Aelod anweithredol o'r bwrdd, SED (IPO)

Kirsty Whitehead

Bywgraffiad

Penodwyd Kirsty Whitehead yn gyfarwyddwr anweithredol yn y Swyddfa Eiddo Deallusol ym mis Medi 2024.

Mae gan Kirsty brofiad arweinyddiaeth ar lefel y Bwrdd a’r tîm Gweithredol, ac mae wedi dal swyddi arweinyddiaeth uwch ar draws y sectorau cyllid, technoleg a’r cyfryngau.

Mae gan Kirsty gefndir cryf mewn llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol mewn amgylcheddau cymhleth a newid uchel, ac roedd yn aelod o dîm gweithredol dau gwmni sy’n eiddo i ecwiti preifat a oedd yn mynd drwy raglenni trawsnewid helaeth. Ar hyn o bryd, mae Kirsty yn Gyfarwyddwr Monamy Trustees Limited, ac mae’n angerddol am faterion amgylcheddol.

Aelod anweithredol o'r bwrdd, SED (IPO)

Rôl ein Bwrdd Llywio yw cynghori Gweinidogion, drwy ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, ar ein strategaethau a’n perfformiad (gan gynnwys targedau) fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae hefyd yn darparu arweiniad o safbwynt masnachol ar ein gweithrediad a’n datblygiad ar draws ystod o faterion.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Bwrdd Llywio wedi darparu cyngor ac arweiniad ar ystod eang o bynciau, megis ein Cynllun Corfforaethol, Targedau Asiantaeth, Polisi Eiddo Deallusol, Cyfrifon a Rheoli Risg.

Mae’r Bwrdd Llywio yn cwrdd chwe gwaith y flwyddyn.

Intellectual Property Office