Aelod Anweithredol o'r Bwrdd

Deborah McLaughlin

Bywgraffiad

Ymunodd Deborah McLaughlin â Chofrestrfa Tir EF fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn Chwefror 2025. Mae hi hefyd yn gwasanaethu fel Cadeirydd Parth Datblygu Maerol Ashton, Cyfarwyddwr Anweithredol yn Ymddiriedolaeth GIG Mersey Care a Chyfarwyddwr Anweithredol y darparwr cofrestredig For Housing.

Yn ddiweddar, roedd Deborah yn rhan o dîm Arolygu Gwerth Gorau Cyngor Spelthorne yn Surrey. Cyn hynny, treuliodd dair blynedd fel Comisiynydd Llywodraeth Leol, gan ganolbwyntio ar eiddo ac adfywio yng Nghyngor Dinas Lerpwl.

Bu gan Deborah nifer o uwch rolau gweithredol, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gweithredol yn Homes England, Rheolwr Gyfarwyddwr Eiddo Tirol yn Capita a Chyfarwyddwr Tai yng Nghyngor Dinas Manceinion.

Aelod Anweithredol o'r Bwrdd

Mae Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn gyfrifol am herio’n adeiladol, a darparu arweiniad a chymorth i’r Bwrdd Gweithredol.

Cofrestrfa Tir EF