cabinet ac yn aelod o Bwyllgor Cyllid Prifysgol Caergrawnt.
Aelod Pwyllgor Anweithredol
Mae Aelod Pwyllgor Anweithredol yn darparu cymorth ac arbenigedd annibynnol i un neu ragor o is-bwyllgorau Bwrdd Cofrestrfa Tir EF.