Prif Gyfarwyddwr Anweithredol

Dr Kathryn Chamberlain OBE

Bywgraffiad

Kathryn (Kate) Chamberlain oedd Prif Weithredwr cyntaf yr Awdurdod Monitro Annibynnol ar gyfer y Cytundebau Hawliau Dinasyddion (IMA). Yn ystod 2020, arweiniodd raglen i greu’r sefydliad newydd hwn mewn ymateb i’r ymrwymiadau a nodir yn y Cytundebau Ymadael ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cyn hyn, treuliodd Kate saith mlynedd fel Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, deng mlynedd fel Prif Ystadegydd a Phennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru, a deng mlynedd yn gweithio i’r Comisiwn Archwilio a Gwasanaeth Archwilio Dosbarth Cymru yn cynnal adolygiadau o wasanaethau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru a’r Gororau. Mae gan Kate PhD mewn ystadegau mathemategol a phrofiad helaeth mewn rheoleiddio, llywodraethu a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. 

Arferai fod yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru ac, ochr yn ochr â’i rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Anweithredol Arweiniol yn Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae hefyd yn Gomisiynydd ar gyfer Comisiwn Gofal Jersey.

Prif Gyfarwyddwr Anweithredol

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru