Lord Bourne of Aberystwyth
Bywgraffiad
Bywgraffiad
Mae’r Arglwydd Bourne wedi bod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi er mis Medi 2013, a chafodd ei benodi’n Chwip i’r Llywodraeth (Arglwydd Preswyl) ym mis Awst 2014. Ef yw Chwip Tŷ’r Arglwyddi, ac mae’n gyfrifol am Swyddfa Cymru, yr Adran Datblygu Rhyngwladol, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac elfennau darlledu portffolio’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Addysg
Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg King Edward VI, Chelmsford; Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg y Drindod, Caergrawnt lle astudiodd y gyfraith.
Gyrfa wleidyddol
Roedd yr Arglwydd Bourne yn Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 1999 a 2011, ac yn Arweinydd yr Wrthblaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 2007 a 2011. Roedd hefyd yn aelod o’r Comisiwn Silk.
Gyrfa tu allan i wleidyddiaeth
Rhwng 1996 a 1998 roedd yr Arglwydd Bourne yn Athro yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Abertawe. Mae’r Arglwydd Bourne wedi addysgu’r gyfraith ym Mhrifysgol Hong Kong, Ysgol Economeg Llundain ac ym Mhrifysgol Caergrawnt.