Helen Megarry

Bywgraffiad

Penodwyd Helen yn Ddyfarnwr Annibynnol ym mis Ebrill 2016 ac hi sy’n arwain y tîm yn Swyddfa’r Dyfarnwr.

Cyfreithiwr wrth ei galwedigaeth yw Helen, ac roedd hi’n gweithio’n breifat yn Llundain am sawl blwyddyn cyn symud ymlaen i ymdrin â chwynion.

Roedd hi’n gweithio i Wasanaeth yr Ombwdsmon Tai am 18 mlynedd mewn amryw o rolau’n ymwneud â gwaith achos ac arweinyddiaeth, ac fel Dirprwy Ombwdsmon Tai. Yn ystod y cyfnod hwnnw, sefydlodd Helen ei harbenigedd o ran archwilio a gwneud penderfyniadau, ac arweiniodd ei thîm drwy newidiadau trawsnewidiol i wella’r gwasanaeth i gwsmeriaid.

Datblygodd egwyddorion arfer da ar gyfer datrys anghydfodau ym maes tai cymdeithasol, ynghyd â’r posibilrwydd o ddefnyddio’r hyn a ddysgir o gŵynion i wella perfformiad a gwasanaeth i gwsmeriaid mewn gwahanol sefydliadau.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Y Dyfarnwr