Cadeirydd y Bwrdd Anweithredol, IPO

Harry Rich

Bywgraffiad

Harry Rich yw Cofrestrydd Lobïwyr Ymgynghorol, Cadeirydd Gwasanaeth y Tribiwnlys Prisio, llywodraethwr Ysgol Gelf Glasgow, hyfforddwr gweithredol a chynghorydd busnes. Mae’n gyfreithiwr nad yw’n ymarfer, yn Gydymaith y Sefydliad Rheolaeth Siartredig ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Roedd Harry yn Brif Weithredwr Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain ac o Enterprise UK, yn Ddirprwy Brif Weithredwr y Cyngor Dylunio ac fe wnaeth ddatblygu a gwerthu dau fusnes. Mae wedi bod yn aelod o fwrdd Cyngor Diwydiannau Creadigol llywodraeth y DU a’r Sefydliad Rheoli Dylunio yn UDA.

Cadeirydd y Bwrdd Anweithredol, IPO

Rôl ein Bwrdd Llywio yw cynghori gweinidogion, trwy ein cyfarwyddwr cyffredinol, ar ein strategaethau a’n perfformiad (gan gynnwys targedau) fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae hefyd yn rhoi arweiniad o safbwynt masnachol ar ein gweithrediad a’n datblygiad ar draws ystod o faterion. 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Bwrdd Llywio wedi darparu cyngor ac arweiniad ar ystod eang o bynciau, megis ein Cynllun Corfforaethol, Targedau Asiantaeth, Polisi Eiddo Deallusol, Cyfrifon a Rheoli Risg. 

Mae’r Bwrdd Llywio yn cyfarfod 6 gwaith y flwyddyn.

Intellectual Property Office