Aelod anweithredol o'r bwrdd, IPO

Timothy Render

Bywgraffiad

Penodwyd Timothy Render yn gyfarwyddwr anweithredol yn y Swyddfa Eiddo Deallusol ym mis Medi 2024.

Mae Timothy yn aelod o banel Swyddfa’r Farchnad Fewnol, o fewn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, ac yn Gyfarwyddwr Tim Render Consulting Limited.

Mae wedi dal nifer o swyddi uwch, gan gynnwys Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru, a Chyfarwyddwr dros dro yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Cyn y rolau hyn, arweiniodd Timothy ymgysylltiad a chynrychiolaeth y DU â sefydliadau’r UE yng Nghynrychiolaeth Barhaol y DU i’r UE, ym Mrwsel.

Aelod anweithredol o'r bwrdd, IPO

Rôl ein Bwrdd Llywio yw cynghori Gweinidogion, drwy ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, ar ein strategaethau a’n perfformiad (gan gynnwys targedau) fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae hefyd yn darparu arweiniad o safbwynt masnachol ar ein gweithrediad a’n datblygiad ar draws ystod o faterion.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Bwrdd Llywio wedi darparu cyngor ac arweiniad ar ystod eang o bynciau, megis ein Cynllun Corfforaethol, Targedau Asiantaeth, Polisi Eiddo Deallusol, Cyfrifon a Rheoli Risg.

Mae’r Bwrdd Llywio yn cwrdd chwe gwaith y flwyddyn.

Intellectual Property Office