Viscount Younger of Leckie

Bywgraffiad

Penodwyd yr Arglwydd Younger yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 1 Ionawr 2023.

Cafodd ei ethol yn arglwydd etifeddol ceidwadol yn 2010 ac mae wedi goruchwylio dros 12 o adrannau yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Cyn hynny, bu’n Weinidog Eiddo Deallusol yn yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau o fis Ionawr 2013 tan fis Gorffennaf 2014.

Bu’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ac yn Weinidog Ffydd yn yr Adran Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol rhwng 27 Gorffennaf 2019 a 14 Chwefror 2020.

Roedd yr Arglwydd Younger yn Chwip y Llywodraeth ac yn Arglwydd Preswyl o fis Chwefror 2020 ac yn Arglwydd Preswyl rhwng Mai 2015 a Gorffennaf 2019. Roedd ei gyfrifoldebau adrannol yn cynnwys yr Alban, Gogledd Iwerddon, Masnach, Trafnidiaeth a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Addysg

Addysgwyd ef yn Ysgol Cargilfield, Caeredin a Choleg Winchester. Darllenodd hanes canoloesol ym Mhrifysgol St Andrews ac mae ganddo MBA o Henley Management College.

Gyrfa wleidyddol

Etholwyd yr Arglwydd Younger yn arglwydd etifeddol yn 2010 a gwasanaethodd fel chwip y blaid cyn ymuno â’r Llywodraeth yn 2012. Roedd yr Arglwydd Younger yn Arglwydd Preswyl rhwng Mehefin 2012 ac Ionawr 2013 a gwasanaethodd fel Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Eiddo Deallusol yn yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau o fis Ionawr 2013 tan fis Gorffennaf 2014. Roedd hefyd yn llefarydd yr Arglwyddi ar ran yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon o fis Medi 2012 tan fis Ionawr 2013, a llefarydd yr Arglwyddi ar fusnes addysg uwch rhwng Gorffennaf 2016 a Gorffennaf 2019.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Roedd yr Arglwydd  Younger yn Rheolwr Personél yn Coats Patons rhwng 1979 a 1984 ac wedi hynny bu’n ymgynghorydd recriwtio ac ymgynghorydd chwilio gweithredol rhwng 1984 a 1994. Ef oedd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol UBS Wealth Management rhwng 1994 a 2004.

Bywyd personol

Mae’r Arglwydd Younger yn aelod o Gwmni Brenhinol y Saethwr , Gwarchodwr Corff y Frenhines  ar gyfer yr Alban ac mae’n un o Ymddiriedolwyr ‘Highland Society of London’. Mae’n briod â Jennie gyda thri o blant a dau Cocker Spaniel, sy’n ei gadw’n heini.

Mae’n mwynhau hwylio, sgïo, criced a gweithgareddau gwledig.