Guidance

Y Gofrestr Plant Mabwysiedig: nodyn i rieni (accessible version)

Updated 6 August 2024

Unwaith y mae Gorchymyn Mabwysiadu wedi’i ganiatáu, bydd copi o’r Gorchymyn Mabwysiadu mewn perthynas â phob plentyn yn cael ei anfon atoch o’r Llys lle cynhaliwyd y gwrandawiad Mabwysiadu.

Anfona’r Llys hefyd gopi o’r Gorchymyn Mabwysiadu at y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn Southport, Glannau Mersi, pwy sy’n defnyddio’r wybodaeth yn y Gorchymyn Mabwysiadu i wneud cofnod yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig. Yna, cynhyrchir tystysgrif geni newydd yn enw mabwysiol y plentyn. Gelwir y ddogfen hon yn dystysgrif mabwysiadu, sy’n cymryd lle’r dystysgrif geni wreiddiol at bob diben cyfreithiol.

Darllenwch y cwestiynau a’r atebion canlynol yn ofalus. Mae’n bwysig iawn bod yr holl fanylion yn y Gorchymyn Llys yn gywir cyn y gwneir y cofnod yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig, gan mai dyma’r wybodaeth a fydd yn ymddangos ar y dystysgrif mabwysiadu newydd.

Beth ddylwn i ei wneud pan fyddaf yn derbyn y Gorchymyn Mabwysiadu?

Gwiriwch fod yr holl fanylion ar eich copi o’r Gorchymyn Llys yn gywir a rhoi gwybod i’r Llys ar unwaith os oes problem er mwyn i Orchymyn diwygiedig gael ei gynhyrchu gan y Llys a’i anfon at y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Defnyddiwch y rhestr wirio hon i sicrhau fod yr holl fanylion yn gywir.

  • A yw’r holl enwau wedi’u dangos gan gynnwys enwau canol?
  • A yw’r holl enwau wedi’u sillafu’n gywir?
  • A yw’r holl ddyddiadau a ddangosir yn gywir?

Gallai methu â gwirio’ch Gorchymyn Mabwysiadu arwain at oedi wrth wneud cofnod yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig ac efallai y codir ffi ychwanegol am dystysgrif mabwysiadu os oes angen newid y cofnod yn y gofrestr yn nes ymlaen.

Beth fyddaf i’n ei dderbyn oddi wrth y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol?

Byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau bod y cofnod wedi’i wneud yn y Gofrestr Plant

Mabwysiedig a sut i archebu copïau o dystysgrif fer neu lawn. Mae angen tystysgrif lawn ar gyfer y rhan fwyaf o ddibenion cyfreithiol a gweinyddol a bydd y dystysgrif hon yn ofynnol i gefnogi cais pasbort eich plentyn.

Faint o amser gymerith cyn i mi dderbyn y dystysgrif geni newydd?

Bydd yn cymryd tua 4 wythnos unwaith y mae’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol wedi derbyn y

Gorchymyn Mabwysiadu o’r Llys. Pan mae’r Gorchymyn Mabwysiadu wedi’i brosesu, yna fe allwch chi wneud cais am dystysgrif mabwysiadu. Bydd yn cymryd 15 diwrnod am gais tystysgrif safonol ac 1 diwrnod am gais blaenoriaethol.

Sylwer: Os oes angen tystysgrif newydd ar eich plentyn i gael pasbort, dylech gadw’r amserlen uchod mewn cof. Gellir cael rhagor o wybodaeth am basbortau ar Get a passport for your child. Ni fyddwch yn gallu teithio heb basbort, felly fe’ch cynghorir i aros nes y caiff ei dderbyn cyn archebu unrhyw deithiau.

Tebyg i beth yw’r tystysgrifau geni newydd?

Nid yw’r dystysgrif fer yn cyfeirio at y mabwysiad ac mae ganddi’r enw “Tystysgrif Geni.” Mae’r dystysgrif lawn yn gopi llawn o’r cofnod yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig ac mae enghreifftiau o’r tystysgrifau byr a llawn i’w gweld isod.

Beth ddylwn i ei wneud os oes arnaf eisiau unrhyw gopïau pellach o’r dystysgrif lawn neu fer yn y dyfodol?

Dylech wneud cais i’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol am gopïau dyblyg gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a roddir. Ni ellir cael tystysgrifau mabwysiadu o’r swyddfa gofrestru leol.

Gyda phwy ddylwn i gysylltu os oes gennyf unrhyw ymholiadau am y nodyn canllaw hwn?

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r canllaw hwn.

Ffôn:                0300 123 1837

Email:              adoptions@gro.gov.uk

Gwefan:           www.gov.uk

Enghraifft o dystysgrif fer a enghraifft o dystysgrif lawn