The Rt Hon Lord Freud
Bywgraffiad
Penodwyd yr Arglwydd Freud y Gweinidog Gwladol dros Ddiwygio Lles yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 13 Mai 2015. Mae’n aelod Ceidwadol o Dŷ‘r Arglwyddi.
Addysg
Astudiodd athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg yng Ngholeg Merton, Rhydychen.
Gyrfa wleidyddol
Penodwyd yr Arglwydd Freud yn Weinidog yr wrthblaid dros Ddiwygio Lles yn Chwefror 2009.
Yn flaenorol rhoddodd cyngor i’r llywodraeth ar sut i ddiwygio’r system les, gan gyhoeddi adroddiad annibynnol ym mis Mawrth 2007 o’r enw ‘Reducing dependency, increasing opportunity: options for the future of welfare to work’
Gwasanaethodd fel Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol (y Gweinidog dros Ddiwygio Lles) o fis Mai 2010 hyd at fis Mai 2015.
Ei yrfa y tu allan i wleidyddiaeth
Roedd yr Arglwydd Freud yn Is-gadeirydd Bancio Buddsoddi ar gyfer ‘UBS’, lle trefnodd ailstrwythuro Rheoli Traffig Awyr Cenedlaethol ac ail-lunio’r Cyswllt Rheilffordd Twnnel y Sianel.
Bu’n newyddiadurwr yn y ‘Financial Times’ am 8 mlynedd cyn dechrau ar ei yrfa bancio.