Asesiad baich anghymesur ar gyfer y System Olrhain Gwartheg CTS Ar-lein
Published 20 December 2024
Applies to England and Wales
Yr effaith ar ddefnyddwyr
Nid yw ein gwasanaeth na’n gwybodaeth wedi’u hanelu’n benodol at bobl anabl.
Nid yw ein gwasanaeth na’n gwybodaeth yn benodol yn galluogi pobl i gymryd rhan mewn cymdeithas yn gyffredinol.
Yr effaith
Mae’r ffurflen yn ddogfen Word â rhai adrannau wedi’u cloi. Mae ganddi’r problemau canlynol ynglŷn â hygyrchedd y credwn y byddant yn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrin lenwi’r ffurflen:
-
dim penawdau i’r tablau
-
celloedd wedi’u huno yn y tabl
-
testun wedi’i alinio mewn un gell na fydd ganddo’r drefn darllen gywir
-
trefn tabiau wedi torri
Pobl sydd ond yn defnyddio bysellfwrdd:
-
nid yw pob swyddogaeth yn hygyrch gan ddefnyddio bysellfwrdd
-
dim dolenni neidio
Gall unigolion ddefnyddio’r gwasanaeth ond byddant yn wynebu rhwystrau
Defnyddwyr â golwg gwan neu liwddall
-
defnyddir lliw i gyfleu gwybodaeth
-
cyferbynnedd lliwiau gwael
Gall unigolion ddefnyddio’r gwasanaeth ond byddant yn wynebu rhwystrau
Pobl y mae angen testun mwy o faint arnynt neu y mae angen iddynt chwyddo i mewn:
-
nid yw’r gwasanaeth yn ail-lifo
-
mae’r bwlch rhwng testun yn achosi i gynnwys gael ei docio
Ni all defnyddwyr ddefnyddio’r gwasanaeth heb wynebu llawer o rwystrau.
Nifer y defnyddwyr yr effeithir arnynt
Amcangyfrif o nifer y defnyddwyr yr effeithir arnynt os na fyddwn yn gwneud y wybodaeth/gwasanaeth yn gwbl hygyrch: 56,000
Ffynhonnell y data hyn: Nifer amcangyfrifedig y defnyddwyr sydd â mynediad at SOG Ar-lein. Ffynhonnell Gweithrediadau Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BMCS)
Y baich y bydd gwneud y pethau hynny yn hygyrch yn ei osod ar eich sefydliad
Manylion y corff sector cyhoeddus
Enw’r corff cyhoeddus: Asiantaeth Taliadau Gwledig
Natur y corff sector cyhoeddus: Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn un o asiantaethau gweithredol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn y DU. Cyn Brexit, yr Asiantaeth Taliadau Gwledig a ddarparai daliadau Polisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd i ffermwyr a masnachwyr yn Lloegr.
Maint, adnoddau a chyllideb: Sefydliad â 3,000 o gyflogeion. Cyllideb flynyddol gwerth £100 miliwn.
Y rheswm dros y baich
-
mae costau’r newid yn rhy uchel i’w diwygio
-
cyfnod byr o amser sydd ar ôl ar gyfer y cynnyrch hwn. Caiff ei ddisodli o fewn 24 mis
Yr amser neu’r gost i’w wneud yn hygyrch
-
creu sgriniau cwbl ymatebol newydd ar gyfer SOG Ar-lein ar gyfer pob un o’r 286 o dudalennau
-
y cyflenwr i ailddatblygu’r rhyngwyneb defnyddiwr er mwyn cyrraedd safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 Hygyrchedd
Ar gyfer Gweithredu Prosiect SOG Ar-lein ac AMLS, amcangyfrifir y byddai Taliadau untro yn cyfateb i £2,000,000-£3,800,000, heb gynnwys Treuliau na TAW.
Mae’r wybodaeth am ddatrysiadau a phrisiau yn y ddogfen hon, yn unol â’r cais, yn amcangyfrif trefn maint bras dangosol y bwriedid iddo gael ei ddefnyddio fel canllaw cyffredinol ac at ddibenion cynllunio cyllideb yn unig.
Mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar delerau ac amodau Contract C5495
Penderfyniad a hawliad
Hawliad
Rydym wedi asesu cost datrys y problemau. Credwn y byddai baich y gost hon yn anghymesur â’r manteision amcangyfrifedig bach i bobl ag anableddau, o ystyried y nifer cymharol fach o ddefnyddwyr a’r cyfnod byr o amser sydd ar ôl ar gyfer y feddalwedd a nodwyd. Felly, credwn y byddai’r budd i’r Asiantaeth Taliadau Gwledig o ganlyniad i roi newidiadau ar waith hefyd yn fach ac, unwaith eto, y byddai’r gost sy’n gysylltiedig â gwneud hynny yn anghymesur.
Rydym wedi ychwanegu’r hawliad am faich anghymesur at ein datganiad hygyrchedd.
Rheswm
(a) yr adnoddau sydd ar gael i sefydliad a ariennir gan drethdalwyr
(b) y costau o hyd at £3.8 miliwn ar gyfer dau wasanaeth Taliadau Gwledig a gaiff eu disodli o fewn 24 mis.
Dyddiad adolygu
Byddwn yn adolygu’r asesiad hwn ar 1 Ebrill 2025.
Adolygu a chymeradwyo
Neges Gyfreithiol
Cafodd yr hawliad a’r asesiad uchod eu gwirio a’u cymeradwyo gan swyddog cyfreithiol DEFRA ar 18 Ebrill 2024.
Cymeradwyo gan uwch-swyddog cyfrifol
Cafodd yr hawliad a’r asesiad uchod eu gwirio a’u cymeradwyo gan Terry Gadd, perchennog yr Ased Gwybodaeth ac Arweinydd yr Asiantaeth Taliadau Gwledig ar gyfer Cynlluniau a Gwasanaethau Da Byw a Masnachwyr, ar 19 Ebrill 2024.