Lorna Dukes (Interim)
Bywgraffiad
Penodwyd Lorna yn Gyfarwyddwr Busnes a Pholisi Rhyngwladol Dros Dro ym mis Tachwedd 2024
Yn flaenorol, fel Dirprwy Gyfarwyddwr UK Ecosystems, roedd Lorna yn gyfrifol am bolisïau i gefnogi twf busnes a rhanbarthol a datblygu gwybodaeth a sgiliau ED i gefnogi arloesedd, ymchwil a menter.
Dechreuodd Lorna yn y SED ddiwedd 2018 fel Pennaeth Polisi Arloesedd ac aeth ymlaen i ymgymryd â rolau ym maes addysg ED a pholisi cymorth busnes. Ymunodd Lorna â’r Gwasanaeth Sifil yn dilyn gyrfa yn y sectorau addysg a chyfreithiol ac mae wedi gweithio mewn rolau polisi a gweithredol yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Mae gan Lorna radd mewn Hanes o Brifysgol Warwick a chymwysterau ôl-raddedig mewn Rheolaeth Gwybodaeth ac Addysg.
Cyfarwyddwr Busnes a Pholisi Rhyngwladol
Mae’r rôl hon yn gyfrifol am weithgareddau rhyngwladol y SED, gan gefnogi uchelgeisiau masnach y DU, datblygu sgiliau ED mewn busnes, sefydliadau ymchwil, addysg a llywodraeth ehangach, a sicrhau rhyngweithio effeithiol rhwng y system ED a fframweithiau rheoleiddio eraill.
Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am berthynas y SED â sefydliadau amlochrog megis WIPO a pherthnasoedd dwyochrog y swyddfa a chydweithrediad â marchnadeodd byd-eang allweddol. Mae rhwydwaith attaché ED y DU yn rhan allweddol o’r gwaith hwn, gan ddarparu cymorth a chodi ymwybyddiaeth i fusnesau’r DU sy’n allforio neu sy’n dymuno allforio.