Peter Umbleja
Bywgraffiad
Mae Peter yn weithiwr proffesiynol â chymhwyster yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ac mae ganddo graffter masnachol cadarn yn sgil 47 mlynedd o weithio i gwmnïau o Gyfrifwyr Siartredig. Mae wedi treulio dros 30 mlynedd mewn rolau arwain yn cynnwys Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni canolig ei faint o gyfrifyddion siartredig yn Ne Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â chyflawni twf sylweddol ar ran y cwmni, gweithiodd Peter yn agos i roi cefnogaeth a chyfarwyddyd i gleientiaid oedd yn fusnesau â pherchnogion-reolwyr yn bennaf er mwyn eu galluogi i reoli eu busnes. Roedd hyn yn allweddol i sicrhau bod cleientiaid yn canolbwyntio ar wella perfformiad eu busnes ac ar roi strategaethau ar waith i sichrau twf elw/gwerthiant cynaliadwy hirdymor.
Mae Peter yn arweinydd naturiol ac ysbrydoledig â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac mae’n delio’n effeithiol â sefyllfaoedd anodd ac yn ffynnu mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym.
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Cyfarwyddwr Anweithredol