Cyfarwyddyd ymarfer 4: meddiant gwrthgefn tir cofrestredig
Diweddarwyd 25 Tachwedd 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
1.1 Y drefn newydd: trosolwg
Cyn i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ddod i rym, gallai sgwatiwr gaffael yr hawl i’w gofrestru’n berchennog ystad gofrestredig ar ôl bod mewn meddiant gwrthgefn o’r tir am o leiaf 12 mlynedd. Fodd bynnag, nid oedd athrawiaeth meddiant gwrthgefn yn cyd-fynd yn rhwydd â chysyniad sylfaenol anniddymoldeb teitl sydd wrth wraidd y gyfundrefn gofrestru tir. Nid oedd modd ei gyfiawnhau chwaith gan yr ansicrwydd ynghylch perchnogaeth sy’n gallu codi pan fo tir yn ddigofrestredig; mae’r ystad gyfreithiol wedi ei breinio yn y perchennog cofrestredig ac maent wedi eu nodi yn y gofrestr.
Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 wedi creu trefn newydd sy’n berthnasol i dir cofrestredig yn unig. Mae’r drefn newydd hon i’w gweld yn Atodlen 6 i’r Ddeddf. Mae’n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd perchennog cofrestredig yn gallu atal cais am feddiant gwrthgefn o’i dir rhag cael ei gwblhau. Mae’r paragraffau canlynol yn darparu trosolwg byr o’r drefn newydd; mae’r adrannau sy’n weddill yn y cyfarwyddyd hwn yn ei drafod yn fanylach.
- ni fydd meddiant gwrthgefn tir cofrestredig am 12 mlynedd ohono’i hun yn effeithio ar deitl y perchennog cofrestredig mwyach
- ar ôl 10 mlynedd o feddiant gwrthgefn, bydd gan y sgwatiwr yr hawl i wneud cais i gael ei gofrestru’n berchennog yn lle perchennog cofrestredig y tir
- o dderbyn cais o’r fath, bydd y perchennog cofrestredig (a rhai pobl eraill â budd yn y tir) yn cael hysbysiad ac yn cael cyfle i wrthwynebu’r cais
- os na fydd gwrthwynebiad i’r cais (ystyr ‘gwrthwynebiad’ yma yw bod gwrthrybudd wedi cael ei gyflwyno: gweler Rhoi gwrthrybudd i’r cofrestrydd mewn ymateb i rybudd. Yn lle hynny, neu ar yr un pryd, gall y perchennog cofrestredig wrthwynebu’r cais ar sail na fu’r meddiant gwrthgefn deng mlynedd angenrheidiol: gweler Gwrthwynebu cais y sgwatiwr am oblygiadau gwrthwynebiad o’r fath.), caiff y sgwatiwr ei gofrestru’n berchennog yn lle perchennog cofrestredig y tir
- os oes gwrthwynebiad i’r cais, caiff ei wrthod heblaw fel a ganlyn:
- y byddai’n afresymol oherwydd ecwiti trwy estopel i’r perchennog cofrestredig geisio difeddu’r sgwatiwr ac y dylid cofrestru’r sgwatiwr yn berchennog o dan yr amgylchiadau
- bod hawl gan y sgwatiwr i’w gofrestru’n berchennog am ryw reswm arall
- bod y sgwatiwr wedi bod mewn meddiant gwrthgefn tir cyfagos i’w dir ei hun gan gredu’n gyfeiliornus ond yn rhesymol mai ef yw ei berchennog, na phenderfynwyd union linell y ffin â’r tir cyfagos hwn ac y cofrestrwyd yr ystad sy’n berthynol i’r cais dros flwyddyn cyn dyddiad y cais
- os digwydd i’r cais gael ei wrthod ond bod y sgwatiwr yn dal mewn meddiant gwrthgefn am ddwy flynedd ychwanegol, yna bydd yn gallu, yn amodol ar eithriadau arbennig, gwneud cais eto i’w gofrestru’n berchennog a’r tro hwn, bydd yn cael ei gofrestru felly boed rhywun yn gwrthwynebu’r cais neu beidio
1.2 Y darpariaethau trosiannol
Ceir darpariaethau trosiannol pwysig yn Neddf Cofrestru Tir 2002 ar gyfer achosion lle’r oedd sgwatiwr mewn meddiant gwrthgefn tir cofrestredig am y cyfnod cyfyngiad gofynnol o dan Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980 i gaffael yr hawl i gael ei gofrestru’n berchennog cyn 13 Hydref 2003. Bydd hyn wedi digwydd fel rheol pe bai’r sgwatiwr mewn meddiant gwrthgefn am o leiaf 12 mlynedd cyn 13 Hydref 2003, er bydd cyfnod hirach yn ofynnol weithiau. Er enghraifft, pe bai’r Goron neu unig gorfforaeth eglwysig yn berchen ar y tir, pan fo’r cyfnod yn 30 mlynedd, neu’n cael ei ddal ar ymddiried neu gan rywun a chanddo anabledd. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 5: meddiant gwrthgefn (1) tir digofrestredig (2) tir cofrestredig lle cafwyd yr hawl i gofrestru yn 13 Hydref 2003 –adran 3: Y cyfnod cyfyngiad. Mae’r darpariaethau trosiannol yn cadw’r hawl hon i gofrestru fel perchennog, er gellir colli’r hawl.
Mae’n bosibl bydd sgwatiwr yn gallu gwneud cais naill ai o dan y darpariaethau trosiannol neu’r drefn newydd. Os yw’n gwneud ceisiadau o dan y drefn newydd a’r darpariaethau trosiannol, byddwn yn cysylltu â chi i drafod y ffordd byddwn yn ymdrin â’r ceisiadau. Ein nod cyffredinol fyddai prosesu unrhyw anghydfod sy’n codi o’r ceisiadau ar yr un pryd. Wrth gysylltu â chi, byddwn yn gofyn am gadarnhad ynghylch pa gais dylid ei drin fel y cyntaf.
Mae cyfarwyddyd ymarfer 5: meddiant gwrthgefn (1) tir digofrestredig (2) tir cofrestredig lle cafwyd yr hawl i gofrestru yn 13 Hydref 2003 yn egluro’r darpariaethau trosiannol yn fanylach a sut i wneud cais am feddiant gwrthgefn o dan y darpariaethau hyn. Dim ond â’r drefn newydd y mae’r cyfarwyddyd hwn yn delio.
1.3 Cais am newidiad
Ceir trydydd math o gais a wneir weithiau gan sgwatiwr mewn perthynas â thir cofrestredig. Mae hyn pan fu i’r cofrestriad cyntaf ddigwydd ar ôl i’r teitl papur gael ei ddileu, gan olygu mai camgymeriad oedd y cofrestriad cyntaf. Gall y sgwatiwr wneud cais am newidiad (cau’r teitl cofrestredig) ac am gofrestriad cyntaf ei deitl ei hunan.
Os yw’r sgwatiwr mewn union feddiannaeth neu os oes gan y perchennog cyntaf rybudd o ystad y sgwatiwr, bydd yr ystad a freiniwyd yn y perchennog yn ddarostyngedig i’r ystad honno: adran 11(4)(b) ac (c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Ni fydd newid y gofrestr felly’n effeithio’n niweidiol ar deitl y perchennog. Mae hyn yn golygu na fydd y newidiad yn golygu cywiriad, ac felly ni fydd hawl gan y perchennog i indemniad pe bai’r teitl yn cael ei gau: Atodlen 8, paragraff (1)(a) ac 11(2)(b) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
2. Meddiant gwrthgefn: yr hanfodion
Mae meddiant gwrthgefn yn gofyn am feddiant ffeithiol o’r tir, gyda’r bwriad angenrheidiol i feddu a heb ganiatâd y perchennog.
Rhaid ichi ddangos:
- bod y sgwatiwr ac unrhyw ragflaenwyr y mae’n hawlio drwyddynt wedi bod mewn meddiant gwrthgefn am o leiaf 10 mlynedd (neu o leiaf 60 mlynedd ar gyfer blaen traeth y Goron) yn diweddu ar ddyddiad y cais (Atodlen 6, paragraff 1(1) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Ystyr ‘blaen traeth’ yma yw ‘glan a gwely’r môr ac unrhyw ddyfroedd llanw islaw llinell y penllanw canolig rhwng y llanw bach a’r llanw mawr’ (Atodlen 6, paragraff 13(3) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
- bod y sgwatiwr wedi cael ei ddadfeddiannu gan y perchennog cofrestredig, neu berson yn hawlio o dan y perchennog cofrestredig, ddim hirach na 6 mis cyn dyddiad y cais, nad oedd y dadfeddiannu’n unol â dyfarniad ar feddiant, ac ar y diwrnod cyn y dadfeddiannu, roeddynt hwy ac unrhyw ragflaenwyr y maent yn hawlio drwyddynt wedi bod mewn meddiant gwrthgefn o’r tir am gyfnod o 10 mlynedd yn gorffen ar y dyddiad hwnnw (Atodlen 6, paragraff 1(2) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Sylwer lle y mae meddiant gwrthgefn yn cael ei hawlio mewn perthynas â thir sy’n eiddo i:
-
gwmni tramor (sy’n cynnwys cwmni wedi ei gofrestru yn unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu yn Ynys Manaw) sydd wedi ei ddiddymu, neu
-
gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan y Deddfau Cwmnïau (mewn geiriau eraill, cwmni heblaw cwmni tramor) sydd wedi ei ddiddymu ac yna cafwyd ymwadiad gan y Goron neu’r Ddugaeth Frenhinol fel bod asiedu wedi digwydd, caiff unrhyw gais sy’n seiliedig ar feddiant gwrthgefn a wnaed o dan Atodlen 6 ei wrthod neu ei ganslo; bydd yr ystad gofrestredig y mae’r cais yn ymwneud â hi wedi terfynu.
Os yw’r perchennog cofrestredig yn gwmni tramor, rhaid i’r ceisydd neu ei drawsgludwr gadarnhau ei fod yn credu nad yw’r cwmni wedi cael ei ddiddymu a rhoi esboniad o’r sail y rhoddir y cadarnhad hwnnw. Gall y canllawiau ar Gofrestrfeydd tramor ar GOV.UK gynorthwyo os yw’r cwmni’n cael ei lywodraethu gan gyfraith un o’r gwledydd neu’r tiriogaethau y sonnir amdanynt yn y safle.
2.1 Meddiant ffeithiol
Yn achos Powell yn erbyn McFarlane (1977) 38 P & CR 452, dywedodd Slade J:
“Factual possession signifies an appropriate degree of physical control. It must be a single and [exclusive] possession, though there can be a single possession exercised on behalf of several persons jointly. Thus an owner of land and a person intruding on that land without his consent cannot both be in possession of the land at the same time. The question what acts constitute a sufficient degree of exclusive physical control must depend on the circumstances, in particular the nature of the land and the manner in which land of that nature is commonly used or enjoyed.… Everything must depend on the particular circumstances, but broadly, I think what must be shown as constituting factual possession is that the alleged possessor has been dealing with the land in question as an occupying owner might have been expected to deal with it and that no one else has done so”.
Cymeradwyodd Tŷ’r Arglwyddi y datganiad hwn o’r gyfraith yn achos J A Pye (Rhydychen) Cyf yn erbyn Graham [2002] UKHL 30).
Lle’r oedd y tir yn dir agored yn flaenorol, mae ffens yn dystiolaeth gref o feddiant ffeithiol, ond nid yw naill ai’n anhepgor nac yn derfynol.
2.2 Y bwriad i feddu
Yr hyn sydd ei angen yw “not an intention to own or even an intention to acquire ownership but an intention to possess’ (Cyngor Sir Swydd Buckingham yn erbyn Moran (1988) 86 LGR 472, trwy Hoffman J, a gymeradwyodd Tŷ’r Arglwyddi yn achos J A Pye (Rhydychen) Cyf yn erbyn Graham [2002] UKHL 30). Mae hyn yn golygu ‘the intention, in one’s own name and on one’s own behalf, to exclude the world at large, including the owner with the paper title if he be not himself the possessor, so far as reasonably practicable and so far as the processes of the law will allow” (Achos Powell yn erbyn McFarlane (1977) 38 P a CR 452, 471-472, trwy Slade J, a gymeradwyodd Tŷ’r Arglwyddi yn achos J A Pye (Rhydychen) Cyf yn erbyn Graham [2002] UKHL 30).
Lle bu modd i’r sgwatiwr allu sefydlu meddiant ffeithiol, bydd y bwriad i feddu yn cael ei gasglu’n aml o’r gweithredoedd sy’n ffurfio’r meddiant ffeithiol hwnnw. Ond ni fydd y casgliad hwn yn cael ei wneud bob amser, fel yr eglurodd Slade J yn Powell yn erbyn McFarlane ((1977) 38 P & CR 452, 476, cyfeiriwyd gyda chymeradwyaeth Yr Arglwydd Hutton yn achos J A Pye (Rhydychen) Cyf yn erbyn Graham [2002] UKHL 30):
“In my judgement it is consistent with principle as well as authority that a person who originally entered another’s land as a trespasser, but later seeks to show that he has dispossessed the owner, should be required to adduce compelling evidence that he had the requisite animus possidendi in any case where his use of the land was equivocal, in the sense that it did not necessarily, by itself, betoken an intention on his part to claim the land as his own and exclude the true owner.”
Mae defnyddio tir at ddibenion mynediad yn enghraifft o weithred amhendant. Gallai defnydd o’r fath dros amser beri hawddfraint trwy bresgripsiwn, ond nid yw, ar ei ben ei hun, yn ddigonol i sefydlu bwriad i feddu’r tir.
2.3 Meddiant heb ganiatâd y perchennog
Yn achos Cyngor Sir Swydd Buckingham yn erbyn Moran ([1990] Ch 623, 636), eglurodd Slade LJ:
“Possession is never ‘adverse’ within the meaning of the 1980 Act if it is enjoyed under a lawful title. If, therefore, a person occupies or uses land by licence of the owner with the paper title and his licence has not been duly determined, he cannot be treated as having been in ‘adverse possession’ as against the owner of the paper title.”
Sylwer nad yw’r gofyniad hwn nac unrhyw egwyddor arall o feddiant gwrthgefn yn atal y posibilrwydd o berchennog cofrestredig mewn meddiant gwrthgefn tir sy’n dod o fewn ei deitl cofrestredig ef ond hefyd o fewn teitl cofrestredig neu ddigofrestredig arall. Yn Rashid v Nasrulla [2018] EWCA Civ 2685, gwrthododd y Llys Apêl y dull cynharach yn Parshall v Hackney [2013] EWCA Civ 240, lle canfu Mummery LJ nad oedd perchnogion un eiddo mewn meddiant gwrthgefn “as their possession of the disputed land was referable to their registered title”.
3. Cyfyngiadau o ran gwneud cais am gofrestriad yn seiliedig ar feddiant gwrthgefn
Mae’r amgylchiadau canlynol yn atal cais am gofrestriad rhag cael ei wneud yn seiliedig ar feddiant gwrthgefn.
- mae’r perchennog cofrestredig yn analluog oherwydd anabledd meddyliol i wneud penderfyniadau ynghylch materion o’r fath y byddai cais am feddiant gwrthgefn yn arwain atynt, neu’n analluog i gyfathrebu penderfyniadau o’r fath oherwydd anabledd meddyliol neu nam corfforol (Atodlen 6, paragraff 8(2) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
- mae’r sgwatiwr yn ddiffynnydd mewn achos sy’n ymwneud â honni hawl i feddiant o’r tir, neu mae dyfarniad ar feddiant wedi ei roi yn eu herbyn yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf (Atodlen 6, paragraff 1(3) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
- daliwyd yr ystad mewn tir ar ymddiried ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 10 mlynedd yn diweddu ar ddyddiad y cais, oni bai bod budd pob buddiolwr yn yr ystad yn fudd mewn meddiant (Atodlen 6, paragraff 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Dim ond lleoliad cyffredinol terfynau a welir yng nghynlluniau teitl pob teitl cofrestredig, oni bai eu bod yn dangos eu bod wedi eu pennu’n union derfynau yn unol ag adran 60 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl i ardal o dir fod o fewn teitl cofrestredig, er ei bod syrthio y tu allan i’r amlinelliad coch ar y cynllun teitl. I’r gwrthwyneb, mae’n bosibl i ardal o dir beidio â chael ei chynnwys o fewn y teitl cofrestredig, er ei bod o fewn yr amlinelliad coch ar y cynllun teitl. Mewn geiriau eraill, nid yw’n bosibl i Gofrestrfa Tir EF ddiffinio union leoliad y terfyn o dan sylw.
Os gwelir bod gan y sgwatiwr deitl dogfennol i’r tir wedi’r cwbl, a’r hyn sy’n ofynnol yw newidiad i gynllun teitl y sgwatiwr a/neu gynllun teitl cymydog y sgwatiwr i ddangos y terfynau cyffredinol yn fwy cywir, nid yw cais yn seiliedig ar feddiant gwrthgefn yn briodol. O dan yr amgylchiadau hyn, dylai’r sgwatiwr ystyried cais i newid naill ai:
- ei gynllun teitl
- ei gynllun teitl ef a chynllun teitl y cymydog, neu
- gynllun teitl y cymydog
i ddangos y terfynau’n fwy cywir.
Byddai’n rhaid gwneud cais o’r fath yn ffurflen AP1 gan nodi’r teitl(au) i’w newid. Byddai’n rhaid i’r ceisydd ddangos yn glir natur y newid i’w newid a sail ei hawliad. Byddai ffi’n daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol. Efallai byddai modd ystyried y drefn terfynau a bennwyd hefyd.
4. Gwneud cais i gofrestru ar sail meddiant gwrthgefn
Rhaid ichi wneud y cais ar ffurflen ADV1 a rhaid iddo gynnwys datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd sy’n cwrdd â’r gofynion canlynol (Rheolau Cofrestru Tir 2003, rheol 188(1)(a) a (2))
- rhaid iddo gael ei wneud gan y ceisydd heb fod dros fis cyn dyddiad y cais
- rhaid iddo ddarparu tystiolaeth (ynghyd ag unrhyw ddatganiadau statudol neu ddatganiadau o wirionedd ategol) o feddiant gwrthgefn am o leiaf 10 mlynedd (neu 60 mlynedd o ran blaen traeth y Goron)
- os yw’r cais yn ymwneud â rhan yn unig o’r tir mewn teitl cofrestredig, rhaid iddo ddangos cynllun sy’n galluogi i stent y tir gael ei adnabod ar fap yr Arolwg Ordnans, oni bai y cyfeirir at y rhan trwy gyfeirio at y cynllun teitl a bod hyn yn ei alluogi i gael ei adnabod. Rhaid i’r ceisydd lofnodi’r cynllun (rheol 213 o Reolau Cofrestru Tir 2003)
- os yw’r sgwatiwr yn gwneud cais o dan baragraff 1(2) Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (lle cafodd ei ddadfeddiannu yn ystod y 6 mis blaenorol, ond nid oedd y dadfeddiannu hwn yn unol â dyfarniad ar feddiant) rhaid iddo gynnwys y ffeithiau y dibynnir arnynt gydag unrhyw arddangosion priodol
- rhaid iddo gynnwys cadarnhad nad yw paragraff 1(3) Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gymwys (dim achos meddiant cyfredol na dyfarniad ar feddiant cyfredol wedi eu rhoi yn erbyn y sgwatiwr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf)
- rhaid iddo gynnwys cadarnhad gan y sgwatiwr, hyd y gŵyr, nad yw’r cyfyngiadau ar geisiadau ym mharagraff 8 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gymwys (nad yw’r perchennog yn elyn neu wedi ei ddal mewn tiriogaeth gelyn neu’n dioddef anabledd meddyliol neu nam corfforol)
-
rhaid iddo gynnwys cadarnhad gan y sgwatiwr, hyd y gŵyr, nad yw’r ystad ac na fu, yn ystod cyfnod y meddiant gwrthgefn, yn ddarostyngedig i ymddiried (heblaw un lle mae budd pob buddiolwr yn fudd mewn meddiant
- sylwer: os ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod meddiant gwrthgefn roedd y perchennog cofrestredig ar y pryd (i) yn farw ac roedd ei ystad yn cael ei gweinyddu, (ii) yn fethdalwr ac roedd ei eiddo’n cael ei weinyddu gan yr ymddiriedolwr mewn methdaliad neu (iii) (sef cwmni) yn cael ei ddirwyn i ben, rhaid i’r ceisydd gadarnhau (nid o angenrheidrwydd yn y datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol, ond yn ysgrifenedig) ei fod am barhau â’r cais er gwaethaf y ffaith y ceir barn, a eglurwyd yn yr adran flaenorol, bod ymddiried yn codi o dan yr amgylchiadau hyn sy’n atal cais rhag cael ei wneud
- bydd y cadarnhad hwn yn amlwg i unrhyw un sy’n cael rhybudd am y cais ac mae’n bosibl y byddant yn gwrthwynebu’r cais ar y sail hon (gweler Rhybuddion)
Yn holl bwysig, rhaid i’r sgwatiwr benderfynu beth fydd yn ei wneud os yw’r perchennog cofrestredig, neu rywun arall a gafodd rybudd am y cais, yn cyflwyno gwrthrybudd yn gofyn i’r cofrestrydd ddelio â’r cais o dan baragraff 5 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Os yw’r sgwatiwr am ddibynnu ar un neu ragor o’r 3 amod yn y paragraff hwnnw, rhaid ichi sicrhau y nodir hyn yn ffurflen ADV1 a bod y datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol yn cynnwys y ffeithiau sy’n galluogi’r sgwatiwr i ddibynnu ar yr amod neu amodau (rheol 188(2)(g) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Os yw’r ffurflen ADV1 yn cynnwys gwall clerigol amlwg, er enghraifft absenoldeb tic ym mhanel 11 lle y mae’r datganiad cefnogol yn datgelu’n glir bwriad i ddibynnu ar amod o dan Atodlen 6 paragraff 5, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â’r ceisydd i gadarnhau’r sefyllfa. Mae hyn oherwydd y farn a fynegwyd yn achos Hopkins v Beacon [2011] EWHC 2899 (Ch).
Dylech hefyd anfon unrhyw dystiolaeth ychwanegol a fyddai’n angenrheidiol i gefnogi’r hawliad (rheol 1881(1)(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.
Dylech hefyd anfon unrhyw dystiolaeth ychwanegol a fyddai’n angenrheidiol i gefnogi’r hawliad (Rheolau Cofrestru Tir 2003, rheol 188(1)(b)).
Dylech amgáu canlyniad chwiliad cwmni os yw perchennog cofrestredig y teitl yr effeithir arno’n gwmni. Sylwer ar y pwynt a wnaed ynghylch asiedu yn Meddiant gwrthgefn: yr hanfodion.
Rhaid ichi restru’r holl ddogfennau sydd gyda’r cais ar ffurflen ADV1 a thalu’r ffi briodol o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol. Os nad ydych yn llenwi’r ffurflen yn gywir, mae’n bosibl y caiff ffurflen ADV1 ei dychwelyd atoch.
Sylwer y diwygiwyd ffurflen ADV1 ar 1 Awst 2022 gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2022 i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth ychwanegol gael ei darparu pan wneir cais i gofrestru endid tramor yn berchennog ystad rydd-ddaliol mewn tir neu ystad brydlesol mewn tir a roddir ar gyfer tymor sy’n hirach na saith mlynedd o ddyddiad y rhoi. Mae’r wybodaeth hon yn ofynnol gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 a ddaeth i rym ar 1 Awst 2022. Gellir defnyddio fersiwn cyn-cychwyn ffurflen ADV1 hyd at 31 Hydref 2023 ond rhaid iddi gynnwys rhif adnabod endid tramor y ceisydd. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor.
Os mai endid tramor yw’r ceisydd, rhaid darparu rhif adnabod yr endid tramor a ddyroddir gan Dŷ’r Cwmnïau. Ni allwch wneud eich cais oni bai bod yr endid tramor wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau.
Os defnyddir datganiad o wirionedd, gellir ei defnyddio yn ffurflen ST1. Cynlluniwyd ffurflen ST1 i ddarparu fframwaith ar gyfer y wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys gyda chais ADV1 yn ymwneud â thir (Y ffurflen gyfatebol ar gyfer ceisiadau rhent-dâl yw ffurflen ST2). Nid oes rhaid ei defnyddio: bydd unrhyw ddatganiad o wirionedd sy’n cwrdd â gofynion rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003 (gweler Atodiad – datganiad o wirionedd yn dderbyniol, yn yr un modd ag y bydd datganiad statudol. Fodd bynnag, dylai defnyddio ffurflen ST1 eich helpu i sicrhau nad anghofiwyd unrhyw beth. Os nad ydych yn defnyddio ffurflen ST1, rhaid ichi ddarparu’r holl wybodaeth y gofynnir amdani yn y ffurflen honno – megis y dyddiad y cychwynnodd ac y gorffennodd y meddiant gwrthgefn, a’r gweithredoedd y dibynnir arnynt wrth sefydlu’r meddiant ffeithiol angenrheidiol a’r bwriad i feddiannu, ac ati.
Dylai’r datganiadau statudol fod yn ffeithiol ac, yn ddelfrydol, yng ngeiriau’r datganwr ei hun yn hytrach nag mewn iaith a gopïwyd o lyfrau cynsail. Dylai’r datganwyr ddatgan yn benodol sut maent yn gwybod y ffeithiau, os nad yw hynny’n ddealledig yn y datganiadau. Fel arfer bydd llai o bwysau ar wybodaeth trydydd partïon sydd wedi gweld y sefyllfa ar y tir ond all fod heb unrhyw wybodaeth am fwriad y sgwatiwr na’i drafodion gyda’r perchennog nag ar ddatganiad y sgwatiwr ei hun. Fodd bynnag, gall datganiadau statudol neu ddatganiadau o wirionedd cymdogion a thrydydd partïon eraill, a anfonwyd gyda datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd y sgwatiwr, fod yn ddefnyddiol fel tystiolaeth gyfnerthol.
Ni allwn fyth ddweud beth fydd canlyniad cais cyn ei wneud. Nid oes modd gwneud y penderfyniad nes bydd yr holl dystiolaeth wedi cael ei dangos gan y ceisydd, ein bod wedi derbyn ymatebion i ymholiadau a bod y cyfnod yn ymwneud â’r rhybuddion a gyflwynwyd wedi dod i ben. Oherwydd hyn, ac i osgoi rhoi geiriau yng ngheg datganwr, peidiwch ag anfon datganiadau statudol neu ddatganiadau o wirionedd drafft i ni eu cymeradwyo.
Rydym yn cael ceisiadau weithiau mewn perthynas â thir sy’n briffordd. Ni fydd y cais yn cael ei dderbyn i’r graddau y mae’n cynnwys tir sy’n briffordd a gynhelir ar draul y cyhoedd. Yr awdurdod ar gyfer hyn yw R (Smith) v Land Registry [2010] EWCA Civ 200.
Os mai dim ond rhan o’r tir yn y cais sy’n briffordd a gynhelir ar draul y cyhoedd, gall y cais yn symud yn ei flaen ar gyfer y tir nad yw’n briffordd yn unig. Ni fydd y tir priffordd yn cael ei gynnwys mewn unrhyw deitl sy’n cael ei greu yn unol â’r cais.
Mae’n eithaf anghyffredin i dir priffyrdd beidio â bod yn gynaliadwy ar draul y cyhoedd. Lle y mae hyn yn wir, fodd bynnag, gallwn dderbyn cais dim ond lle nad yw’r ffeithiau y dibynnir arnynt yn dangos y bu rhwystr i’r briffordd a allai fod yn torri’r gyfraith droseddol, oherwydd mewn achosion o’r fath, ni ellir caffael meddiant gwrthgefn: R (Smith) v Land Registry [2009] EWHC 328 ac R (Best) v Land Registrar [2015] EWCA Civ 17.
Yn olaf, mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi Guidance note on adverse possession of common land and town or village greens sydd ar gael o’i gwefan: www.defra.gov.uk. Nid yw Cofrestrfa Tir EF o angenrheidrwydd yn rhannu pob barn o ran y gyfraith a fynegir yn y nodyn cyfarwyddyd).
5. Ymateb a chofrestru Cofrestrfa Tir EF
5.1 Archwiliad
Yn aml nid yw datganiadau mewn datganiadau o wirionedd neu ddatganiadau statudol, er nad yn anwir, yn rhoi darlun cyflawn. Er enghraifft, gall y person sy’n gwneud y datganiad fod wedi anghofio crybwyll clwyd mewn nodwedd sy’n ymddangos, o fap yr Arolwg Ordnans, fel petai’n rhwystro mynediad o dir cyffiniol. Fel arfer, felly, byddwn yn trefnu i arolygwr tir o’r Arolwg Ordnans archwilio’r tir a bydd angen i ni weld ei adroddiad cyn y gallwn ystyried y cais ymhellach.
Byddwch chi, y sgwatiwr a’r perchennog cofrestredig yn cael clywed am yr archwiliad cyn iddo ddigwydd.
5.2 Cyfraith achosion
Rydym yn archwilio pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun. Rydym yn ystyried cyfraith achosion sy’n ymwneud â meddiant gwrthgefn, ond mae angen ichi gofio y bydd y llys wedi clywed tystiolaeth a dadleuon o’r ddwy ochr ac y byddwn ni fel arfer dim ond wedi clywed fersiwn y sgwatiwr o’r digwyddiadau. Ac, er y gall y ffeithiau mewn unrhyw gais fod yn debyg ar yr wyneb i’r rhai mewn achos a adroddwyd, maent yn annhebygol o fod yn union yr un fath.
5.3 Rhybuddion
Os ydym yn credu o’r dystiolaeth a welwyd ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod gan y sgwatiwr yr hawl i wneud cais i gael ei gofrestru, byddwn yn cyflwyno rhybudd o’r cais o dan baragraff 2 Atodlen 6 i’r canlynol:
- perchennog cofrestredig yr ystad o dan sylw
- perchennog cofrestredig unrhyw arwystl cofrestredig ar yr ystad honno
- lle bo’r perchennog cofrestredig yn gwmni wedi ei diddymu (neu fod posibilrwydd o hynny) Cyfreithiwr y Trysorlys neu’r Ddugaeth berthnasol (rheol 188A o Reolau Cofrestru Tir 2003)
- lle bo’r ystad yn brydlesol, perchennog cofrestredig unrhyw ystad gofrestredig uwch ac
- unrhyw berson a gofrestrwyd fel person i’w hysbysu o dan baragraff 2 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002
Gall person sy’n derbyn rhybudd o’r fath wneud y canlynol:
- cydsynio â’r cais
- gwrthwynebu’r cais (adran 73(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
- rhoi gwrthrybudd i’r cofrestrydd ar ffurflen NAP sy’n gofyn iddo ddelio â’r cais o dan baragraff 5 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (Atodlen 6, paragraff 3(1) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
neu
- gall wrthwynebu’r cais a rhoi gwrthrybudd
Bydd y rhybudd yn caniatáu 65 diwrnod gwaith ar gyfer ateb a byddwn yn amgáu copi o ffurflen NAP ar gyfer y derbynnydd (rheolau 189 a 190 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid defnyddio ffurflen NAP ar gyfer gwrthrybudd (os yw’r derbynnydd hefyd am wrthwynebu ai peidio). Gall gael ei defnyddio, ond nid oes yn rhaid, i gydsynio neu wrthwynebu (er rhaid i unrhyw wrthwynebiad fod yn ysgrifenedig) (rheol 19 o Reolau Cofrestru Tir 2002).
Gall y cofrestrydd hefyd gyflwyno rhybudd i unrhyw berson arall a ystyria’n briodol (rheol 17 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Felly, byddwn fel arfer yn cyflwyno rhybudd i olynwyr yn y teitl i’r perchennog cofrestredig, hysbys neu dybiedig o wybodaeth arall sydd ar gael neu ein gwybodaeth leol i fod wedi dod â hawl i’r ystad o dan sylw, er enghraifft, ymddiriedolwr mewn methdaliad neu awdurdod lleol olynol. Bydd y rhybudd hwn yn caniatáu 15 diwrnod gwaith ar gyfer ateb am nad yw’n rhybudd y mae’n ofynnol i’r cofrestrydd ei roi o dan baragraff 2 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Dim ond 2 ddewis fydd gan rywun sy’n derbyn y rhybudd: naill ai cydsynio neu wrthwynebu’r cais. Ni allant gyflwyno gwrthrybudd ar ffurflen NAP ac felly ni fyddwn yn amgáu ffurflen NAP gyda’r rhybudd hwn.
5.4 Cofrestru
Os na fyddwn yn derbyn gwrthrybudd oddi wrth unrhyw un o’r bobl y cyflwynwyd rhybudd iddynt o dan baragraff 2 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, nac unrhyw wrthwynebiad, byddwn yn cofrestru’r sgwatiwr yn berchennog unwaith y daw’r terfyn amser i ben (rheol 17 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os yw cais y sgwatiwr yn berthnasol i deitl cofrestredig cyfan sy’n bodoli, byddwn yn ei gofrestru’n berchennog y teitl hwnnw. Os yw ei gais yn berthnasol i ran o deitl cofrestredig sy’n bodoli, byddwn yn dileu’r rhan honno o’r teitl sy’n bodoli ac yn ei gofrestru’n berchennog y rhan honno o dan rif teitl newydd.
Fel egwyddor gyffredinol, nid yw cofrestru sgwatiwr yn effeithio ar flaenoriaeth unrhyw fudd sy’n effeithio ar yr ystad (Atodlen 6, paragraff 9(2) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.) Felly, pan fydd sgwatiwr wedi ei gofrestru’n berchennog y cyfan neu ran o deitl cofrestredig sy’n bodoli, bydd yn ddarostyngedig i’r un ystadau, hawliau a buddion oedd yn rhwymo’r perchennog blaenorol. Mae hyn yn golygu y bydd cofnodion darostyngedig sy’n bodoli’n cael eu cario ymlaen i deitl newydd y sgwatiwr. Mae’r egwyddor gyffredinol hon yn amodol ar yr hyn a ddywedir gennym yn Arwystlon.
5.5 Arwystlon
Y rheol gyffredinol yw bod gan sgwatiwr hawl awtomatig i gael ei gofrestru yn rhydd o unrhyw arwystlon cofrestredig (ond nid arwystlon sy’n cael eu gwarchod gan rybudd yn y gofrestr) sy’n effeithio ar y teitl yn union cyn ei gofrestru (Atodlen 6, paragraff 9(3) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Ceir eithriad i’r rheol gyffredinol hon, sef pan fydd unrhyw berson sy’n derbyn rhybudd wedi rhoi gwrthrybudd bod cofrestriad y sgwatiwr yn berchennog yn dilyn cais a benderfynwyd trwy weld a oedd unrhyw un o’r amodau ym mharagraff 5 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yn gymwys (Atodlen 6, paragraff 9(3) a 4) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, .
Lle bo’r eithriad mewn grym ac mae’r arwystl yn effeithio ar eiddo ychwanegol, bydd y sgwatiwr yn gallu gofyn i’r arwystlai ddosrannu’r swm a sicrhawyd gan yr arwystl rhwng y tir yn nheitl cofrestredig newydd y sgwatiwr a gweddill yr eiddo yn ddarostyngedig i’r arwystl (Atodlen 6, paragraff 10 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Bydd y dosraniad ar sail
- swm y ddyled a sicrhawyd gan yr arwystl ar yr adeg y mae’r sgwatiwr yn gwneud cais am ddosraniad
- gwerthoedd unigol y tir a gafodd ei feddiannu’n wrthgefn a gweddill yr eiddo sy’n ddarostyngedig i’r arwystl
Rhaid i’r arwystlai ryddhau ystad y sgwatiwr wrth dderbyn tâl am y swm a ddosrannwyd i’r ystad honno a’r costau. Caiff atebolrwydd yr arwystlwr i’r arwystlai ei leihau’n unol â hynny. Mae rheolau 194AA-194G o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gosod yn fanwl y drefn yn ymwneud â dosraniad. Dim ond ar ôl i’r sgwatiwr gael ei gofrestru’n llwyddiannus y gellir cychwyn y trefniadau. Nid oes rhan gan Gofrestrfa Tir EF ynddynt. Rhaid i’r sgwatiwr gyflwyno rhybudd i’r arwystlai yn gofyn i’r arwystl gael ei ddosrannu. Mae disgwyl i’r sgwatiwr ddarparu prisiannau o’r tir yn cynnwys y teitl cofrestredig newydd a’r eiddo arall yn ddarostyngedig i’r arwystl.
Fodd bynnag, gallai’r eithriad fod yn gymwys. Mae Law Com 271 yn awgrymu os oedd hawl y sgwatiwr i gael ei gofrestru’n rhagflaeni’r arwystl cofrestredig a bod y sgwatiwr mewn union feddiannaeth o’r tir ar yr adeg y crëwyd yr arwystl, gallai’r hawl honno i gael ei gofrestru fod yn fudd gor-redol (Atodlen 3, paragraff 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac felly gymryd blaenoriaeth dros yr arwystl (Law Com 271, paragraff 14.64 a 14.76), gyda’r canlyniad bod yr ystad yn cael ei breinio yn y sgwatiwr yn rhydd o’r arwystl.
Lle nad yw’r arwystl yn arwystl cofrestredig (enghraifft gyffredin fyddai gorchymyn talu), yna mae’r egwyddor gyffredinol uchod yn Cofrestru yn berthnasol. Ond os yw hawl y sgwatiwr i’w gofrestru yn fudd perchnogol, fel mae Adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn awgrymu y gall fod (Law Com 271, paragraff 14.64 a 14.76), a bod yr hawl yn dod cyn yr arwystl, yna byddai’r ‘rheol sylfaenol’ ar flaenoriaeth (adran 28 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) yn caniatáu i’r sgwatiwr, ar adeg cofrestru, fod yn rhydd o’r arwystl hwnnw. Os, fodd bynnag, y mae’r sgwatiwr yn ddarostyngedig i’r arwystl, a’i fod yn effeithio ar eiddo arall hefyd, mae’n bosibl y bydd angen dosraniad ar y sgwatiwr (Mae Atodlen 6, paragraff 10 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, a rheolau 194A-194G o Reolau Cofrestru Tir 2003, yn briodol hefyd i arwystlon nad ydynt yn arwystlon cofrestredig).
6. Gwrthwynebu cais y sgwatiwr
Rhaid i unrhyw un sydd am wrthwynebu cais y sgwatiwr gyflwyno datganiad ysgrifenedig i’r cofrestrydd wedi ei lofnodi ganddo neu ei drawsgludwr. Rhaid iddo ddatgan bod y gwrthwynebydd yn gwrthwynebu’r cais, datgan sail y gwrthwynebiad a rhoi enw llawn y gwrthwynebydd a’i gyfeiriad ar gyfer gohebu (rheol 198 o Ddeddf Cofrestru Tir 2003). Rhaid i hyn fod yn gyfeiriad post, yn y Deyrnas Unedig ai peidio. Gellir rhoi cyfeiriadau post, ebost neu DX pellach hefyd, ond ni ellir cael mwy na 3 chyfeiriad ar gyfer gohebu i gyd (Deddf Cofrestru Tir 2003, rheol 198). Gellir defnyddio ffurflen NAP i’r diben hwn. Gallai’r gwrthwynebiad fod ar y sail nad oes hawl gan y sgwatiwr i wneud cais o dan Atodlen 6 oherwydd, er enghraifft, na fu meddiant gwrthgefn (hy meddiant ffeithiol, gyda’r bwriad gofynnol a heb gydsyniad y perchennog) neu na fu’r meddiant am y cyfnod o amser angenrheidiol (10 mlynedd fel rheol) (gweler Meddiant gwrthgefn: yr hanfodion. Weithiau, bydd y perchennog cofrestredig (neu rywun arall a dderbyniodd rybudd) am i’r 2 wrthwynebu, er enghraifft, ar y sail na fu meddiant gwrthgefn am 10 mlynedd ac i sicrhau, pe baent yn colli’r ddadl honno, y gallent fanteisio ar baragraff 5 Atodlen 6, fel bod cais y sgwatiwr yn cael ei wrthod oni bai bod un o’r 3 amod yn y paragraff hwnnw yn cael ei gwrdd. Mewn achos o’r fath, rhaid i’r gwrthwynebydd ddychwelyd ffurflen NAP gyda thic yn y 2 flwch. Rhaid i’r 2 wrthwynebu a gofyn i’r cais cael ei drin o dan baragraff 5 (gweler Rhoi gwrthrybudd i’r cofrestrydd o ganlyniad i rybudd. Rhaid iddynt roi’r sail am eu gwrthwynebiad. Nid oes rhaid iddynt ddweud ar yr adeg honno pam eu bod yn credu nad oes un o’r 3 amod yn gymwys, ond byddai’n hwylus gwneud hynny fel arfer os yw cais y sgwatiwr yn nodi bwriad i ddibynnu ar un ohonynt.
Os yw rhywun sy’n derbyn rhybudd gan y cofrestrydd (o dan reol 198 o Ddeddf Cofrestru Tir 2003) yn gwrthwynebu cais ond nid yw’n nodi ar ffurflen NAP eu bod am i’r cais gael ei drin o dan baragraff 5, bydd yn colli’r cyfle i ofyn i’r cais gael ei drin o dan baragraff 5 wedi i’r cyfnod rhybudd o 65 diwrnod gwaith ddod i ben. Yn y sefyllfa honno, daw’n amherthnasol os gall y sgwatiwr brofi un o’r 3 amod ai peidio. Caiff y sgwatiwr yr hawl i’w gofrestru’n berchennog oni bai bod y gwrthwynebiad yn llwyddiannus (Atodlen 6, paragraff 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Os derbynnir gwrthwynebiad, naill un ai mewn ymateb i rybudd y cofrestrydd neu fel arall, nid oes modd penderfynu’r cais hyd nes bydd y gwrthwynebiad wedi ei waredu, oni bai bod y cofrestrydd yn fodlon bod y gwrthwynebiad yn ddi-sail (adran 73(5) a (6) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Os yw’r cofrestrydd yn penderfynu nad yw’r gwrthwynebiad yn ddi-sail, rhaid cyflwyno rhybudd o’r gwrthwynebiad i’r sgwatiwr neu ei drawsgludwr (adran 73(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, ). Yna bydd y cofrestrydd yn gofyn i’r ddwy ochr a ydynt am gyd-drafod ac a ydynt yn credu bod modd dod i gytundeb. Os yw pob parti’n ateb yn gadarnhaol, bydd y cofrestrydd yn caniatáu amser iddynt gytuno ar y mater. Fodd bynnag, cyn gynted ag y daw’n amlwg nad yw’r ddwy ochr yn gallu dod i gytundeb, rhaid i’r cofrestrydd gyfeirio’r mater at y tribiwnlys (adran 73(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Gwneir hyn ar unwaith os nad yw’r partïon am gyd-drafod.
Yna bydd y tribiwnlys naill ai’n pennu dyddiad ar gyfer gwrando a phenderfynu’r mater, neu’n gorchymyn un o’r partïon i ddechrau achos yn y llys. Bydd yn rhoi rhagor o fanylion o’r drefn i’w dilyn a’r sefyllfa o ran costau bryd hynny.
Yna bydd y tribiwnlys naill ai’n pennu dyddiad ar gyfer gwrando a phenderfynu’r mater, neu’n gorchymyn un o’r partïon i ddechrau achos yn y llys. Bydd yn rhoi rhagor o fanylion o’r drefn i’w dilyn a’r sefyllfa o ran costau bryd hynny.
7. Rhoi gwrthrybudd i’r cofrestrydd mewn ymateb i rybudd
Gall person sy’n derbyn rhybudd 65 diwrnod a anfonir o dan baragraff 2 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ddewis rhoi gwrthrybudd i’r cofrestrydd, yn gofyn i’r cais gael ei drin o dan baragraff 5 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Rhaid i’r gwrthrybudd fod ar ffurflen NAP (anfonir copi o’r ffurflen gyda’r rhybudd). Rhaid ei llenwi a’i dychwelyd at y cofrestrydd, trwy’r cyferiad post neu ebost a roddwyd yn y rhybudd, o fewn 65 diwrnod gwaith (rheolau 189 a 190 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Er bod yn rhaid defnyddio ffurflen NAP i roi gwrthrybudd, nid yw’n angenrheidiol defnyddio’r copi arbennig a anfonwyd gennym ni. Dychmygwch, er enghraifft, ein bod yn rhoi gwybod i berchennog cofrestredig am gais gan sgwatiwr a’i fod yn ymateb trwy gyflwyno gwrthwynebiad gan ddefnyddio’r copi o’r ffurflen NAP a amgaewyd gyda’r rhybudd. Mae wedyn yn penderfynu, cyn i’r cyfnod 65 diwrnod gwaith ddod i ben, ei fod hefyd am roi gwrthrybudd. Dylai wneud hyn gan ddefnyddio copi arall o ffurflen NAP (y gellir ei gael oddi wrthym ni os yw’n dymuno).
Er mwyn sicrhau y rhoddir y gwrthrybudd yn gywir, dylech rhoi tic yn y blwch priodol ym mhanel 6 ar ffurflen NAP. Os na chaiff y blwch ei dicio, bydd Cofrestrfa Tir EF yn adolygu cynnwys y ffurflen i ateb y prawf a nodir yn Hopkins v Beacon [2011] EWHC 2899 (Ch), gan y byddai cofrestrydd rhesymol yn cael ei adael heb unrhyw amheuaeth resymol bod gwrthrybudd yn cael ei ddarparu. Os yw’n ymddangos bod y gwrthwynebydd yn bwriadu cyflwyno gwrthrybudd, gallwn gysylltu â’r gwrthwynebydd i’w wahodd i gyflwyno ffurflen NAP ddiwygiedig os oes digon o amser i wneud hynny cyn i’r cyfnod rhybudd ddod i ben.
Os nad yw’r sgwatiwr wedi datgan yn ei ffurflen ADV1 ei fod yn dibynnu ar un o’r 3 amod ym mharagraff 5, caiff ei gais ei wrthod pan fyddwn yn derbyn y gwrthrybudd.
Os yw’r sgwatiwr yn dibynnu ar un o’r 3 amod ac mae’r gwrthrybudd yn cael ei roi, byddwn bryd hynny (ac nid cynt) yn ystyried a yw’r datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd yn gosod unrhyw ffeithiau i gefnogi dibyniaeth ar yr amod ac yn dangos achos credadwy dros ddibynnu ar yr amod neu beidio. Os ydym yn penderfynu nad yw wedi dangos achos credadwy, efallai y caiff y cais ei wrthod. Os ydym yn fodlon y dangoswyd achos credadwy, byddwn yn cysylltu â’r bobl a roddodd y gwrthrybudd. Os byddant yn anghytuno bod yr amod wedi cael ei ateb, gallant wrthwynebu’r cais ar y sail hon (os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny). Oni bai bod y gwrthwynebiad yn ddi-sail neu wedi ei benderfynu trwy gytundeb, bydd y cofrestrydd yn cyfeirio’r mater at y tribiwnlys i’w benderfynu fel y disgrifiwyd uchod yn Gwrthwynebu cais y sgwatiwr. Os na fydd y bobl a roddodd y gwrthrybudd yn gwrthwynebu, caiff y sgwatiwr ei gofrestru’n berchennog.
8. Y 3 amod ym mharagraff 5 Atodlen 6
Hyd yn oed os yw’r cofrestrydd yn derbyn gwrthrybudd yn dweud bod derbynnydd y rhybudd am i’r cais gael ei drin o dan baragraff 5 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, mae hawl gan y sgwatiwr i gael ei gofrestru o hyd, o ateb unrhyw un o’r 3 amod canlynol (Atodlen 6, paragraff 5 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002):
8.1 Yr amod cyntaf
Yr amod cyntaf yw y byddai’n afresymol oherwydd ecwiti trwy estopel i’r perchennog cofrestredig geisio difeddu’r sgwatiwr a bod yr amgylchiadau yn dweud y dylid cofrestru’r sgwatiwr yn berchennog.
Bwriad yr amod hwn yw ymgorffori egwyddorion ecwitïol estopel perchnogol fel y datblygodd y rhain. Bydd y sgwatiwr yn gorfod profi bod ecwiti wedi codi o’i blaid. I’r diben hwn, bydd yn rhaid iddo ddangos:
- bod y perchennog cofrestredig mewn rhyw fodd wedi annog neu ganiatáu i’r sgwatiwr gredu ei fod yn berchen ar y tir o dan sylw
- gan gredu fel hyn, bod y sgwatiwr wedi gweithredu i’w afles hyd y gŵyr y perchennog, ac
- y byddai’n afresymol i’r perchennog wrthod i’r sgwatiwr yr hawliau y credai oedd ganddo (Law Com 271, paragraff 14.40)
Enghreifftiau lle gallai’r amod hwn fod yn berthnasol yw:
- lle y mae’r sgwatiwr wedi adeiladu ar dir y perchennog cofrestredig yn y gred gyfeiliornus mai ef oedd ei berchennog a’r perchennog o fwriad wedi cydsynio â’i gamgymeriad, a
- lle y mae cymdogion wedi mynd i gytundeb gwerthu anffurfiol am gydnabyddiaeth â gwerth trwy’r hon y bydd un yn cytuno i werthu’r tir i’r llall
- mae’r ‘prynwr’ yn talu’r pris, yn cymryd meddiant o’r tir ac yn ei drin fel ei dir ei hun
- ni chymerir unrhyw gamau i gwblhau ei deitl ac nid oes unrhyw gontract ymrwymol (Law Com 271, paragraff 14.42)
8.2 Yr ail amod
Yr ail amod yw bod gan y sgwatiwr hawl i’w gofrestru’n berchennog am ryw reswm arall.
Enghreifftiau lle gallai’r amod hwn fod yn berthnasol yw:
- lle y mae gan y sgwatiwr hawl i’r tir yn ôl ewyllys neu ddiffyg ewyllys y perchennog ymadawedig, a
- lle y mae sgwatiwr wedi cytuno i brynu’r tir ac wedi talu’r pris prynu, ond na throsglwyddwyd yr ystad gyfreithiol iddo erioed (Law Com 271, paragraff 14.43)
8.3 Y trydydd amod
Y trydydd amod yw bod y sgwatiwr wedi bod mewn meddiant gwrthgefn o dir cyfagos â’i dir ei hun am o leiaf 10 mlynedd, gan gredu’n gyfeiliornus ond yn rhesymol mai ef yw ei berchennog, na phenderfynwyd union linell y terfyn gyda’r tir cyfagos hwn o dan adran 60 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac y cofrestrwyd yr ystad berthynol i’r cais dros flwyddyn cyn dyddiad y cais.
Enghraifft lle y gallai’r amod hwn fod yn gymwys yw lle adeiladwyd muriau neu ffensys gwahanu ar ystad yn y lle anghywir (Law Com 271, paragraff 14.46)
9. Cais pellach gan y sgwatiwr i gofrestru
Os cafodd cais y sgwatiwr ei wrthod oherwydd gwrthrybudd yn cael ei roi a dim o’r 3 amod ym mharagraff 5 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cael eu hateb, bydd yn gallu gwneud cais eto i gael ei gofrestru’n berchennog, ar yr amod ei fod yn parhau mewn meddiant gwrthgefn am ddwy flynedd bellach o ddyddiad gwrthod y cais blaenorol (Atodlen 6, paragraff 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Y tro hwn bydd gan y sgwatiwr hawl i gael ei gofrestru’n berchennog heblaw:
- lle y mae’r sgwatiwr yn ddiffynnydd mewn achos i gael meddiant
- lle cafwyd dyfarniad ar feddiant yn erbyn y sgwatiwr yn y ddwy flynedd diwethaf, neu
- lle y mae’r sgwatiwr wedi cael ei ddadfeddiannu yn unol â dyfarniad ar feddiant (Atodlen 6, paragraffau 6 a 7 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
Mae hyn yn golygu bod gan y perchennog cofrestredig, yr arwystlai cofrestredig ac unrhyw bobl eraill a hysbyswyd o wrthod y cais o leiaf ddwy flynedd i gymryd camau naill ai i ddadfeddiannu’r sgwatiwr (neu o leiaf i ddechrau achos i wneud hynny) neu i gyfreithloni ei feddiannaeth trwy, er enghraifft, gyd-drafod trwydded o dan yr hon y gall y sgwatiwr aros fel trwyddedai.
9.1 Gwneud y cais
Rhaid ichi wneud y cais ar ffurflen ADV1 ac amgáu datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, sy’n:
- cael ei wneud gan y sgwatiwr, ddim hirach na mis cyn dyddiad y cais
- darparu tystiolaeth (ynghyd ag unrhyw ddatganiadau o wirionedd neu ddatganiadau statudol ategol) o feddiant gwrthgefn am gyfnod dim llai na dwy flynedd o ddyddiad gwrthod y cais gwreiddiol i ddyddiad y cais presennol
- os yw’r cais yn berthnasol i ran yn unig o’r tir mewn teitl cofrestredig, dangos cynllun sy’n galluogi dynodi hyd a lled y tir ar fap yr Arolwg Ordnans, oni bai bod y cais a wrthodwyd yn flaenorol yn ymwneud â’r rhan honno’n unig, neu y cyfeirir at y rhan honno trwy gyfeirio at y cynllun teitl a bod hyn yn ei alluogi i gael ei adnabod
- cynnwys manylion llawn y cais blaenorol a wrthodwyd
- cynnwys cadarnhad gan y sgwatiwr hyd y gŵyr nad yw’r cyfyngiad ar geisiadau ym mharagraff 8 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol (nad yw’r perchennog yn elyn nac wedi ei gadw mewn tiriogaeth gelyn nac yn dioddef anabledd meddyliol neu nam corfforol)
- cynnwys cadarnhad gan y sgwatiwr hyd y gŵyr nad yw, ac na fu, yr ystad mewn ymddiried (heblaw un lle mae budd pob un o’r buddiolwyr yn fudd mewn meddiant) a
- cynnwys cadarnhad gan y sgwatiwr nad yw paragraff 6(2) Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol (dim achos meddiant, dyfarniad ar feddiant neu ddadfeddiant o dan ddyfarniad ar feddiant) (rheol 188(1)(a) a (3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Dylech hefyd anfon unrhyw dystiolaeth ychwanegol a fyddai’n angenrheidiol i gefnogi’r hawliad (Rheolau Cofrestru Tir 2003, rheol 1881(1)(b)). Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.
Rhaid ichi restru’r holl ddogfennau sydd wedi eu cynnwys gyda’r cais ar ffurflen ADV1 a thalu’r ffi briodol o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru). Os nad ydych yn ei llenwi’n gywir, mae’n bosibl y caiff y ffurflen ADV1 ei dychwelyd atoch.
Os defnyddir datganiad o wirionedd, gall fod ar ffurflen ST1. Mae’r sylwadau a wnaed o ran y ffurflen hon yn Gwneud cais i gofrestru ar sail meddiant gwrthgefn yn briodol yma hefyd. Yn arbennig, dylai defnyddio’r ffurflen eich cynorthwyo i sicrhau nad anghofiwyd unrhyw beth.
9.2 Rhybuddion
Byddwn yn rhoi rhybudd o’r cais pellach, o dan reol 17 o Reolau Cofrestru Tir 2003, i’r canlynol:
- perchennog cofrestredig yr ystad o dan sylw
- perchennog cofrestredig unrhyw arwystl cofrestredig ar yr ystad honno
- lle bo’r ystad yn brydlesol, perchennog cofrestredig unrhyw ystad gofrestredig uwch
- unrhyw berson a gofrestrwyd fel person i’w hysbysu o dan baragraff 2 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, ac
- unrhyw berson arall y bydd y cofrestrydd yn ei ystyried yn briodol i’w hysbysu
Bydd y rhybudd yn caniatáu 15 diwrnod gwaith i ateb. Gall person a gafodd rybudd naill ai:
- gydsynio â’r cais, neu
- wrthwynebu’r cais
Os na cheir gwrthwynebiad gan unrhyw un a gafodd rybudd o fewn y terfyn amser, efallai caiff y sgwatiwr ei gofrestru’n berchennog yr ystad lle’r oedd ganddo feddiant gwrthgefn.
9.3 Gwrthwynebu mewn ymateb i rybudd
Gall person wrthwynebu cais pellach y sgwatiwr lle nad yw’n derbyn bod y sgwatiwr wedi bod mewn meddiant gwrthgefn am ddwy flynedd o leiaf neu lle mae’n gallu herio unrhyw un o’r datganiadau y bydd gofyn i’r sgwatiwr eu gwneud yn ei ail ddatganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol – gweler Gwneud y cais.
Rhaid gwrthwynebu trwy ddatganiad ysgrifenedig i’r cofrestrydd, wedi ei lofnodi gan y gwrthwynebydd neu ei drawsgludwr. Rhaid iddo ddatgan sail y gwrthwynebiad a rhoi enw llawn a chyfeiriad ar gyfer gohebu’r gwrthwynebydd (Rheolau Cofrestru Tir 2003, rheol 19). Rhaid i hyn fod yn gyfeiriad post, yn y Deyrnas Unedig ai peidio. Gellir rhoi cyfeiriadau post, ebost neu DX pellach hefyd, ond ni ellir cael mwy na 3 chyfeiriad ar gyfer gohebu i gyd (rheol 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Os derbynnir gwrthwynebiad, nid oes modd penderfynu’r cais nes bydd y gwrthwynebiad wedi ei waredu, oni bai bod y cofrestrydd yn fodlon bod y gwrthwynebiad yn ddi-sail (adran 73 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Os nad yw’n ddi-sail, rhaid i’r cofrestrydd roi rhybudd o’r gwrthwynebiad i’r sgwatiwr (adran 73(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Os nad oes modd datrys y mater trwy gytundeb rhwng y ddwy ochr, bydd y cofrestrydd yn cyfeirio’r mater at y tribiwnlys i’w benderfynu ar sail y disgrifiad yn Gwrthwynebu cais y sgwatiwr (adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
9.4 Cofrestru
Os caiff cais y sgwatiwr ei gymeradwyo, bydd yn cael ei gofrestru’n berchennog ar sail y disgrifiad yn Cofrestru.
10. Cais i gofrestru fel person i’w hysbysu o gais sgwatiwr
Gall person sydd â budd mewn ystad gofrestredig a fyddai’n cael niwed trwy gofrestriad sgwatiwr wneud cais i’r cofrestrydd i’w gofrestru fel person i’w hysbysu o dan baragraff 2(1)(d) Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (rheol 194 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Rhaid ichi wneud y cais ar ffurflen ADV2 a thalu’r ffi gywir yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol. Rhaid i’r ceisydd fodloni’r cofrestrydd fod ganddo fudd o’r fath.
Os yw’r cais yn cael ei gymeradwyo, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol ar y gofrestr perchnogaeth:
“Mae [enw] o [cyfeiriad] yn berson sydd â hawl i’w hysbysu o gais am feddiant gwrthgefn o dan baragraff 2 Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.”
I ddileu’r cofnod, gallwch wneud cais ar ffurflen AP1 ar unrhyw adeg. Nid oes ffi i’w thalu. Er diogelwch, os nad trawsgludwr sy’n gwneud y cais, byddwn yn rhoi rhybudd am y cais i’r person a enwir yn y cofnod gan ganiatáu 15 diwrnod gwaith i ateb.
11. Materion prydlesol
11.1 Meddiant gwrthgefn tir prydlesol cofrestredig
Cyn gynted ag y bydd y sgwatiwr yn cymryd meddiant o’r tir sydd wedi ei brydlesu, mae amser yn prinhau i’r tenant.
Nid yw amser yn prinhau yn erbyn y landlord hyd nes i’r brydles ddod i ben – oni bai i’r meddiant gwrthgefn gychwyn cyn y brydles. Os felly, bydd amser yn parhau i brinhau yn erbyn y landlord yn ystod cyfnod y brydles.
Sylwer nad yw cael rhent yn anghyfreithlon o dan brydles yn rhoi hawl i ddieithryn wneud cais mewn perthynas â theitl y landlord o dan Atodlen 6: gweler Atodlen 6, paragraff 11(3)(b) i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
11.2 Llechfeddiannu tir cofrestredig o dir prydlesol
“It is laid down in all cases – whether the inclosed land … belongs to the landlord or to a third person – that the presumption is, that the tenant has enclosed it for the benefit of his landlord unless he has done some act disclaiming the landlord’s title … The encroachment must be considered as annexed to the holding, unless it clearly appears that the tenant has made it for his own benefit.” Kingsmill v Millard (1855 11 Exch 313, 318, Parke B).
O leiaf ar un olwg, mae’r rhagdybiaeth hon yn golygu nad oes meddiant gwrthgefn gan denant ac y dylai unrhyw gais o dan Atodlen 6 i’r Ddeddf fod gan landlord y tenant (gweler penderfyniad y dirprwy Ddyfarnwr yn Dickenson v Longhurst Homes Ltd (REF/2007/1276)).
Fodd bynnag, gellir gwrthbrofi’r rhagdybiaeth, o ran ei natur, trwy dystiolaeth bod y tenant mewn gwirionedd wedi bwriadu i’r llechfeddiant fod er ei fudd ei hunan; ac rydym yn barod i drin y ffaith fod y cais wedi ei wneud fel tystiolaeth ddigonol o’r bwriad hwn inni barhau â’r cais. Ymhellach, ceir barn arall, sef bod y rhagdybiaeth dim ond yn ymwneud â phwy bynnag fyddai wedi caffael y teitl trwy gyfraith gwlad i’r ystad o dan sylw ac nid yw’n newid y ffaith fod y tenant mewn meddiant gwrthgefn, ac felly’n amherthnasol pan fo’r cais yn un o dan Atodlen 6.
Os gwneir cais o dan Atodlen 6 gan denant ac nad yw’n glir o’r cais bod y ceisydd yn ymwybodol o’r pwyntiau hyn, byddwn yn ysgrifennu ato i’w hysbysu o hyn a gofyn a yw am barhau â’r cais o hyd.
Os yw’r cais yn mynd yn ei flaen a chyrhaeddir y cam lle caiff rhybuddion eu cyflwyno, cyflwynir rhybudd i landlord y tenant sy’n cyfeirio at y rhagdybiaeth ac at y pwyntiau a wnaed uchod.
Yn enwedig lle y mae’r llechfeddiannu i dir arall sy’n eiddo i’r landlord ond nad yw wedi ei gynnwys yn y brydles, mewn cyferbyniad i dir sy’n eiddo i drydydd parti, efallai bydd y tenant yn fodlon derbyn bod y rhagdybiaeth yn gymwys. Os felly, gallwch wneud cais ar ffurflen FR1 am gofrestriad cyntaf ei deitl prydlesol i’r tir o dan sylw. Rhaid, at ddibenion y cais hwn, bod mwy na 7 mlynedd o dymor prydles y ceisydd ar ôl: adran 3(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
12. Rhent-daliadau
Mae meddiant gwrthgefn rhent-dâl cofrestredig yn cael ei lywodraethu gan Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (fel y’i haddaswyd gan Atodlen 8 i Reolau Cofrestru Tir 2003). Mae person mewn meddiant gwrthgefn rhent-dâl cofrestredig at ddibenion Atodlen 8 pe byddai, oni bai am adran 96 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, cyfnod cyfyngu o dan adran 15 o Ddeddf Cyfyngiadau 1980 o’i blaid mewn perthynas â’r rhent-dâl cofrestredig.
Mae Cofrestrfa Tir EF yn cydnabod bod ansicrwydd yn y gyfraith ynghylch meddiant gwrthgefn rhent-daliadau o 6 Ebrill 2014 yn dilyn newidiadau a wnaed i adran 38 o Ddeddf Cyfyngiadau 1980 gan Atodlen 14 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007. Tynnwyd ‘Rhent-daliadau’ o ddiffiniad ‘tir’ yn adran 38, gyda’r canlyniad ei bod yn ymddangos nad yw adrannau 15 a 17, sy’n gweithredu mewn perthynas â thir yn unig, yn berthnasol i rent-daliadau.
Gan na wnaed unrhyw newidiadau i Atodlen 8 i Reolau Cofrestru Tir 2003 a darpariaethau cysylltiedig yn Neddf Cofrestru Tir 2002, bydd Cofrestrfa Tir EF yn parhau i dderbyn ceisiadau a wneir o dan Atodlen 8 er gwaethaf yr ansicrwydd hwn. Bydd y rhybudd a roddir i berchennog y rhent-dâl cofrestredig yn cyfeirio at fater Deddf Cyfyngiadau 1980.
Lle bo’r rhent-dâl, testun y cais, hefyd yn effeithio ar dir arall (ac nid oes dosraniad ffurfiol) mae posibilrwydd y gallai rhywun heblaw’r ceisydd fod wedi talu’r rhent (er enghraifft, o dan ddosraniad anffurfiol). Byddai hyn yn atal unrhyw gyfnod cyfyngu rhag rhedeg ac felly’n atal terfyniad y rhent-dâl gan feddiant gwrthgefn. Yn y sefyllfa hon, gallai fod yn anodd i geisydd ddarparu tystiolaeth foddhaol o feddiant gwrthgefn a fyddai’n caniatáu i gais fynd yn ei flaen. Ar gyfer ceisiadau i ddileu rhybudd am rent-dâl digofrestredig sydd hefyd yn effeithio ar dir arall, os nad oes tystiolaeth ddigonol nad oes unrhyw un wedi talu’r rhent, gellir ystyried cofnod ‘honedig’ o dan reol 87 (4) o Reolau Cofrestru Tir 2003.
13. Atodiad: datganiad o wirionedd
Dull o ddarparu tystiolaeth i gefnogi cais yw datganiad o wirionedd. O ganlyniad i newidiadau a wnaed gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008, gellir ei dderbyn at ddibenion cofrestru tir yn lle datganiad statudol.
Fe’i mabwysiadwyd gan Gofrestrfa Tir EF yn dilyn y cynsail a osodwyd gan y llysoedd sifil i dderbyn datganiad o wirionedd fel tystiolaeth yn lle affidafid neu ddatganiad statudol.
13.1 Gofynion
At ddibenion cofrestru tir, diffinnir datganiad o wirionedd fel a ganlyn (rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003).
- fe’i gwneir gan unigolyn yn ysgrifenedig.
- rhaid iddo gael ei lofnodi gan yr unigolyn sy’n ei wneud (os nad yw’n gallu llofnodi
- nid oes rhaid iddo gael ei dyngu na’i dystio.
- rhaid iddo gynnwys datganiad o wirionedd ar y ffurf ganlynol: ‘Credaf fod y ffeithiau a’r materion a gynhwysir yn y datganiad hwn yn wir.’
- os yw trawsgludwr yn gwneud y datganiad neu’n ei lofnodi ar ran rhywun arall, rhaid i’r trawsgludwr ei lofnodi yn ei enw ei hun a nodi ei swyddogaeth
- gweler Llofnod gan drawsgludwr
13.2 Datganiad o wirionedd wedi ei lofnodi gan unigolyn nad yw’n gallu darllen
Os yw datganiad o wirionedd i’w lofnodi gan unigolyn nad yw’n gallu ei ddarllen, rhaid iddo:
- gael ei lofnodi ym mhresenoldeb trawsgludwr
- chynnwys tystysgrif a wnaed ac a lofnodwyd gan y trawsgludwr ar y ffurf ganlynol:
‘Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac wedi egluro natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad ffug i’r unigolyn sy’n gwneud y datganiad hwn a’i harwyddodd neu a roddodd [ei nod ef] neu [ei nod hi] yn fy mhresenoldeb ar ôl iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo bod y cynnwys yn gywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad ffug.’
13.3 Datganiad o wirionedd gan unigolyn nad yw’n gallu ei lofnodi
Lle y mae datganiad o wirionedd i’w wneud gan unigolyn nad yw’n gallu ei lofnodi, rhaid iddo:
- nodi enw llawn yr unigolyn hwnnw
- gael ei lofnodi gan drawsgludwr yn ôl cyfarwyddyd ac ar ran yr unigolyn hwnnw, a
- chynnwys tystysgrif wedi ei gwneud a’i llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol:
‘Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio bod [yr unigolyn sy’n gwneud y datganiad o wirionedd hwn] wedi ei ddarllen yn fy mhresenoldeb, cymeradwyo bod y cynnwys yn gywir a’m cyfarwyddo i’w arwyddo ar [ei ran] [ei rhan] neu [Rwyf wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac wedi egluro natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad ffug i’r unigolyn sy’n gwneud y datganiad hwn a’m cyfarwyddodd i’w arwyddo ar [ei ran] neu [ei rhan] ar ôl iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo bod y cynnwys yn gywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad ffug.’
13.4 Llofnod gan drawsgludwr
Lle y mae trawsgludwr yn gwneud datganiad o wirionedd, neu lle y mae trawsgludwr yn gwneud ac yn llofnodi tystysgrif ar ran rhywun sydd wedi gwneud datganiad ond nad yw’n gallu ei ddarllen neu ei lofnodi, rhaid i’r trawsgludwr:
- ei arwyddo yn ei enw ei hun ac nid yn enw ei gwmni neu gyflogwr, a
- rhaid iddo nodi ym mha swyddogaeth mae’n ei arwyddo a lle bo’n briodol, enw ei gwmni neu gyflogwr
13.5 Ffurflen ST1
14. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.