Am Fynegai Prisiau Tai y DU
Diweddarwyd 14 December 2023
1. Cyflwyniad
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU (UK HPI) yn cofnodi newidiadau mewn gwerth eiddo preswyl.
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio data gwerthiannau a gesglir ar drafodion tai preswyl, boed yn werthiannau am arian parod neu gyda morgais. Mae eiddo wedi cael ei gynnwys:
- yng Nghymru a Lloegr er Ionawr 1995
- yn yr Alban er Ionawr 2004
- yng Ngogledd Iwerddon er Ionawr 2005
Mae data ar gael ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal â siroedd, awdurdodau lleol a bwrdeistrefi Llundain.
1.1 Ystadegyn Cenedlaethol
Dynodwyd Mynegai Prisiau Tai y DU fel Ystadegyn Cenedlaethol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym Medi 2018. Mae hyn yn golygu ei fod yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyaeth, ansawdd a gwerth, yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer. Mae llythyr gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Rheoleiddio yn manylu ar y camau a gymerwyd i fodloni’r gofynion fel y’u nodir yn adroddiad asesiad Mynegai Prisiau Tai y DU.
Cynhyrchiad ar y cyd gan Gofrestrfa Tir EF, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestri’r Alban yw Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU, a gyflwynwyd ym Mehefin 2016, yn cynnwys yr holl eiddo preswyl a brynir ar werth y farchnad yn y DU. Fodd bynnag, gan mai dim ond ar ôl i’r pryniadau gael eu cofrestru y mae gwerthiannau’n ymddangos ym Mynegai Prisiau Tai y DU, gall fod oedi cyn i’r trafodion fwydo i’r mynegai. Oherwydd hyn, fe’ch cynghorir i fod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau mewn prisiau yn y cyfnodau diweddaraf gan fod modd eu hadolygu. Darperir rhagor o wybodaeth yn ein polisi adolygu.
1.2 Cryfderau a chyfyngiadau
Nid yw Mynegai Prisiau Tai y DU mor amserol o ran cyhoeddi â mesurau mynegai prisiau tai eraill a gyhoeddir yn y DU oherwydd ei fod yn seiliedig ar werthiannau a gwblhawyd ar ddiwedd y broses drawsgludo, yn hytrach na phrisiau wedi eu hysbysebu neu wedi eu cymeradwyo.
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn rhoi sylw eang i drafodion arian a morgais a ffynhonnell ddata fawr (cofrestriadau tir fel yr un a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF) sy’n caniatáu i ddata gael ei gyhoeddi hyd at lefel awdurdod lleol gyda dadansoddiad pellach ar gael yn ôl math o eiddo, statws y prynwr, statws ariannu a statws yr eiddo.
Dros dro yw’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd diweddaraf ac maent yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai. Er bod newidiadau i amcangyfrifon ar y lefel bennawd yn fach, gall y rhain fod yn fwy ar ddaearyddiaethau is o ganlyniad i’r llai o drafodion a ddefnyddir. Mae rhagor o fanylion o ran pam mae ein hamcangyfrifon yn newid i’w gweld yn ein polisi diwygiadau.
2. Ffynonellau data
Prif ffynonellau’r data pris a dalwyd a ddefnyddir ym Mynegai Prisiau Tai y DU yw Cofrestrfa Tir EF Cymru a Lloegr, Cofrestri’r Alban a data Treth Tir Toll Stampiau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer Mynegai Prisiau Eiddo Preswyl Gogledd Iwerddon.
Mae pob ffynhonnell data wedi cael ei hasesu yn erbyn y teclyn Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol (QAAD). Darllenwch ein crynodeb o Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol Mynegai Prisiau Tai y DU neu mae adroddiadau unigol i’w gweld isod.
2.1 Cofrestrfa Tir EF Cymru a Lloegr
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn darparu gwybodaeth am drafodion eiddo preswyl ar gyfer Cymru a Lloegr, a gesglir fel rhan o’r broses gofrestru swyddogol, ar gyfer eiddo a werthir am y pris marchnadol llawn. Mae’r set ddata yn cynnwys pris gwerthu’r eiddo, dyddiad cwblhau’r gwerthiant, manylion cyfeiriad llawn, y math o eiddo (h.y. tŷ sengl, tŷ pâr, tŷ teras neu fflat), a yw’r eiddo yn adeilad newydd neu’n adeilad preswyl sefydledig, a newidyn i ddangos a yw’r eiddo wedi cael ei brynu fel trafodiad wedi’i ariannu (er enghraifft defnyddio morgais) neu fel trafodiad heb ei ariannu (pryniant arian parod).
Mae’r wybodaeth hon i gyd yn cael ei chyhoeddi gan Gofrestrfa Tir EF ar hyn o bryd yn ei Set Ddata Pris a Dalwyd, ac eithrio’r dangosydd statws ariannu. Nid yw’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd oherwydd ystyrir bod y data yn wybodaeth bersonol a byddai’n torri rheolau diogelu data.
Gellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU yma – data Cofrestrfa Tir EF.
Eithriadau data
Mae nifer o gofrestriadau wedi’u heithrio o’r fersiwn o Ddata Pris a Dalwyd a ddefnyddir ym Mynegai Prisiau Tai y DU, sef:
- pob trafodiad masnachol
- gwerthiannau nad oeddent am werth marchnadol llawn
- trosglwyddiadau, trawsgludiadau, aseiniadau neu brydlesi ar bremiwm gyda rhent nominal sy’n:
- werthiannau ‘hawl i brynu’ ar ddisgownt
- yn ddarostyngedig i forgais sydd eisoes yn bodoli
- i beri gwerthiant cyfranddaliad mewn eiddo
- trwy gyfrwng rhodd
- o dan orchymyn Prynu Gorfodol
- o dan orchymyn llys
- i Ymddiriedolwyr wedi’u penodi o dan Weithred Benodi
- Trosglwyddiadau Gweithredoedd Breinio neu Gydsyniadau
- o fwy nag un eiddo
- prydlesi am saith mlynedd neu lai
2.2 Cofrestri’r Alban
Mae Cofrestri’r Alban yn darparu gwerthiannau eiddo preswyl ar gyfer yr Alban wrth gyfrifo fersiwn newydd Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae data’r Alban yn dilyn proses debyg i’r Data Pris a Dalwyd lle mae’r data a ddarperir ar gyfer y Mynegai Prisiau Tai yn isgynnyrch o broses cofrestru eiddo’r Alban, lle y cyflwynir gwerthiannau eiddo i Gofrestri’r Alban pan fydd gwerthiant wedi’i gwblhau. Cesglir data o’r ceisiadau hyn a’i gofnodi ar System Cofrestru Tir Cofrestri’r Alban. Bob wythnos caiff darn o’r holl ddata gwerthiannau ei gymryd o’r System Cofrestru Tir a bydd proses sicrhau ansawdd yn gwirio’r pris a dalwyd, dyddiad cofnodi, math o eiddo (tir, masnachol, preswyl, coedwigaeth, amaethyddol ac arall) ac i nodi gwerthiannau preswyl gwerth marchnadol (yn hytrach na gwerthiannau anfarchnadol sy’n debyg i’r rhai a fanylir ar gyfer Data Pris a Dalwyd). Caiff y data hwn ei gyfuno â manylion pellach, megis cyfeiriad llawn a math o dŷ (tŷ sengl, tŷ pâr, tŷ teras neu fflat), gan ddefnyddio cronfa ddata System Gwybodaeth Ddaearyddol Cofrestri’r Alban i ddarparu ffynhonnell gynhwysfawr o ddata y gellir ei gyhoeddi bob mis i’w ddefnyddio yn y Mynegai Prisiau Tai newydd.
Yn ogystal, mae dangosydd statws ariannu a dangosydd adeilad newydd yn cael eu hychwanegu at y set ddata derfynol. Mae’r dangosydd statws ariannu yn nodi a yw ceisiadau i gofrestru gwerthiant preswyl gwerth marchnadol hefyd yn cynnwys cais i gofrestru gweithred morgais gwarant safonol. Mae pob cais gyda gweithred morgais yn werthiant morgais, ac mae pob cais heb weithred forgais yn cael ei farcio’n werthiant arian parod. Rhoddir dangosydd adeilad newydd i bob gwerthiant o eiddo unigol o deitl datblygu’r adeiladwr. Mae cwmpas data Cofrestri’r Alban ychydig yn wahanol i’r Data Pris a Dalwyd gan fod trafodion sy’n ymwneud ag eiddo preswyl lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforaethol, yn gwmni neu’n fusnes wedi’u cynnwys yn y set ddata hon.
Gellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – data Cofrestri’r Alban.
2.3 Data Gogledd Iwerddon
Bydd mynegai prisiau tai Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon yn parhau i gael ei gyfrifo a’i gyhoeddi bob chwarter. Bydd data Gogledd Iwerddon yn cael ei ddarparu i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol bob chwarter, a chaiff ei gyfuno â data Prydain Fawr i roi’r cyfanswm ffigurau ar gyfer y DU. Cyfrifir y ffigur cyfan ar gyfer y DU trwy gadw’r prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon yn gyson ar gyfer y ddau fis yn dilyn diwedd y chwarter, pan nad yw canlyniadau Gogledd Iwerddon ar gyfer y chwarter diweddaraf ar gael eto. Cânt eu diwygio pan fydd y chwarter yn gyflawn.
Nid yw data sicrhau ansawdd Treth Tir Toll Stamp Cyllid a Thollau EM yn gyflawn eto. Bydd manylion ar gael pan fydd yr asesiad wedi’i gwblhau.
2.4 Cyngor y Rhoddwyr Benthyg Morgeisi – Arolwg Morgeisi Rheoledig
Yr Arolwg Morgeisi Rheoledig yw fersiwn Cyngor y Rhoddwyr Benthyg Morgeisi o’r Data Gwerthiannau Cynnyrch Morgeisi y mae pob rhoddwr benthyg rheoledig yn adrodd arno i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Data manwl yw hwn ar lefel trafodion morgeisi sydd wedi’u cwblhau. Gan ddechrau yn Ebrill 2005, erbyn hyn mae’r Arolwg Morgeisi Rheoledig yn cynnwys dros 12 miliwn o gofnodion unigol o werthiannau morgeisi.
Fe’i cesglir yn electronig, gyda’r holl gwmnïau sy’n adrodd yn cyflwyno manylion yn unol â diffiniadau data penodedig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac ar ffurf xml safonol, gan sicrhau strwythur data cyson. Amcangyfrifir bod y data yn cwmpasu tua 95% o’r holl forgeisi rheoledig sydd wedi’u codi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid yw rhai rhoddwyr benthyg yn caniatáu i’w data gael ei drosglwyddo i drydydd partïon, megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol, felly cyfran y farchnad sy’n cael ei gwmpasu gan y data a dderbynnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw tua 70%.
Mae meysydd adrodd yn cynnwys y pris prynu, dyddiad cwblhau’r gwerthiant eiddo, math o gymerwr benthyg (prynwr am y tro cyntaf neu rywun sy’n symud tŷ), eiddo newydd neu ail-law, math a maint yr annedd. Yr Arolwg Morgeisi Rheoledig yw’r unig ffynhonnell gynhwysfawr o ddata sydd ar gael ar gyfer y math o gymerwr benthyg ac mae’n rhoi’r data angenrheidiol er mwyn i’r Mynegai Prisiau Tai gael ei gynhyrchu yn ôl a yw’r prynwr yn brynwr am y tro cyntaf neu eisoes yn berchennog. Mae’r Arolwg Morgeisi Rheoledig hefyd yn ffynhonnell allweddol o ddata a ddefnyddir i gynhyrchu prisiau tai i’w cynnwys yn y Mynegai Prisiau Manwerthu, a bydd yn parhau felly yn y dyfodol agos.
Gwellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – Cyngor y Rhoddwyr Benthyg Morgeisi.
3. Data nodweddion eiddo
Mae data cynhwysfawr ar gael ar bris eiddo a drafodwyd ar draws y DU; fodd bynnag, mae’r data prisiau hwn yn gyfyngedig o ran y manylion am nodweddion ffisegol yr eiddo.
Nid yw defnyddio data prisiau yn unig yn ddigonol i gyfrifo mynegai chwyddiannol ar gyfer prisiau tai oherwydd gall fod gwahaniaeth mawr yn y cyfansoddiad a’r math o eiddo a werthwyd rhwng cyfnodau. Felly, yn unol ag arferion gorau rhyngwladol cydnabyddedig, defnyddir atchweliad hedonig ac addasiad cymysgedd i gyfrif am y newid mewn cyfansoddiad.
Er mwyn i’r model atchweliad hedonig fod yn ddigonol ar gyfer y gwaith, rhaid cael manylion ynghylch nodweddion eiddo a werthwyd i ategu’r data pris a dalwyd. O ran cynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU, mae’r nodweddion hyn ar gael o nifer o ffynonellau swyddogol a ddisgrifir isod.
3.1 Rhestr Brisio’r Dreth Gyngor Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Y brif ffynhonnell o ddata nodweddion eiddo a gaiff ei defnyddio i ategu’r Data Pris a Dalwyd ar gyfer Cymru a Lloegr yw’r data gweinyddol o Restr Brisio’r Dreth Gyngor a gedwir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi bod yn gyfrifol am fandio eiddo ar gyfer y Dreth Gyngor ers i’r dreth gael ei chyflwyno gyntaf yn 1993; cyn hynny, roedd yn gyfrifol am y system gynharach o ardrethi domestig. Mae Rhestr Brisio’r Dreth Gyngor yn ffynhonnell gadarn o ddata nodweddion eiddo (megis maint yr eiddo) sy’n cwmpasu, mewn egwyddor, pob eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr.
Gellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – Rhestr Brisio’r Dreth Gyngor Asiantaeth y Swyddfa Brisio
3.2 Rhestr Brisio Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon
Mae Gwasanaethau Tir ac Eiddo yn cadw rhestr o’r eiddo yng Ngogledd Iwerddon sy’n cael eu prisio at ddibenion ardrethi. Mae’r data yn cael ei gynnal a’i ddilysu mewn modd tebyg i ddata Asiantaeth y Swyddfa Brisio a ddisgrifir uchod. Mae cronfa ddata’r Rhestr Brisio yn cynnwys yr holl nodweddion eiddo sy’n ofynnol ar gyfer yr atchweliad hedonig a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Eiddo Preswyl Gogledd Iwerddon.
Gellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – Rhestr Brisio Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon.
3.3 Tystysgrifau Perfformiad Ynni’r Alban
Defnyddir Tystysgrifau Perfformiad Ynni’r Alban i ddarparu arwynebedd llawr yr eiddo a nifer yr ystafelloedd cyfanheddol sy’n ofynnol er mwyn cyfrifo’r Mynegai Prisiau Tai newydd. Caiff y wybodaeth hon ei gwirio yn erbyn y data pris a dalwyd a ddarperir gan Gofrestri’r Alban (gan ddefnyddio manylion cyfeiriad yr eiddo).
Cael mynediad i sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – Tystysgrifau Perfformiad Ynni’r Alban.
3.4 Dosbarthiad ACORN
Un o’r prif nodweddion sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo, megis cyfoeth y bobl hynny sy’n byw yn yr ardal. Mae segmentu geo-ddemograffig sefydledig o’r DU ar gael trwy set ddata Acorn, wedi’i chynhyrchu a’i thrwyddedu gan CACI Ltd. Mae Acorn yn segmentu codau post yn gategorïau a grwpiau trwy ddadansoddi ffactorau ac ymddygiadau cymdeithasol arwyddocaol. Defnyddir set ddata Acorn i gyfrifo Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon a Mynegai Prisiau Tai y DU.
Gwellir gweld y teclyn sicrhau ansawdd data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU – Acorn (CACI Ltd).
4. Cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae’r ddogfen Quality and Methodology yn cynnwys gwybodaeth bwysig am:
- gryfderau a chyfyngiadau’r data
- defnyddwyr
- defnyddwr y data
- sut y crëwyd yr allbwn
- ansawdd yr allbwn, gan gynnwys cywirdeb y data
4.1 Methodoleg
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio model atchweliad hedonig sy’n manteisio ar y ffynonellau data amrywiol ar brisiau eiddo (er enghraifft y set ddata Pris a Dalwyd) a nodweddion eiddo i gynhyrchu’r amcangyfrifon diweddaraf o’r newid mewn prisiau tai ar gyfer pob cyfnod.
Mae rhagor o fanylion am y dull hwn i’w gweld yn Adran 3 ein dogfen cyfarwyddyd Quality and Methodology.
4.2 Egluro’r Cymedr Geometrig
Ceir ffyrdd gwahanol o gyfrifo prisiau cyfartalog, gan gynnwys y cymedr rhifyddol (y cymedr syml), y cymedr geometrig a’r canolrif.
Mae’r cymedr rhifyddol yn cael ei ddylanwadu’n fawr gan yr ychydig eiddo gwerth uchel ac felly ni fydd yn adlewyrchiad cywir o bris cyfartalog eiddo safonedig.
Mae’r cymedr geometrig yn lleihau’r pwysiad a roddir i eiddo gwerth uchel o’i gymharu â’r cymedr rhifyddol ac fel arfer mae’n is ac yn agosach i’r canolrif.
Ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU, cyfrifir y pris tŷ cyfartalog safonol trwy gymryd y pris cyfartalog (y cymedr geometrig) yn Ionawr 2015 ac yna ei ail-gyfrifo yn unol â’r newid mynegai mewn cyfnod blaenorol ac ymlaen hyd heddiw.
Mae cyfartaledd newidiol o 3 mis wedi cael ei gymhwyso i amcangyfrifon o dan y lefel ranbarthol. Er enghraifft, ar lefel awdurdod lleol, mae’r amcangyfrif cyhoeddedig ar gyfer Mawrth yn gyfartaledd syml o’r amcangyfrifon a gyfrifwyd ar gyfer Ionawr, Chwefror a Mawrth. Mae hyn yn helpu i ddileu peth o’r ansefydlogrwydd yn y gyfres ar y lefel hon. Mae ansefydlogrwydd yn parhau yn yr amcangyfrifon ar gyfer awdurdodau lleol sydd â llai o drafodion, megis Ynysoedd Shetland, Ynysoedd Orkney, Dinas Llundain a Na h-Eileanan. Nid yw amcangyfrifon Gogledd Iwerddon wedi’u heffeithio gan hyn oherwydd maent ar gael bob chwarter yn unig.
4.3 Newidiadau mewn prisiau misol a blynyddol
Yn syml, y newid canrannol ‘blynyddol’ mewn prisiau tai yw’r newid mewn pris o’i gymharu â’r un mis ddeuddeg mis yn gynharach. Er enghraifft, os yw’r Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Chwefror, mae’r newid mewn pris ‘blynyddol yn nodi’r newid canrannol mewn gwerthoedd o’i gymharu â Chwefror y flwyddyn flaenorol.
Mae’r gyfradd flynyddol hon o newid mewn pris yn adlewyrchu’r amcangyfrifiad gorau ar gyfer faint y mae gwerth eiddo cyffredin wedi newid dros y deuddeg mis blaenorol. Yn yr un modd â’r newid ‘blynyddol’, mae’r newid canrannol ‘misol’ yn amcangyfrif y newid canrannol mewn prisiau tai cyfartalog o’i gymharu â’r mis blaenorol.
4.4 Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis. Weithiau mae’r cyfnod rhwng gwerthu a chofrestru yn hwy na dau fis; mae hyn yn arbennig o wir yn achos adeiladau newydd. Er enghraifft, caiff ein hamcangyfrif dros dro (cyntaf) ar gyfer mis penodol ei gyfrifo ar sail tua 40% o’r trafodion a fydd yn y pen draw yn cael eu cofrestru gyda’r ail a’r trydydd amcangyfrif a gyfrifir ar sail ar tua 80% a 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae diwygiadau i amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU yn digwydd wrth i’r mynegai gael ei ailgyfrifo i gynnwys y trafodion ychwanegol hyn.
Mae trafodion yn ymwneud â chreu cofrestr newydd megis adeiladau newydd yn fwy cymhleth ac mae cynnydd mewn ceisiadau wedi creu ôl-groniad. O ganlyniad, mae amserau prosesu yn hirach. Darllenwch am yr hyn rydym wedi’i wneud i leihau ein hôl-groniad, ein safonau gwasanaeth a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae’r tabl isod yn crynhoi’r polisi diwygio ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU.
Amlder cyhoeddi | Amlder diwygiadau | Y cyfnod diwygio a gwmpasir | Rheswm |
---|---|---|---|
Misol | Misol (Chwarterol ar gyfer data Gogledd Iwerddon) | 12 mis blaenorol (4 chwater ar gyfer Gogledd Iwerddon) | Cynnwys trafodion cofrestredig ychwanegol |
Ad hoc neu ddiwygiadau eraill | Y set ddata gyfan | - Gwelliannau i’r fethodoleg - Diwygiadau graddfa fawr i’r gyfres ddata hanesyddol - Prosesu gwallau |
Diwygio misol
Fel enghraifft, yn y wybodaeth a ryddhawyd ym Mehefin 2017, a oedd yn cynnwys data hyd at Fawrth 2017, cafodd prisiau cyfartalog, mynegeion, cyfraddau twf a nifer y gwerthiannau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer pob mis rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017 eu diwygio. Cafodd data chwarterol Gogledd Iwerddon ei ddiwygio yn ôl i chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2016. Gall hyn fod yn wahanol i bolisi diwygio Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon a gyhoeddir gan Wasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon.
Diwygiadau eraill
O bryd i’w gilydd bydd yn rhaid gwneud diwygiadau y tu allan i’r cyfnod arferol. Mae enghreifftiau o ddiwygiadau o’r fath yn cynnwys gwelliannau i’r fethodoleg, diwygiadau i ddata a darganfod data anghywir trwy weithdrefnau sicrhau ansawdd cynhwysfawr. Caiff pob un o’r diwygiadau hyn eu harchwilio i weld a yw’r effeithiau yn arwyddocaol o ran graddfa’r newid neu a yw’r newidiadau yn effeithio ar y darlun y mae’r data yn ei bortreadu. Os nad yw diwygiadau sy’n codi trwy welliannau i’r fethodoleg neu newidiadau i ddata ffynhonnell yn arwyddocaol, cânt eu cyflwyno yn y gyfres nesaf o ddiwygiadau a ddisgwylir yn unol â’r amserlen uchod.
Fodd bynnag, os bernir bod y diwygiadau hyn yn effeithio ar y dadansoddiad neu eu bod yn ddigon mawr, cânt eu cyflwyno’n gyflymach.
Os yw data anghywir yn cael ei ddarganfod ar ôl cyhoeddi, cânt eu harchwilio hefyd i asesu ei effaith. Os yw’r newidiadau yn arwyddocaol, cyhoeddir rhybudd cywiro cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a bydd mân gywiriadau yn cael eu cynnwys yn y data nesaf a gaiff ei ryddhau. Ym mhob achos caiff esboniad llawn ei gynnwys fel rhan o’r cyhoeddiad.
I weld y diwygiadau misol neu’r diwygiadau ad hoc diweddaraf i ddata blaenorol, gweler y tablau a ddarperir ar y tudalennau lawrlwythiadau data o’n prif dudalen.
4.5 Addasiadau tymhorol
Cyfrifir cyfresi wedi’u haddasu’n dymhorol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol yn unig. Mae’r data hwn i’w weld yn y tablau data.
4.6 Chwyddiant
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn mesur newidiadau nominal mewn prisiau tai ac ni chaiff ei addasu ar gyfer chwyddiant. Gall defnyddwyr Mynegai Prisiau Tai y DU wneud eu cyfrifiadau chwyddiant eu hunain ac addasu Mynegai Prisiau Tai y DU yn unol â hynny.
4.7 Ardaloedd awdurdodau lleol bach heb eu dangos ar Fynegai Prisiau Tai y DU
Oherwydd y nifer fach o werthiannau ar gyfer yr ardaloedd hyn, ni fyddai Mynegai Prisiau Tai y DU bob amser yn darparu mesur dibynadwy o’r symudiad mewn prisiau. Efallai y bydd modd gwneud hyn wrth i’r data gynyddu.
4.8 Niferoedd diweddar heb eu hadrodd
Ceir data nifer y gwerthiannau rhannol ar gyfer y misoedd yn union cyn rhyddhau Mynegai Prisiau Tai y DU. Fodd bynnag, ni chaiff ei gyhoeddi oherwydd nid yw’r data yn gyflawn. Ein nod yw adrodd ar wybodaeth gywir a dibynadwy ac felly nid ydym am ryddhau data nifer y gwerthiannau a allai fod yn gamarweiniol os caiff ei ddyfynnu allan o gyd-destun.
5. Adfeddiannau
Mae manylion am werthiannau adfeddiannu ar gael ar gyfer Cymru a Lloegr yn unig.
Yn Awst 2016, dechreuwyd adrodd ar ddata adfeddiannu ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer mis Ebrill 2016.
Ar gyfer Lloegr, nifer yr adfeddiannau a gofnodir yn ôl Swyddfeydd Rhanbarthol y Llywodraeth a ddangosir ar ffurf tabl ac mewn map gwres yw hwn. Mae’r data ar gael i’w lwytho i lawr fel ffeil .csv hefyd.
Ar gyfer Cymru, ceir prif ffigur ar gyfer nifer yr adfeddiannau a gofnodir yng Nghymru. Mae’r data hwn wedi ei gynnwys yn y ffeil .csv hefyd.
6. Y gwahaniaeth rhwng Mynegai Prisiau Tai y DU a mynegeion eraill
Ar hyn o bryd cyhoeddir nifer o ffynonellau gwahanol o ystadegau prisiau tai yn ogystal â Mynegai Prisiau Tai y DU. Bydd gwahaniaeth yn y data a gyhoeddir gan bob ffynhonnell oherwydd mae gwahaniaeth yn y data a’r fethodoleg a ddefnyddir. Er enghraifft, mae Rightmove yn defnyddio prisiau gofyn, mae ffynonellau fel Nationwide a Halifax yn defnyddio eu data cymeradwyo morgais eu hunain, tra bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio data ar ddiwedd y broses drawsgludo, wedi’i gyfrifo yn seiliedig ar werthiannau a gwblhawyd. Darllenwch am y gwahaniaeth rhwng y mesurau mynegai prisiau tai gwahanol, eu cryfderau a’u cyfyngiadau yn ein cyhoeddiad Cymharu mynegeion prisiau tai yn y DU.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM yn wahanol i’r rhai a gyhoeddir fel rhan o Fynegai Prisiau Tai y DU oherwydd gwahaniaethau yn y cwmpas a chofrestru amserol, er bod y tueddiadau yn debyg.
6.1 Crynodeb lefel uchel
Cyfrifir Mynegai Prisiau Tai y DU ar sail gwerthiannau a gwblhawyd ar ddiwedd y broses drawsgludo. Mae hyn yn golygu er nad yw Mynegai Prisiau Tai y DU mor amserol o ran cyhoeddi â mesurau eraill, yn y pen draw mae’n fwy cyflawn ac yn cynnwys trafodion arian parod a thrafodion gyda morgais ar gyfer y DU gyfan. Mae’r ffynhonnell data mawr a ddefnyddir, cofrestriadau tir (megis y rhai a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF), yn golygu y gall data gael ei gyhoeddi i lawr i lefel awdurdod lleol ac mae dadansoddiadau pellach ar gael yn ôl y math o eiddo, statws y prynwr, statws ariannu a statws yr eiddo.
6.2 Mynegai prisiau tai Halifax a mynegai prisiau tai Nationwide
Mae Halifax a Nationwide yn cynhyrchu mynegeion prisiau tai yn seiliedig ar eu cymeradwyaethau morgais eu hunain ac felly ni fyddant yn cynnwys unrhyw drafodion arian parod. Mae’r ddau yn cwmpasu’r DU gyfan, a chan fod Halifax a Nationwide yn defnyddio eu data mewnol eu hunain yn unig, gallant brosesu’r data ar unwaith ac nid oes yn rhaid iddynt aros i gael data gan roddwyr benthyg eraill. Mae hyn yn golygu eu bod yn cyhoeddi’r data yn fwy amserol na Mynegai Prisiau Tai y DU.
6.3 Mynegai prisiau tai LSL Acadata
Yn debyg i ffynhonnell ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, mae Mynegai Prisiau Tai LSL Acadata (LSL Property Services/Acadametrics gynt) yn seiliedig ar werthiannau a gwblhawyd ar ddiwedd y broses drawsgludo gan ddefnyddio data o Gofrestrfa Tir EF ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn darparu canlyniadau cymysgedd ac wedi’u haddasu’n dymhorol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sirol neu awdurdod unedol neu fwrdeistref Llundain.
Gellir gweld y mynegai yn Acadata.
6.4 Mynegai prisiau tai Rightmove
Mae mynegai Rightmove yn cynnwys yr holl fathau o eiddo a hysbysebir ar ei wefan. Fodd bynnag, mae’n cynnwys tai nad ydynt yn gwerthu wedi hynny ac yn adrodd ar y prisiau gofyn yn unig. Os yw symudiadau mewn prisiau tai yn wahanol rhwng y tai sy’n gwerthu a’r tai nad ydynt yn gwerthu bydd hyn yn effeithio ar gywirdeb yr amcangyfrifon o brisiau tai a’r newidiadau ynddynt.
6.5 Ystadegau marchnad dai chwarterol swyddogol Cofrestri’r Alban
Bydd Cofrestri’r Alban yn parhau i gynhyrchu prisiau tai cyfartalog yn seiliedig ar ddulliau rhifyddol y trafodion hyn a gyhoeddir fel ystadegau marchnad dai chwarterol yn yr ail fis ar ôl y mis y cyfeiria’r ffigurau ato.
6.6 Ystadegau Prisiau Tai ar gyfer Ardaloedd Bach
Cyhoeddir Ystadegau Prisiau Tai ar gyfer Ardaloedd Bach (HPSSAau) yn chwarterol yn seiliedig ar ddata Pris a Dalwyd Cofrestrfa Tir EF. Nid mynegai prisiau tai yw HPSSAau gan nad ydynt yn rhoi cyfrif am newidiadau yn y cymysgedd o dai dros gyfnod o amser (addasiad cymysgedd), felly maent yn darparu ffigurau gwahanol i Fynegai Prisiau Tai y DU. Maent yn cofnodi gwerthoedd trafodion ar gyfartaledd heb eu haddasu hyd at ardal cynnyrch ehangach canolig.
6.7 Ystadegau Trafodion Eiddo Cyllid a Thollau EM
Mae data Cyllid a Thollau EM (HMRC) yn seiliedig ar ffurflenni Treth Tir Toll Stamp. Mae gan brynwyr 30 diwrnod o’r dyddiad cwblhau i anfon eu ffurflen trafodiad tir cyn i gosb gael ei chodi. Golyga hyn fod nifer trafodion Cyllid a Thollau EM yn fwy cyflawn na’r rhai a gyhoeddir ym Mynegai Prisiau Tai y DU am y misoedd diwethaf. Mae nifer y trafodion a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM hefyd yn wahanol o ran cwmpas i’r rhai a gyhoeddir ym Mynegai Prisiau Tai y DU.
Credwn mai’r prif reswm dros y gwahaniaeth hwn yw bod eiddo preswyl lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforaethol, yn gwmni neu’n fusnes wedi’i eithrio o ddata Cofrestrfa Tir EF ym Mynegai Prisiau Tai y DU ond wedi’i gynnwys yn ystadegau trafodion eiddo Cyllid a Thollau EM. Mae eithriadau data Mynegai Prisiau Tai y DU i’w gweld yn adran 2.
7. Ailgyhoeddi data
Cyhoeddir data Mynegai Prisiau Tai y DU o dan Drwydded Llywodraeth Agored. Pan fyddwch yn defnyddio neu’n cyhoeddi data o adroddiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, tablau cefndir yn y set ddata ystadegol: Mynegai Prisiau Tai y DU: lawrlwythiadau data neu declyn chwilio, bydd yn rhaid ichi ychwanegu’r datganiad priodoli canlynol:
Yn cynnwys data Cofrestrfa Tir EF © Hawlfraint y goron a hawl cronfa ddata 2020. Mae’r data hwn wedi’i drwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored fersiwn 3.0.
Pan fyddwch yn cyhoeddi’r data, gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys gwybodaeth am natur y data ac unrhyw ddyddiadau perthnasol ar gyfer y cyfnod dan sylw.
Ni fydd Cofrestrfa Tir EF nac unrhyw drydydd parti yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod, boed hynny’n uniongyrchol, yn anuniongyrchol neu’n ganlyniadol, sy’n deillio o:
- unrhyw ddata anghywir neu anghyflawn ym Mynegai Prisiau Tai y DU
- unrhyw benderfyniadau a wnaed neu gamau a gymerwyd trwy ddibynnu ar y data
Ni fydd Cofrestrfa Tir EF nac unrhyw drydydd parti yn gyfrifol ychwaith am golli adnoddau busnes, colli elw neu unrhyw iawndal cosbedigol anuniongyrchol, canlyniadol, arbennig neu debyg, boed hynny mewn contract neu mewn camwedd neu fel arall, hyd yn oed os cafodd ei hysbysu am y posibilrwydd o iawndal o’r fath.
8. Tablau data
Pan gyhoeddir tablau data Mynegai Prisiau Tai y DU bob mis, maent yn cynrychioli ein barn orau ar y symudiadau hanesyddol mewn prisiau tai y pryd hynny. Wrth i wybodaeth newydd gael ei chyhoeddi, caiff y tablau eu diwygio i adlewyrchu unrhyw ddata newydd. Bob mis caiff data newydd ei ychwanegol a chaiff data’r deuddeg mis blaenorol ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw werthiannau a ychwanegwyd ar gyfer y misoedd hynny.
Gan fod Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon yn cael ei gyhoeddi bob chwarter ac mae data gwerthiannau yn ffurfio’r sail ar gyfer ailbrisiadau domestig yn y dyfodol, caiff cyfres data prisiau Gogledd Iwerddon ei diwygio fel a phryd y bo angen er mwyn ystyried unrhyw wybodaeth newydd a dderbynnir am werthiannau, felly dylai’r gyfres data a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o Ionawr 2005 gael ei defnyddio, sef Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon o Chwarter 1 2005.
8.1 Sut mae’r data hwn yn wahanol i’r data sydd ar gael o’r teclyn ‘Chwilio’r Mynegai Prisiau Tai’
Mae’r teclyn Chwilio Mynegai Prisiau Tai y DU yn cynnig modd i gwsmeriaid gynhyrchu adroddiadau printiadwy sy’n seiliedig ar ddata’r Mynegai Prisiau Tai. Gall yr adroddiadau gael eu llwytho i lawr hefyd ar ffurf CSV (comma-separated values) neu Turtle (Terse RDF Triple Language), a gellir gweld yr ymholiad SPARQL a gynhyrchir yn y cefndir. Mae’r rhagolwg amser real yn golygu ei bod yn rhwydd newid opsiynau chwilio ar gyfer prisiau cyfartalog, mynegeion, nifer y gwerthiannau a mathau o eiddo yn amrywio o Ionawr 1995 i’r data diweddaraf sydd ar gael.
Mae tablau data Mynegai Prisiau Tai ar gyfer cwsmeriaid a hoffai lwytho’r set ddata gyfan i lawr ar ffurf haws ei defnyddio sy’n cynnwys y data sy’n sail i Fynegai Prisiau Tai y DU. Mae’r tablau’n cynnwys y canlynol:
- ffeil llawn Mynegai Prisiau Tai y DU
- pris cyfartalog
- pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
- gwerthiannau
- gwerthiannau morgais arian parod
- prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
- adeilad newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd
- mynegai
- mynegai a addaswyd yn dymhorol
- pris cyfartalog a addaswyd yn dymhorol
- adfeddiannau
Mae’r ffeiliau canlynol hefyd ar gael gyda manylion am ddiwygiadau i’r data a gyhoeddwyd yn y 12 mis blaenorol:
- Diwygiadau’r DU
- Diwygiadau Lloegr
- Diwygiadau Cymru
- Diwygiadau’r Alban
- Diwygiadau Gogledd Iwerddon
Os hoffech ddeall mwy am y tablau data a’r gwahaniaeth rhwng y ffigurau, darllenwch y wybodaeth dechnegol ganlynol.
8.2 Ffurf y data
Mae’r data ar gael ar ffurf CSV a data cysylltiedig.
Cyhoeddir y data mewn colofnau yn y drefn a nodir yn y tabl. Nid ydym yn darparu penawdau i’r colofnau yn y ffeiliau. Mae manylion yr acronymau fel a ganlyn:
- FTB: prynwr am y tro cyntaf
- FOO: cyn berchen-feddiannydd
Pennawd y golofn | Eglurhad |
---|---|
Date | Y flwyddyn a’r mis y mae’r ystadegau misol yn berthnasol iddynt |
RegionName | Enw’r ddaearyddiaeth (Gwlad, Rhanbarthol, Awdurdod Sirol/Unedol/Dosbarth a bwrdeistrefi Llundain) |
AreaCode | Cod y ddaearyddiaeth (Gwlad, Rhanbarthol, Awdurdod Sirol/Unedol/Dosbarth a bwrdeistrefi Llundain) |
Average Price | Prisiau tai cyfartalog ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
Index | Mynegai prisiau tai ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol (Ionawr 2015=100) |
IndexSA | Prisiau tai wedi eu haddasu’n dymhorol ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol (Ionawr 2015=100) |
1m%change | Y newid canrannol yn y Pris Cyfartalog o’i gymharu â’r mis blaenorol |
12m%change | Y newid canrannol yn y Pris Cyfartalog o’i gymharu â’r un cyfnod deuddeg mis yn gynharach |
AveragePricesSA | Pris cyfartalog wedi ei addasu’n dymhorol ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
Sales Volume | Nifer y trafodion cofrestredig ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
[Property Type]Price | Prisiau tai cyfartalog ar gyfer math penodol o eiddo (megis tai sengl), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
[Property Type]Index | Mynegai prisiau tai ar gyfer math penodol o eiddo (megis tai sengl), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol (Ionawr 2015=100) |
[Property Type]1m%change | Y newid canrannol yn y Pris [Property Type] (megis tai sengl), o’i gymharu â’r mis blaenorol |
[Property Type]12m%change | Y newid canrannol yn y Pris [Property Type] (megis tai sengl), o’i gymharu â’r un cyfnod deuddeg mis yn gynharach |
[Cash/Mortgage]Price | Pris tai cyfartalog yn ôl statws ariannu (megis arian parod), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
[Cash/Mortgage]Index | Mynegai prisiau tai yn ôl statws ariannu (megis arian parod), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol (Ionawr 2015=100) |
[Cash/Mortgage]1m%change | Y newid canrannol yn y Pris [Cash/Mortgage] o’i gymharu â’r mis blaenorol |
[Cash/Mortgage]12m%change | Y newid canrannol yn y Pris [Cash/Mortgage] o’i gymharu â’r un cyfnod deuddeg mis yn gynharach |
[Cash/Mortgage] Sales Volume | Nifer y trafodion cofrestredig [Cash/Mortgage] ar gyfer ardal ddaearyddol mewn cyfnod arbennig |
[FTB/FOO]Price | Pris tai cyfartalog yn ôl statws y prynwr (megis prynwr am y tro cyntaf/cyn berchen-feddiannydd, ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
[FTB/FOO]Index | Mynegai prisiau tai yn ôl statws y prynwr (megis prynwr am y tro cyntaf/cyn berchen-feddiannydd), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol. (Ionawr 2015=100) |
[FTB/FOO]1m%change | Y newid canrannol yn y Pris [FTB/FOO] o’i gymharu â’r mis blaenorol |
[FTB/FOO]12m%change | Y newid canrannol yn y Pris [FTB/FOO] o’i gymharu â’r un cyfnod deuddeg mis yn gynharach |
[New/Old]Price | Pris cyfartalog tai yn ôl statws eiddo (megis eiddo newydd neu eiddo presennol), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol |
[New/Old]Index | Mynegai prisiau tai yn ôl statws eiddo (megis eiddo newydd neu eiddo presennol), ar gyfer daearyddiaeth mewn cyfnod penodol (Ionawr 2015=100). |
[New/Old]1m%change | Y newid canrannol yn y Pris [New/Old] o’i gymharu â’r mis blaenorol |
[New/Old]12m%change | Y newid canrannol yn y Pris [New/Old] o’i gymharu â’r un cyfnod deuddeg mis yn gynharach |
[New/Old] Sales Volume | Nifer y trafodion cofrestredig [New/Old] ar gyfer ardal ddaearyddol mewn cyfnod arbennig |
8.3 Sut i gyrchu’r data
Cyhoeddir data Mynegai Prisiau Tai y DU yn fisol ar ffurf CSV a data cysylltiedig ar data.gov.
8.4 Addasiadau tymhorol
Y gwahaniaeth rhwng y tablau a elwir Mynegai a Mynegai (Wedi’i Addasu’n Dymhorol):
- mae’r tabl Mynegai yn cynnwys mynegai prisiau eiddo preswyl misol ar lefel ranbarthol, sirol/awdurdod unedol a bwrdeistref Llundain.
- mae’r tabl Mynegai (Wedi’i Addasu’n Dymhorol) yn cynnwys mynegeion prisiau eiddo preswyl misol wedi’u haddasu’n dymhorol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.
8.5 Newid misol a newid blynyddol
Data a gyflwynir yn y tablau Newid Misol a Newid Blynyddol:
- mae’r tabl Newid Misol yn cynnwys ffigurau newid misol sy’n cynrychioli’r newid canrannol yn y mynegai o fis i fis.
- mae’r tabl Newid Blynyddol yn cynnwys ffigurau newid blynyddol. Mae’r rhain yn cynrychioli’r newid canrannol yn y mynegai dros y deuddeg mis diwethaf.
8.6 Tabl nifer y gwerthiannau
Mae’r tabl hwn yn cynnwys cyfrifiadau o’r holl werthiannau sydd wedi’u cynnwys yn y gofrestr electronig adeg tynnu’r data. Mae’r oedi wrth gasglu data yn effeithio ar y misoedd diweddaraf yn bennaf. Felly mae’r ddau fis mwyaf diweddar heb eu cynnwys yn y data hwn er mwyn osgoi cyhoeddi niferoedd camarweiniol.
Mae data nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws yr eiddo (adeilad newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws ariannu (arian parod a morgais) yn ein tablau data lawrlwythadwy. Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU i gael rhagor o wybodaeth.
Oherwydd na allwn nodi statws ariannu pob trafodiad eiddo efallai na fydd nifer y gwerthiannau am arian parod/gyda morgais fod yn hafal i’r cyfanswm.
8.7 Lefelau cyflwyno’r data
Mae’r data wedi’i gyflwyno fel a ganlyn:
- ‘Newid Misol’
- ‘Mynegai’
- ‘Newid Blynyddol’
- ‘Prisiau Cyfartalog’
- Mae ‘Nifer y Gwerthiannau’ wedi’u nodi ar lefel genedlaethol, ranbarthol, sirol/awdurdod unedol, awdurdod lleol a bwrdeistref Llundain
Cyflwynir data mewn tablau ‘Prisiau Cyfartalog (Wedi’u Haddasu’n Dymhorol)’ a ‘Mynegai (Wedi’i Addasu’n Dymhorol)’ ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.
9. Chwilio Mynegai Prisiau Tai y DU
9.1 Am y teclyn chwilio
Mae teclyn chwilio Mynegai Prisiau Tai y DU yn cynnig modd ichi deilwra chwiliadau o’r data Prisiau Tai trwy ddefnyddio ardaloedd, dyddiadau, mathau o dai a dangosyddion penodol.
9.2 Porwyr a gefnogir
Er Ebrill 2014, nid yw Cofrestrfa Tir EF yn profi meddalwedd cymwysiadau newydd a ryddheir yn erbyn Microsoft Windows XP a Microsoft Internet Explorer 8.
Cefnogir Microsoft Internet Explorer 9 ymlaen, Safari 7 ymlaen a fersiwn diweddaraf porwyr sy’n diweddaru’n awtomatig, megis Mozilla Firefox a Google Chrome.
9.3 Eitemau data a ddangosir
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU gan Gofrestrfa Tir EF trwy ddefnyddio data gwerthiannau a gesglir ar drafodion tai preswyl.
Mae’r data ar gael trwy:
- Math o eiddo – er enghraifft Tŷ sengl, Tŷ pâr, Tŷ teras, Fflat neu Holl
- Statws y prynwr – er enghraifft Prynwr am y Tro Cyntaf neu Gyn-berchen Feddiannydd
- Statws ariannu – er enghraifft Arian Parod a Morgais
- Statws yr eiddo – er enghraifft Adeiladau newydd ac Adeiladau sy’n bodoli
Eitem data | Disgrifiad |
---|---|
Mynegeion Prisiau Tai | Cofnodi newidiadau yng ngwerth eiddo preswyl o sylfaen o 100 a osodwyd yn Ionawr 2015. |
Newid Misol | Y newid canrannol yn y mynegai o fis i fis. |
Newid Blynyddol | Y newid canrannol yn y mynegai dros y 12 mis diwethaf. |
Nifer y Gwerthiannau | Nifer y gwerthiannau y seilir y dadansoddiad arnynt. Mae’r ffigurau’n cynnwys yr holl werthiannau a gofnodir yn ein Set Ddata Pris a Dalwyd pan dynnir y data. Mae’n bosib na fydd gwerthiannau yn y misoedd mwyaf diweddar yn adlewyrchu’r nifer gwirioneddol o werthiannau oherwydd yr oedi wrth gofrestru, a chânt eu diwygio dros 12 mis. Nid yw data gwerthiannau ar gael ar gyfer statws y prynwr. |
Pris Cyfartalog | Prisiau cyfartalog safonedig. Gellir cael pris ar gyfer pob eiddo neu wahanu’r prisiau yn ôl math o eiddo. |
9.4 Sut i weld eich canlyniadau
Cyflwynir ein data Mynegai Prisiau Tai y DU ar lefel genedlaethol, ranbarthol, sirol a bwrdeistref neu ddosbarth metropolitan. Pan ddechreuwch deipio enw ardal fe welwch gwymplen gyda rhestr o’r lleoliadau sydd ar gael. Dewiswch y lleoliad dewisol o’r rhestr i ddechrau chwilio.
Os nad ydych yn siwr pa ardaloedd y gellir adrodd arnynt, defnyddiwch yr eicon map i weld yr ardaloedd gwahanol sydd ar gael.
Gallwch gymharu hyd at 5 lleoliad gan ddefnyddio ein teclyn cymharu.
9.5 Gweld canlyniadau
I gychwyn mae’r teclyn chwilio yn cyflwyno canlyniadau ar gyfer y DU ar gyfer y 12 mis blaenorol gan ddangos y Mynegai, y pris cyfartalog, niferoedd, y newid canrannol misol a blynyddol ar ffurf tabl a graff. Gallwch newid yr opsiynau (dyddiad, lleoliad, dangosyddion a mathau o eiddo).
9.6 Y data sydd ar gael
Mae’r holl ddata sydd ar gael bellach wedi ei gynnwys yn y teclyn chwilio, ond nid yw’r holl ddata ar gael ar gyfer pob sir:
- Ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon nid yw data ar gael ar lefel ranbarthol neu sirol
- Mae data hanesyddol (rhwng 1968 a 1995) ar gael ar lefel gwlad a rhanbarth yn chwarterol yn unig
- Nid yw data statws eiddo yn cynnwys y ddau fis diweddaraf gan fod yr amcangyfrifon cyntaf ar gyfer adeiladau newydd yn seiliedig ar sampl fechan a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrifon cychwynnol
- Nid yw data cyfaint yn cynnwys y ddau fis diweddaraf gan nad yw’r data wedi ei gwblhau. Ein nod yw adrodd ar wybodaeth gywir a dibynadwy ac felly nid ydym am ryddhau data cyfaint gwerthiannau sydd â’r potensial i fod yn gamarweiniol os caiff ei ddyfynnu allan o’i gyd-destun
- Nid yw data cyfaint ar gyfer statws y prynwr ar gael.
9.7 Y gwahaniaeth rhwng teclyn Chwilio Mynegai Prisiau Tai y DU a’r tablau data
Mae teclyn Chwilio Mynegai Prisiau Tai y DU yn cynnig modd i gwsmeriaid gynhyrchu adroddiadau y gellir eu llwytho i lawr sy’n seiliedig ar ddata’r Mynegai Prisiau Tai. Gall yr adroddiadau gael eu llwytho i lawr ar ffurf CSV neu Turtle, a gellir gweld yr ymholiad SPARQL a gynhyrchir yn y cefndir. Mae’r rhagolwg amser real yn cynnig opsiynau chwilio ar gyfer prisiau cyfartalog, mynegeion, nifer y gwerthiannau a mathau o eiddo yn amrywio o 1968 i’r data diweddaraf sydd ar gael.
9.8 Arwyddocâd y statws Beta
Mae’r statws beta yn golygu y gallwn adolygu’r gwasanaeth a gwneud newidiadau i’r ffurf bresennol. Byddwn yn casglu adborth yn ystod y cyfnod BETA a lle bo hynny’n briodol yn gwneud newidiadau i’r teclyn chwilio.
10. Calendr dyddiadau rhyddhau
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU ar yr ail neu’r trydydd dydd Mercher ymhob mis, gyda ffigurau Gogledd Iwerddon yn cael eu diweddaru bob chwarter. Ceir adegau, fel misoedd sy’n cynnwys gwyliau cyhoeddus a diwedd y flwyddyn ariannol, lle cyhoeddir y data ar y pedwerydd dydd Mercher neu ar ddiwrnod arall.
10.1 Dyddiadau cyhoeddi ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU
Mis a blwyddyn y data | Amser a dyddiad cyhoeddi |
---|---|
Medi 2024 | 20 Tachwedd 2024 (9:30am) |
Hydref 2024 | 18 Rhagfyr 2024 (9:30am) |
Tachwedd 2024 | 15 Ionawr 2025 (9:30am) |
Rhagfyr 2024 | 19 Chwefror 2025 (9:30am) |
Ionawr 2025 | 26 Mawrth 2025 (9:30am) |
Chwefror 2025 | 16 Ebrill 2025 (9:30am) |
Mawrth 2025 | 21 Mai 2025 (9:30am) |
Ebrill 2025 | 18 Mehefin 2025 (9:30am) |
Mai 2025 | 16 Gorffennaf 2025 (9:30am) |
Mehefin 2025 | 20 Awst 2025 (9:30am) |
Gorffennaf 2025 | 17 Medi 2025 (9:30am) |
Awst 2025 | 22 Hydref 2025 (9:30am) |
Medi 2025 | 19 Tachwedd 2025 (9:30am) |
Hydref 2025 | 17 Rhagfyr 2025 (9:30am) |
Tachwedd 2025 | 21 Ionawr 2026 (9:30am) |
11. Mynediad cyn rhyddhau
Ar 15 Mehefin 2017, cyhoeddodd yr Ystadegydd Gwladol y byddai’r gallu i weld ystadegau Swyddfa’r Ystadegau Gwladol cyn eu rhyddhau yn dod i ben o 1 Gorffennaf 2017.
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn gyhoeddiad ar y cyd gan Gofrestrfa Tir EF, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestri’r Alban. Bydd yr adrannau hyn yn parhau i weithio gyda’i gilydd i’w gynhyrchu ond ni fydd gweinidogion a’r swyddogion hynny nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â chynhyrchu a rhyddhau ystadegau yn eu gweld cyn iddynt gael eu cyhoeddi.
12. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost
eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 006 5288
Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk
Ffôn
01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn
028 90 336035
Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk
Ffôn
07919 570915
13. Rhagor o wybodaeth
Darllenwch am y newidiadau a wnaed i Fynegai Prisiau Tai y DU ynghyd ag erthyglau cysylltiedig:
- Comparing house price indices in the UK
- Quality assurance of administrative data in the UK House Price Index
- Improving the UK HPI: Summary of responses
- The UK House Price Index marks one year of publishing – 13 Mehefin 2017
- UK House Price Index: new data reveals number of cash buyers – 17 Hydref 2017
- Our UK HPI changes: greater accuracy, fewer revisions – 15 Tachwedd 2017
- New features for the UK House Price Index search tool and reports – 16 Ionawr 2018