The Rt Hon David Jones

Bywgraffiad

Cafodd David Jones ei benodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 04 Medi 2012, ar ôl bod yn Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru ers mis Mai 2010.

Cafodd ei eni yn Llundain i rieni o Gymru, ac mae wedi bod yn byw yng Ngogledd Cymru ers ei blentyndod.

Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon, ac yna bu’n astudio’r gyfraith yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, cyn dychwelyd i Ogledd Cymru i sefydlu practis cyfreithiol.

Etholwyd David yn Aelod Seneddol dros Orllewin Clwyd ym mis Mai 2005.

Cyn dod yn AS, roedd David yn uwch bartner yn ei bractis cyfreithiol ei hun yn Llandudno.

Yn 2002, olynodd Rod Richards fel Aelod Cynulliad dros Ranbarth Etholiadol Gogledd Cymru. Rhoddodd y gorau i’r swydd honno adeg etholiadau’r Cynulliad yn 2003.

Yn San Steffan, mae David wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ac yn gyd-gadeirydd Grŵp Seneddol Cysylltiol ar Adnoddau Cynaliadwy.

Fe’i penodwyd yn Weinidog yr Wrthblaid dros Gymru ym mis Tachwedd 2006.

Mae’n gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Lerpwl, ac mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys ceir a theithio. Mae hefyd yn Gymrawd Oes er Anrhydedd i Cancer Research UK.

Mae David yn briod gyda dau fab, ac mae’n byw yn Llandrillo-yn-Rhos.