Aelod Anweithredol o'r Bwrdd

Rommel Pereira

Bywgraffiad

Ymunodd Rommel Pereira â Chofrestrfa Tir EF fel Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn Chwefror 2025. Ar hyn o bryd, mae’n gwasanaethu fel Aelod Anweithredol o Fwrdd yr Archifau Gwladol a Chyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Supply Chain Coordination Limited, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Llundain ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Homerton Healthcare.

Bu gan Rommel amrywiaeth o uwch swyddi gweithredol yn y sectorau bancio canolog, nid-er-elw, gwasanaethau ariannol a gwasanaethau busnes.

Mae Rommel wedi graddio mewn Mathemateg ac yn Gyfrifydd Siartredig cymwysedig.

Aelod Anweithredol o'r Bwrdd

Mae Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn gyfrifol am herio’n adeiladol, a darparu arweiniad a chymorth i’r Bwrdd Gweithredol.

Cofrestrfa Tir EF