Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Cyflawni Newid

Suzanne Newton

Bywgraffiad

Ym mis Ionawr 2024, penodwyd Suzanne Newton yn Gyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Cyflawni Newid, a hynny wedi iddi fod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Newid Strategol ers mis Chwefror 2023.

Mae hi hefyd yn Brif Swyddog Darparu Prosiectau (CPDO) ar gyfer CThEF a hi yw Hyrwyddwr Gofalwyr yr adran.

Cyn ei rôl bresennol, roedd Suzanne yn Brif Swyddog Portffolio ac yn Bennaeth y Proffesiwn Cyflawni Prosiectau ar gyfer y Swyddfa Gartref. Mae hi hefyd wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Trawsnewid i’r Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau (IPA).

Mae Suzanne wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn CThEF. Mae hi wedi ymgymryd ag ystod eang o rolau dros yr amser hwn, gan gynnwys archwilio cyfrifon Treth Incwm, gwaith polisi a strategaeth, gwaith ar gyfer y swyddfa breifat, a chynnal adolygiad o Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae hi hefyd wedi arwain nifer o raglenni proffil uchel CThEF, gan gynnwys Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a Gwybodaeth Amser Real ar gyfer TWE.

Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Cyflawni Newid

Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Grŵp Cyflawni Newid CThEF yn rheoli portffolio newid yr adran ac yn arwain ar rai o’r rhaglenni mwyaf o ran maint a chymhlethdod.

Cyllid a Thollau EF