Michael Mire
Bywgraffiad
Penodwyd Michael Mire yn Gadeirydd Anweithredol, Bwrdd Cofrestrfa Tir EM, ar 8 Awst 2016.
Gweithiodd Michael yn McKinsey & Company am fwy nag 20 mlynedd, tan 2013. Mae’n aelod bwrdd profiadol, gan wasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol yn Aviva PLC, Cyfarwyddwr Annibynnol Uwch yn y Comisiwn Ansawdd Gofal ac yn uwch gynghorydd i Lazard, y banc buddsoddi. Mae gan Michael brofiad helaeth o gynghori cwmnïau ar strategaeth a gweithredu rhaglenni trawsnewid ac mae ganddo ddealltwriaeth drwyadl o’r sector gwasanaethau ariannol.
Yn ogystal â bod yn uwch bartner yn McKinsey & Company, mae Michael hefyd wedi cael ei secondio fel Staff Adolygu Polisi Canolog (Uned Bolisi Rhif 10 bellach) lle’r oedd ei waith yn cynnwys polisi diwydiannol a diwygio nawdd cymdeithasol.
Ar ôl gadael y brifysgol ymunodd Michael â’r cwmni bancio N M Rothschild. Yna aeth i Ysgol Fusnes Harvard lle yr enillodd radd MBA.
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Aelod Anweithredol o'r Bwrdd
-
Cadeirydd Anweithredol