Hena Jalil

Bywgraffiad
Ymunodd Hena Jalil â Chofrestrfa Tir EF fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn Chwefror 2025. Mae Hena yn dechnolegydd, ac ar hyn o bryd yn Brif Swyddog Digidol a Gwybodaeth yn BT Business. Cyn hyn, bu ganddi nifer o rolau Prif Swyddog Gwybodaeth yn BT Group ac Openreach. Yn ei rôl bresennol, mae’n atebol am Drawsnewid digidol, Strategaeth technoleg a gweithrediad ar gyfer ysgogi profiadau cwsmeriaid a thwf busnes gwell.
Cyn hynny, bu’n gweithio yn y diwydiannau Ynni a Manwerthu trwy ymgyngoriaethau fel Accenture a LogicaCMG.
Mae ganddi radd mewn Peirianneg a MBA o Brifysgol Warwick.
Aelod Anweithredol o'r Bwrdd
Mae Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn gyfrifol am herio’n adeiladol, a darparu arweiniad a chymorth i’r Bwrdd Gweithredol.