Caroline Dinenage MP
Bywgraffiad
Penodwyd Caroline Dinenage yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 14 Mehefin 2017.
Roedd hi’n Is-ysgrifennydd Gwladol dros Fenywod, Cydraddoldeb a Blynyddoedd Cynnar yn yr Adran Addysg o 17 Gorffennaf 2016 i 14 Mehefin 2017.
Fe’i etholwyd yn AS Ceidwladol dros Gosport, Stubbington, Lee-on-the-Solent a Hill Head yn 2010.
Addysg
Astudiodd Caroline gwleidyddiaeth a Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.
Gyrfa wleidyddol
Rhwng 1998 a 2003 gwasanaethodd Caroline ar gyngor lleol Dinas Winchester. Fe’i penodwyd yn Llysgennad Busnesau Bychan ar gyfer De Lloegr gan y Prif Weinidog ym mis Mehefin 2013, a rhwng 2012 a 2015 bu’n eistedd ar Bwyllgor Busnes, Menter a Sgiliau’r Tŷ Cyffredin.
O fis Ebrill 2014 i fis Mai 2015 gwasanaethodd Caroline fel Ysgrifennydd Preifat Seneddol i’r Gwir Anrhydeddus Nicky Morgan AS. O fis Mai 2015 i fis Gorffennaf 2016 bu’n gwasanaethu fel Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Fenywod, Cydraddoldeb a Chyfiawnder Teulu yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Adran Addysg.
Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth
Mae gan Caroline fwy nag 20 mlynedd o brofiad fel perchennog busnes bychan, wedi sefydlu ei chwmni gweithgynhyrchu ei hun cyn mynd i’r brifysgol.