The Rt Hon Simon Hart
Bywgraffiad
Roedd Simon Hart yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 16 Rhagfyr 2019 a 6 Gorffennaf 2022. Cyn hynny, bu’n Ysgrifennydd Seneddol (y Gweinidog dros Weithredu) yn Swyddfa’r Cabinet.
Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ym mis Mai 2010.
Cefndir
Ganwyd Simon yn Wolverhampton ac fe’i magwyd yn y Cotswolds. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Radley cyn mynychu’r Coleg Amaethyddol Brenhinol yn Cirencester.
Gyrfa wleidyddol
Ers ei ethol i’r Senedd, mae Simon wedi bod yn aelod o nifer o bwyllgorau yn cynnwys:
-
Pwyllgor Dethol Materion Cymreig;
-
Pwyllgor Dethol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig;
-
Pwyllgor Dethol ar Ddiwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol;
-
Pwyllgor Dethol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon
Mae Simon hefyd wedi bod yn aelod / Cadeirydd nifer o Grwpiau Seneddol Traws-bleidiol gan gynnwys Twristiaeth yng Nghymru, Dysgu tu allan i’r Dosbarth, Ynni Morol a Morlynnoedd.
Bu hefyd yn Gennad Masnach y Prif Weinidog i Panama, Costa Rica a’r Weriniaeth Ddominicaidd.
Gyrfa tu allan i wleidyddiaeth
Bu Simon yn gweithio fel Syrfëwr Siartredig yng Nghaerfyrddin a Hwlffordd a bu’n gwasanaethu gyda’r fyddin diriogaethol am bum mlynedd yn y Royal Gloucestershire Hussars (sy’n rhan o’r Royal Wessex Yeomanry).
Cyn ei ethol yn AS roedd yn Brif Weithredwr y Gynghrair Cefn Gwlad.
Bywyd Personol
Mae Simon yn byw yn Sir Benfro gyda’i wraig Abigail a’u dau o blant.
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Member, Committee on Standards in Public Life