Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Pholisi

Geth Williams

Bywgraffiad

Mae Geth wedi gweithio i Swyddfa Cymru ers 2007, gan arbenigo mewn materion cyfansoddiadol a deddfwriaeth.

Ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil yn 1992, a bu’n gweithio i BT cyn hynny. Roedd ei waith yn Llundain yn cynnwys:

  • Rheolwr Biliau ar gyfer Deddf Awdurdod Llundain Fwyaf 2007, gan weithio ar Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999, a sefydlodd Faer a Chynulliad Llundain
  • Helpu i lunio’r bid llwyddiannus ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain

Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Pholisi

Mae’r Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Pholisi (hefyd Dirprwy Bennaeth y Swyddfa) yn bennaeth yr Adran Strategaeth a Chyfansoddiad.

Rôl Bwrdd Rheoli Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw:

  • darparu arweiniad effeithiol ac ar y cyd i Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru a phennu ei chyfeiriad corfforaethol a’i safonau galluogrwydd, yn seiliedig ar nodau, amcanion a blaenoriaethau Gweinidogion Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • goruchwylio’r modd y caiff amcanion a blaenoriaethau’r gweinidogion eu cyflawni, fel y maent wedi’u pennu yn y cynllun busnes, a rheoli’r risgiau allweddol cysylltiedig
  • sicrhau bod asedau ac adnoddau ariannol Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cael eu rheoli’n ddoeth ac yn effeithiol
  • cytuno a chynnal system dryloyw a chadarn o ran rheolau mewnol
  • arwain a goruchwylio’r broses o newid ac arbedion effeithlonrwydd
  • arwain y broses o reoli a datblygu gweision sifil Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y cyd

Swyddfa Cymru