Cyfarwyddyd ymarfer 83: newidiad
Cyhoeddwyd 10 Mawrth 2025
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
1.1 Anniddymoldeb amodol teitl
Un o ddibenion y gofrestr tir yw darparu cofrestr derfynol, gywir a diffiniol o fuddion cyfreithiol sy’n effeithio ar dir yng Nghymru a Lloegr. Ategir y nod hwn gan adran 58(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, sy’n darparu:
“If, on the entry of a person in the register as the proprietor of a legal estate, the legal estate would not otherwise be vested in him, it shall be deemed to be vested in him as a result of the registration.”
Felly, bydd cofrestru teitl cyfreithiol i barti yn breinio’r teitl hwnnw yn y parti hwnnw, ni waeth a oedd gan y parti hwnnw hawl i gael y teitl hwnnw wedi ei freinio ynddo ai peidio.
Mae terfynoldeb y gofrestr yn amodol ar y potensial i newid gael ei wneud o dan adran 65 o ac Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Lle gwneir newid i gywiro camgymeriad, sy’n effeithio’n niweidiol ar deitl perchennog cofrestredig, gall indemniad statudol fod yn daladwy o dan Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
1.2 Newidiad yn gyffredinol
Mae Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu y gall y cofrestrydd newid, neu gall y llys wneud gorchymyn i newid, y gofrestr ar gyfer rhai dibenion cyfyngedig.
Mae paragraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu y gall y llys wneud gorchymyn i newid y gofrestr at ddiben naill ai:
- unioni camgymeriad
- diweddaru’r gofrestr
- gweithredu unrhyw ystad, hawl neu fudd sydd wedi ei eithrio rhag effaith cofrestriad
Os nad yw newidiad bwriadedig yn dod o dan unrhyw un o’r dibenion hyn, nid oes pŵer i’r llys newid y gofrestr.
Mae paragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu y gall y cofrestrydd newid y gofrestr at ddiben naill ai:
- unioni camgymeriad
- diweddaru’r gofrestr
- gweithredu unrhyw ystad, hawl neu fudd a eithrir rhag effaith cofrestriad
- tynnu ymaith cofnod diangen
Os nad yw newidiad bwriadedig yn dod o dan unrhyw un o’r dibenion hyn nid oes pŵer i’r cofrestrydd newid y gofrestr.
1.2.1 Newidiad yn unol â gorchymyn llys sy’n cynnwys gorchymyn i newid
Mae dyletswydd ar y cofrestrydd i weithredu gorchymyn llys i newid y gofrestr pan gaiff ei gyflwyno iddo (paragraff 2(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Rhaid cyflwyno gorchymyn i newid y gofrestr trwy gais i weithredu’r gorchymyn (rheol 127(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Rhaid i’r gorchymyn llys fodloni’r gofynion a nodir yn rheol 127(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003, felly mae’n rhaid iddo “… state the title number of the title affected and the alteration that is to be made, and must direct the registrar to make the alteration.” Rhaid i’r newidiad a wneir i’r gofrestr adlewyrchu bwriad y gorchymyn llys, a all arwain at newidiadau diwygiedig neu ychwanegol i’r rhai a nodir yn y gorchymyn ei hun.
1.2.2 Newidiad yn unol â gorchymyn llys sydd heb gynnwys gorchymyn i newid
Nid oes dyletswydd ar y cofrestrydd i weithredu gorchymyn llys oni bai bod y gorchymyn i newid y gofrestr. Gellir gwneud cais am newidiad o ganlyniad i orchymyn llys nad yw’n orchymyn i newid y gofrestr oherwydd nid yw’n cydymffurfio â rheol 127(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003. O dan yr amgylchiadau hynny, ni fydd yn gais a wneir o dan orchymyn llys y mae’n ofynnol i’r cofrestrydd ei weithredu o dan baragraff 2(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2003. O ganlyniad, bydd paragraffau 5 a 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (ac nid paragraffau 2 a 3 o Atodlen 4) yn gymwys i gais i newid o’r fath.
Lle nad yw gorchymyn llys yn bodloni’r gofynion i fod yn orchymyn i newid y gofrestr, nid yw hyn yn atal y gorchymyn rhag cael ei gyflwyno fel tystiolaeth i gyfiawnhau cais am newidiad at ddibenion rheol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003.
1.2.3 Newidiad heb fod yn unol â gorchymyn llys
Mae rheol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn datgan bod yn rhaid i gais i newid y gofrestr (heblaw o dan orchymyn llys) gael ei ategu gan dystiolaeth i gyfiawnhau’r newidiad. Bydd natur y dystiolaeth hon yn dibynnu ar y ffeithiau ym mhob achos ond rhaid iddi ddangos, yn ôl pwysau tebygolrwydd, bod y newidiad a geisir wedi ei gyfiawnhau.
1.2.4 Newidiad gan y cofrestrydd heb gais
Yn ystod ei ddyletswyddau gall gweithiwr cais Cofrestrfa Tir EF ddarganfod bod teitl cofrestredig yn cynnwys cofnod sydd wedi dyddio neu sy’n ddiangen neu wall. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y gweithiwr cais yn ymchwilio i’r mater ac, os penderfynwn fod y newidiad yn angenrheidiol, byddwn yn cymryd camau i newid y gofrestr o dan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
1.2.5 Rhybuddion
Lle byddai ystad, arwystl neu fudd yn cael ei effeithio gan newidiad bwriadedig, heblaw am newidiad yn unol â gorchymyn llys, mae rheol 128 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd roi rhybudd o newidiad bwriadedig i:
- berchennog cofrestredig unrhyw ystad gofrestredig yr effeithir arni
- perchennog cofrestredig unrhyw arwystl cofrestredig yr effeithir arno, ac
- unrhyw berson sydd â hawl i unrhyw fudd yr effeithir arno a warchodir gan rybudd os yw enw a chyfeiriad ar gyfer gohebu y person hwnnw wedi eu nodi yn y gofrestr lle cofnodir y rhybudd
oni bai bod y cofrestrydd yn fodlon nad yw rhybudd o’r fath yn angenrheidiol. Gall y cofrestrydd hefyd “…make such enquiries as he thinks fit.” (rheol 128(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003)
Nid oes modd darparu rhestr gyflawn o’r sefyllfaoedd lle na ellir cyflwyno rhybudd o newidiad o dan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
2. Y dibenion ar gyfer newidiad o dan Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002
2.1 Newidiadau i unioni camgymeriad
Diffinnir ‘camgymeriad’ yng nghyd-destun cofrestru tir ym mharagraff 11(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002:
“For the purposes of this Schedule, references to a mistake in something include anything mistakenly omitted from it as well as anything mistakenly included in it.”
Yn absenoldeb diffiniad mwy sylweddol o gamgymeriad mewn man arall yn y Ddeddf Cofrestru Tir a’r Rheolau Cofrestru Tir, mae Cofrestrfa Tir EF yn ystyried bod y diffiniad hwn yr un mor gymwys i unioni camgymeriad o dan Atodlen 4. Gan fod y diffiniad yn cyfeirio at gamgymeriadau trwy gynnwys neu hepgor, gall camgymeriad yn y gofrestr godi o dan yr amgylchiadau canlynol (wedi eu nodi yn Ruoff & Roper: Registered Conveyancing ym mharagraff 46.009).
- Lle mae’r cofrestrydd yn gwneud cofnod yn y gofrestr na fyddai wedi ei wneud (er enghraifft – cofrestru trosglwyddai yn berchennog teitl cofrestredig lle nad yw’r trosglwyddiad wedi ei gyflawni’n briodol gan y trosglwyddwr).
- Lle mae’r cofrestrydd yn gwneud cofnod yn y gofrestr na fyddai wedi ei wneud yn y ffurf y cafodd ei gwneud (er enghraifft – cofrestru rhybudd unochrog mewn perthynas ag achos tir bwriadedig, pan ddaw i’r amlwg wedi hynny bod yr achos yn ymwneud yn unig â chanran y cyfrannau priodol yn yr ystad ecwitïol a berchnogir gan ddau neu ragor o denantiaid cydradd. Ni ellir cofnodi rhybuddion yn y gofrestr mewn perthynas â buddion tir o dan ymddiried tir (adran 33(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac felly byddai’r cofnod cywir yn gyfyngiad priodol).
- Lle mae’r cofrestrydd yn methu â gwneud cofnod yn y gofrestr y byddai wedi ei wneud fel arall (er enghraifft – dim cofnod yn cael ei wneud ar gofrestriad cyntaf mewn perthynas â chyfamod cyfyngu heb fod yn ddi-rym sydd wedi ei gynnwys mewn trawsgludiad).
- Lle mae’r cofrestrydd yn dileu cofnod na fyddai wedi ei ddileu pe byddai wedi gwybod y sefyllfa go iawn adeg y dileu (er enghraifft – dileu cofnod mewn perthynas ag arwystl cofrestredig lle nad oedd y rhyddhad a gyflwynwyd wedi ei awdurdodi gan yr arwystlai).
Nid yw creu camgymeriad yn y gofrestr yn ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd fod wedi gwneud gwall yn y broses gofrestru. Er enghraifft, gallai parsel o dir digofrestredig fod wedi cael ei drawsgludo ddwywaith yn ddamweiniol gan y perchennog o fewn cyfnod byr. Gall parti sy’n hawlio teitl dogfennol o dan y trawsgludiad diweddarach gyflwyno cais am gofrestriad cyntaf. Mae’r cofrestrydd, heb fod yn ymwybodol o’r trawsgludiad cynharach, yn cofrestru’r ceisydd yn berchennog y tir. Heb unrhyw fai ar y cofrestrydd, mae’n bosibl bod hyn wedi creu camgymeriad yn y gofrestr oherwydd nid oedd gan y perchennog digofrestredig deitl cyfreithiol i’r tir mwyach pan ymrwymodd i’r trawsgludiad diweddarach. Byddai’r cofrestrydd yn dod yn ymwybodol o’r camgymeriad dim ond pan fydd parti yn cyflwyno cais dilynol am gofrestriad cyntaf yn hawlio teitl dogfennol o dan y trawsgludiad cynharach.
Bydd bodolaeth, neu ddiffyg bodolaeth, camgymeriad yn y gofrestr yn dibynnu ar ffeithiau’r achos unigol. Cymerwch yr enghraifft uchod: ar yr olwg gyntaf, roedd cofrestru yn berchennog cofrestredig deiliad y teitl dogfennol yn deillio o’r trawsgludiad digofrestredig diweddarach wedi creu camgymeriad yn y gofrestr. Fodd bynnag, os gall y perchennog cofrestredig hwn ddangos ei fod ef, ac unrhyw ragflaenwyr mewn teitl, wedi bod mewn meddiant gwrthgefn o’r tir am dros 12 mlynedd cyn y cofrestriad cyntaf, yna byddai’r teitl dogfennol digofrestredig cynharach wedi ei ddirymu (gweler adran 1 cyfarwyddyd ymarfer 4: meddiant gwrthgefn tir cofrestredig ). Felly, ni fyddai cofrestru’r sgwatiwr yn berchennog cofrestredig y tir yn creu camgymeriad yn y gofrestr gan ei fod wedi diddymu’r teitl dogfennol i’r tir adeg y cofrestriad cyntaf.
2.1.1 Gwarediadau ‘di-rym’ a ‘dirymadwy’
Er nad yw wedi ei grybwyll yn y diffiniad o gamgymeriad a nodir yn Neddf Cofrestru Tir 2002, mae cyfraith achosion wedi cadarnhau bod ‘camgymeriad’ yn cyfeirio at gamgymeriad yn y gofrestr ei hun yn unig yn hytrach na chamgymeriad mewn cais a gyflwynwyd i gofrestru. Dangosir hyn gan y gwahaniaeth rhwng gwarediadau sy’n ‘ddi-rym’ neu ddim ond yn ‘ddirymadwy’ fel y cyfeirir ato ym nyfarniad y Llys Apêl yn achos NRAM Ltd v Evans & Ors [2017] EWCA Civ 1013.
Mae gwarediad di-rym yn un nad yw’n ddilys pan gaiff ei greu, ac felly nid yw’n effeithio ar yr ystad gyfreithiol berthnasol. Mae gwarediad dirymadwy yn ddilys pan gaiff ei greu ond mae’n agored i ddirymiad dilynol gan y llysoedd oherwydd yr amgylchiadau pan gafodd ei greu.
Yn NRAM, Kitchen LJ, ym mharagraff 53, dyfynnwyd y canlynol gyda chymeradwyaeth gan Ruoff & Roper: Registered Conveyancing ym mharagraff 46.009:
“… So the entry of an estate or interest purportedly arising under a void disposition is a mistake. The entry made in the register does not reflect the true effect of the purported disposition when the entry was made. However, the entry of a person as having acquired an estate or interest under what proves to be a voidable disposition is not a mistake. Unless it had been rescinded at the date of registration, the disposition would be valid and it would not be a mistake to enter the disponee as the proprietor of the estate or interest under it….”
Roedd achos NRAM yn ymwneud â chais ar ffurf e-DS1 a gyflwynwyd ar gam gan y banc, yn rhyddhau arwystl cofrestredig nad oedd y banc yn bwriadu ei ryddhau. Yn y pen draw arweiniodd cais am newidiad gan y banc at yr Uchel Lys yn diddymu’r e-DS1. Un o’r cwestiynau gerbron y Llys Apêl oedd a oedd y newidiad dilynol (i weithredu gorchymyn yr Uchel Lys ac ailgofrestru arwystl cyfreithiol y banc) ar gyfer unioni camgymeriad yn y gofrestr neu ddiweddaru’r gofrestr. Byddai hyn yn dibynnu ar benderfynu a oedd yr e-DS1 yn cael ei ystyried yn ddi-rym neu’n ddirymadwy.
Yn y pen draw, penderfynwyd nad oedd dileu arwystl cyfreithiol NRAM ar ôl cyflwyno ei gais e-DS1 yn creu camgymeriad yn y gofrestr. Dywedodd Kitchen LJ wrth roi dyfarniad ar y pwynt hwn ym mharagraff 59:
“In my judgment, the registration of a voidable disposition such as that with which we are concerned before it is rescinded is not a mistake for the purposes of Schedule 4 to the Land Registration Act 2002. Such a voidable disposition is valid until it is rescinded and the entry in the register of such a disposition before it is rescinded cannot properly be characterised as a mistake. It may be the case that the disposition was made by mistake but that does not render its entry on the register a mistake, and it is entries on the register with which Schedule 4 is concerned. Nor, so it seems to me, can such an entry become a mistake if the disposition is at some later date avoided. Were it otherwise, the policy of the Land Registration Act 2002 that the register should be a complete and accurate statement of the position at any given time would be undermined.”
Gorchmynnwyd y cofrestrydd i adfer arwystl cyfreithiol NRAM i’r gofrestr at y diben o ddiweddaru’r gofrestr o dan baragraff 2(1)(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
2.1.2 Camgymeriad a gwarediadau dilynol
Mae cyfraith achosion hefyd wedi cadarnhau y gall y pŵer i newid y gofrestr i unioni camgymeriad, boed gan y llysoedd neu’r cofrestrydd, ymestyn i newidiadau dilynol i’r gofrestr sy’n deillio o’r camgymeriad cychwynnol. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed pan nad yw’r newidiadau dilynol eu hunain yn gamgymeriadau yn y gofrestr.
Cymerwch yr enghraifft ganlynol:
“Mae A yn berchennog cofrestredig eiddo. Nid yw llofnod A yn cael ei dystio ar ffurflen TR1, sy’n trosglwyddo’r eiddo i B. Yna mae B yn trosglwyddo’r eiddo yn ddilys i C, sy’n rhoi arwystl cyfreithiol cyntaf dilys i’r rhoddwr benthyg D.”
Gan gymryd bod yr holl warediadau wedi eu cofrestru, mae cofrestru’r trosglwyddiad o A i B yn creu camgymeriad yn y gofrestr oherwydd nid yw’r ffurflen TR1 wedi cael ei chyflawni’n briodol ac felly ni allai weithredu i drosglwyddo’r ystad gyfreithiol yn yr eiddo o A i B. Fodd bynnag, er gwaetha’r camgymeriad hwn, yn dilyn cofrestriad, mae’r eiddo yn breinio yn B trwy rinwedd adran 58(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Yn ogystal â breinio’r eiddo ynddo, mae gan B bwerau gwaredu perchennog a nodir yn adrannau 23 a 24 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Yn wyneb yr uchod, nid yw trosglwyddiad dilynol yr eiddo o B i C, yn ogystal ag arwystlo dilynol yr eiddo o blaid D, ynddynt eu hunain yn creu camgymeriadau yn y gofrestr. Mae B ac C wedi arfer pwerau gwaredu perchennog ac mae’r gwarediadau wedi cael eu cofrestru’n gywir.
Cafodd y sefyllfa ynghylch newid y gofrestr mewn perthynas â materion sy’n deillio o gamgymeriad ei hystyried gan y Llys Apêl yn Gold Harp Properties Ltd. v. McLeod [2014] EWCA Civ 1084. Roedd yr achos hwn yn ymwneud â chau teitl prydlesol oedd yn bodoli a’r rhydd-ddeiliad yn rhoi prydles newydd dilynol i Gold Harp. Penderfynodd yr Uchel Lys yn ddiweddarach nad oedd yr ystad brydlesol oedd yn bodoli wedi ei therfynu ac felly bod cau’r teitl yn gamgymeriad.
Mewn achos gerbron yr Uchel Lys, penderfynwyd y gallai’r teitl prydlesol caeedig gael ei adfer i’r gofrestr er mwyn unioni’r camgymeriad. Penderfynwyd hefyd, er mwyn rhoi’r lesddeiliaid yn y sefyllfa y byddent wedi bod ynddi pe na bai’r camgymeriad wedi cael ei wneud, y byddai blaenoriaethau’r brydles a adferwyd a phrydles Gold Harp yn cael eu newid fel bod y brydles a adferwyd yn cael blaenoriaeth.
Apeliodd Gold Harp yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys, gan herio’n rhannol y penderfyniad i newid blaenoriaethau’r prydlesi. Wrth wrthod yr apêl, dywedodd Underhill LJ (ym mharagraff 95):
“It is worth recalling that Schedule 4 is concerned with “correcting” mistakes in the Register, and it is established by the decisions to which I have referred that the power to do so extends to correcting the consequences of such mistakes.”
Yn amodol ar unrhyw derfynau ar bwerau’r cofrestrydd i newid (gweler, er enghraifft, Y perchennog cofrestredig mewn meddiant ynghylch y perchennog cofrestredig mewn meddiant), mae unrhyw fudd sy’n cael ei greu yn dilyn y camgymeriad yn agored i gael ei newid er mwyn unioni’r camgymeriad.
2.1.3 Buddion gor-redol
Fel rheol, ni fydd newidiad sy’n adlewyrchu budd gor-redol yn cael ei ystyried yn unioni camgymeriad. Mae hyn oherwydd bod y buddion hyn, a nodir yn Atodlenni 1 a 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yn gyfrwymol ar berchennog cofrestredig er nad ydynt wedi eu crybwyll yn y gofrestr. Felly ni chaiff teitl ei effeithio’n andwyol os caiff manylion budd gor-redol eu hychwanegu at y gofrestr.
Ceir rhagor o wybodaeth am fuddion gor-redol yng nghyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a’u dadlennu.
2.1.4 Cywiro
Mae cywiro’r gofrestr yn fath penodol o newidiad wedi ei ddiffinio o dan baragraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 fel newidiad sydd:
a. yn cynnwys unioni camgymeriad, a
b. yn effeithio’n niweidiol ar deitl perchennog cofrestredig
O ran newid y gofrestr, dim ond mewn amgylchiadau lle mae’r newidiad yn gyfystyr â chywiro y gall fod gan bersonau sy’n dioddef colled hawl i indemniad statudol o dan Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch cywiro’r gofrestr yn adran 4, isod, ac yng nghyfarwyddyd ymarfer 39: indemniad.
2.2 Newidiadau i ddiweddaru’r gofrestr
Gall y gofrestr gael ei newid at y diben o ddiweddaru’r gofrestr hefyd. Gwneir hyn fel arfer i adlewyrchu newid yn y gwir sefyllfa o ran teitl cofrestredig. Enghraifft gyffredin yw lle mae perchennog cofrestredig wedi newid ei enw ac yn gwneud cais i ddiweddaru’r gofrestr er mwyn adlewyrchu’r newidiad hwn yn y gofrestr perchnogaeth.
Gan gymryd y penderfyniad yn NRAM v Evans, y cyfeiriwyd ato uchod, gorchmynnodd y Llys Apêl i’r gofrestr gael ei newid ar ôl i gais e-DS1 y banc gael ei ddiddymu. Roedd y cofnod mewn perthynas â’r arwystl cyfreithiol wedi cael ei dynnu ymaith yn gywir gan y cofrestrydd pan gyflwynwyd yr e-DS1, fodd bynnag roedd angen diweddaru’r gofrestr yn awr er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod yr e-DS1 wedi cael ei ddiddymu a’i drin i bob pwrpas fel pe na bai erioed wedi cael ei gyflwyno i’w gofrestru.
Bydd newidiad i adlewyrchu yn y gofrestr hawl y mae’r teitl cofrestredig eisoes yn ddarostyngedig iddi fel budd gor-redol, megis hawddfraint a gaffaelwyd trwy bresgripsiwn, hefyd yn newidiad i ddiweddaru’r gofrestr.
Gellir newid teitl cofrestredig o ganlyniad i weithred gywiro, sy’n unioni gwall mewn gweithred gynharach. Er enghraifft, gall y partïon i drosglwyddiad cynharach gytuno nad oedd eu trosglwyddiad yn cynnwys yr holl amodau bwriadedig (megis cyfamodau, hawddfreintiau ac ati). Effaith gweithred o’r fath yw bod yn rhaid darllen y weithred wedi ei chywiro (ei hunioni) fel pe bai wedi cael ei llunio’n wreiddiol yn ei ffurf wedi ei chywiro (ond dim ond o ddyddiad y weithred gywiro). Byddai newidiad o’r fath yn diweddaru’r gofrestr er mwyn adlewyrchu telerau’r weithred gywiro.
Fodd bynnag, lle mae’r partïon i drosglwyddiad cynharach yn cytuno nad oedd eu cynllun trosglwyddo yn adlewyrchu’r stent roedd y partïon yn bwriadu ei drosglwyddo, fel arfer bydd yn rhaid iddynt gyflawni trosglwyddiad pellach i unioni’r gwall hwn gan ddefnyddio ffurflen TR1 neu TP1 fel a bennir o dan reol 58 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Ceir rhagor o wybodaeth am y pwynt hwn yng nghyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd newid sy’n peri gwarediadau tir cofrestredig.
2.3 Newidiadau i weithredu unrhyw ystad, hawl neu fudd a eithrir rhag effaith cofrestriad
Mae newidiadau i’r gofrestr at y diben hwn i adlewyrchu unrhyw ystad, hawl neu fudd a eithrir o ganlyniad i gofrestriad y teitl gyda theitl meddiannol, amodol neu brydlesol da. Ni fyddai newidiad i adlewyrchu ystad, hawl neu fudd o’r fath yn unioni camgymeriad oherwydd bod dosbarth y teitl yn golygu bod y teitl cofrestredig bob amser wedi bod yn ddarostyngedig i ystad, hawl neu fudd o’r fath.
Enghraifft o hyn fyddai lle mae sgwatiwr wedi gwneud cais llwyddiannus am gofrestriad cyntaf tir ar y sail ei fod wedi caffael teitl trwy feddiant gwrthgefn o dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980. Mae wedi ei gofrestru yn berchennog y tir gyda theitl rhydd-ddaliol meddiannol. Wedi hynny, mae deiliad teitl dogfennol y tir yn gwneud cais i newid y gofrestr er mwyn cau teitl meddiannol y sgwatiwr ar y sail nad oedd wedi caffael teitl o dan y Ddeddf Cyfyngiadau. Os bydd y deiliad teitl dogfennol yn llwyddiannus, bydd newidiad yn digwydd i weithredu ystad, hawl neu fudd a eithrir rhag effaith cofrestriad. Mae hyn oherwydd y diffiniad o deitl meddiannol o dan adran 11(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002:
“Registration with possessory title has the same effect as registration with absolute title, except that it does not affect the enforcement of any estate, right or interest adverse to, or in derogation of, the proprietor’s title subsisting at the time of registration or then capable of arising.”
sy’n golygu bod y teitl dogfennol digofrestredig wedi ei eithrio rhag effaith cofrestriad teitl meddiannol y sgwatiwr, ac y byddai’r newidiad yn gweithredu’r ystad honno.
2.4 Newidiadau i dynnu ymaith cofnod diangen
O’r pedwar diben ar gyfer newid y gofrestr, tynnu ymaith cofnod diangen yw’r unig ddiben sydd ar gael i’r cofrestrydd ond nid y llysoedd. Nid oes angen cais er mwyn i’r cofrestrydd arfer ei bŵer i newid y gofrestr trwy dynnu ymaith cofnod diangen, fodd bynnag mae’n bosib y bydd cais yn tynnu ein sylw at y ffaith bod cofnod yn ddiangen.
Bydd cofnod yn ddiangen pan nad yw’r mater y mae’n ymwneud ag ef yn gyfredol mwyach, er enghraifft lle mae’r cofnodion sy’n ymwneud ag ail arwystl yn cael eu tynnu o’r gofrestr adeg cofrestru person sy’n cymryd trosglwyddiad oddi wrth yr arwystlai cyntaf o dan ei bŵer gwerthu.
3. Gwneud cais am newidiad
Mae’r adran ganlynol yn rhoi gwybodaeth am geisiadau i newid y gofrestr neu gynllun teitl. Ceir rhagor o wybodaeth yng nghyfarwyddyd ymarfer 77: newid y gofrestr trwy dynnu ymaith tir o gynllun teitl.
3.1 Y cais
Dylai cais am newidiad nodi’n glir y newid(newidiadau) a geisir a chynnwys tystiolaeth i gyfiawnhau’r newid(newidiadau) (rheol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os yw’r newidiad yn unol â gorchymyn llys ar gyfer newidiad, rhaid i’r gorchymyn gydymffurfio â rheol 127 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Yr unig eithriad i hyn yw lle mae’r cais i ddiweddaru’r gofrestr trwy dynnu ymaith enw cydberchennog ymadawedig (rheol 13(2)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
O dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, mae ffi benodol yn daladwy ar gyfer unrhyw gais i newid y gofrestr. Mewn rhai achosion (yn enwedig os achoswyd y gwall gan Gofrestrfa Tir EF) gellir ad-dalu’r ffi (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru).
3.2 Hawl gyfreithiol (locus standi)
Yn yr achos yn yr Uchel Lys Mann v Dingley [2011] EWlandRA 2010_582, ar apêl gan y Dyfarnwr i Gofrestrfa Tir EF (rhagflaenydd adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf)) cadarnhaodd HHJ McCahill QC:
“As a matter of law, there is no requirement for an applicant for rectification to have private law standing. The procedural rules and powers of the court are more than adequate to prevent vexatious or abusive applications.”
Felly, gall cais am newidiad gael ei gyflwyno gan unrhyw un ar yr amod ei fod yn unol â gorchymyn llys sy’n cydymffurfio â rheol 127 o Reolau Cofrestru Tir 2003 neu wedi ei ategu gan dystiolaeth ddigonol i fodloni’r cofrestrydd, yn ôl pwysau tebygolrwydd, bod y newidiad a geisir wedi ei gyfiawnhau (rheol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
3.3 Tystiolaeth ategol
3.3.1 Newidiad yn unol â gorchymyn llys
Rhaid i gais am newidiad a wneir yn unol â gorchymyn llys gael ei ategu gan y gorchymyn gwreiddiol, copi swyddfa o’r gorchymyn wedi ei selio neu gopi ardystiedig o’r gorchymyn. Rhaid i’r gorchymyn gydymffurfio â rheol 127(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003.
Ni fydd llysoedd Cymru a Lloegr yn cydnabod dyfarniad tramor yn ymwneud â thir yng Nghymru a Lloegr, felly ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn gorchymyn llys a wnaed y tu allan i Gymru a Lloegr fel un sy’n cydymffurfio â rheol 127 o Reolau Cofrestru Tir 2003.
3.3.2 Newidiad nad yw’n unol â gorchymyn llys
Mae gormod o sefyllfaoedd a all arwain at newidiadau posibl i’r gofrestr er mwyn i Gofrestrfa Tir EF allu darparu rhestr ddiffiniol o’r dystiolaeth y dylid ei chyflwyno ym mhob sefyllfa. Ar yr amod bod y dystiolaeth a gyflwynir yn cyfiawnhau’r newidiad a geisir, yn ôl pwysau tebygolrwydd, gall Cofrestrfa Tir EF benderfynu i newid y gofrestr (rheol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003 a pharagraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Lle mae’r newidiad yn gyfystyr â chywiriad, rhaid i’r cofrestrydd gymeradwyo’r newidiad os oes ganddo’r pŵer i’w wneud, oni bai bod amgylchiadau eithriadol sy’n cyfiawnhau peidio â gwneud y newidiad (paragraff 6(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Yn dibynnu ar ffeithiau’r achos dan sylw, gall un neu ragor o’r canlynol gael ei ystyried yn dystiolaeth sy’n cyfiawnhau’r newidiad penodol a geisir.
- Tystiolaeth ddatganiadol (naill ai datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol) a roddir gan berson sydd â gwybodaeth am y ffeithiau perthnasol.
- Tystiolaeth arbenigol, megis adroddiad arolygwr tir neu arbenigwr llawysgrifen.
- Gorchymyn llys nad yw’n cydymffurfio â rheol 127 o Reolau Cofrestru Tir 2003.
- Copïau ardystiedig o ddogfennau sy’n berthnasol i warediad penodol, megis contract gwerthu, sy’n egluro cyd-destun gwneud y gwarediad.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn.
3.4 Ein hymateb i gais am newidiad
Prif swyddogaeth Cofrestrfa Tir EF yw cynnal cywirdeb a chyfanrwydd y gofrestr tir. Felly, pan ddaw i’n sylw y gall newidiad i’r gofrestr neu gynllun teitl fod yn ofynnol, byddwn yn ymchwilio i’r mater perthnasol er mwyn sefydlu a ydym, yn ôl pwysau tebygolrwydd, yn ystyried bod unrhyw newidiad yn ofynnol. Oni bai bod y newidiad yn gyfystyr â chywiriad, mae gan Gofrestrfa Tir EF ddisgresiwn i wneud y newidiad bwriadedig neu beidio.
Er mwyn sefydlu a yw newidiad yn ofynnol neu beidio, gall gweithwyr cais Cofrestrfa Tir EF ymchwilio i fersiynau cyfredol a hanesyddol o’r gofrestr a chynlluniau teitl, yn ogystal ag unrhyw ddogfennaeth a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF. Gallwn hefyd ymchwilio i fersiynau hanesyddol y map Arolwg Ordnans yn ogystal â chyfarwyddo arolygwr tir yr Arolwg Ordnans i archwilio (gyda chydsyniad y perchennog perthnasol) a pharatoi adroddiad ynghylch unrhyw dir sy’n ddarostyngedig i gais am newidiad. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd angen i’r gweithiwr cais wneud ymholiadau hefyd, wrth ystyried y cais cychwynnol ac yn dilyn ein hymchwiliadau ychwanegol.
Unwaith y bydd ein hymchwiliadau wedi eu cwblhau, gan gynnwys ystyried unrhyw dystiolaeth ychwanegol a gyflwynwyd mewn ymateb i’n hymholiadau, bydd y gweithiwr cais yn hysbysu’r parti a gyflwynodd y cais a ydym yn ystyried, yn ôl pwysau tebygolrwydd, y dylid gwneud newid(newidiadau) i’r gofrestr neu beidio.
3.4.1 Rhybuddion
Unwaith y bydd penderfyniad wedi cael ei wneud i fwrw ymlaen â’r newidiad bwriadedig, bydd y gweithiwr cais yn ystyried a ddylid cyflwyno rhybudd o’r cais.
Lle byddai ystad, arwystl neu fudd yn cael ei effeithio gan newidiad bwriadedig, heblaw am newidiad yn unol â gorchymyn llys, mae rheol 128 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd roi rhybudd o newidiad bwriadedig i:
- berchennog cofrestredig unrhyw ystad gofrestredig yr effeithir arni
- perchennog cofrestredig unrhyw arwystl cofrestredig yr effeithir arno
- unrhyw berson sydd â hawl i unrhyw fudd yr effeithir arno a warchodir gan rybudd os yw enw a chyfeiriad ar gyfer gohebu y person hwnnw wedi eu nodi yn y gofrestr y cofnodwyd y rhybudd ynddi
oni bai bod y cofrestrydd yn fodlon nad yw rhybudd o’r fath yn ofynnol. Gall y cofrestrydd hefyd “…make such enquiries as he thinks fit.” (rheol 128(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Os na fydd Cofrestrfa Tir EF yn cael gwrthwynebiad cadarn i’r cais, caiff y newidiad ei wneud i’r gofrestr neu gynllun teitl.
Os caiff Cofrestrfa Tir EF wrthwynebiad cadarn i’r cais, rhaid inni hysbysu’r ceisydd, ac ni allwn gwblhau’r cais hyd nes y gwaredir y gwrthwynebiad (adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Ceir rhagor o wybodaeth am broses anghydfodau Cofrestrfa Tir EF yng nghyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau: arferion a gweithdrefnau Cofrestrfa Tir EF.
4. Ystyriaethau penodol wrth wneud cais i gywiro’r gofrestr
Mae cywiro’r gofrestr yn fath penodol o newidiad wedi ei ddiffinio o dan baragraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 fel newidiad sydd:
a. yn cynnwys unioni camgymeriad, a
b. yn effeithio’n niweidiol ar deitl perchennog cofrestredig.
Mae paragraffau 3 a 6 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cynnwys darpariaethau penodol ynghylch pwerau’r ddau lys a’r cofrestrydd, yn y drefn honno, pan fyddai newidiad yn gyfystyr â chywiriad.
4.1 Y perchennog cofrestredig mewn meddiant
Mae cyfyngiadau ar y pŵer i gywiro’r gofrestr lle mae perchennog cofrestredig mewn meddiant. Nid yw’n bosibl cywiro (boed a yw’r mater gerbron y llys neu’r cofrestrydd) yn erbyn perchennog cofrestredig mewn meddiant oni bai bod y perchennog cofrestredig hwnnw:
- yn cydsynio i’r cywiriad
- wedi trwy dwyll neu ddiffyg gofal priodol achosi neu gyfrannu’n sylweddol at y camgymeriad, neu
- byddai am unrhyw reswm arall yn anghyfiawn i beidio â gwneud y newidiad
Os penderfynir, ar ôl ystyried yr uchod, bod gan y llys neu’r cofrestrydd bŵer i gywiro’r gofrestr, rhaid cwblhau’r cywiriad oni bai bod amgylchiadau eithriadol sy’n cyfiawnhau peidio â gwneud y newidiad.
Mae adran 131(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cadarnhau “land is in the possession of the proprietor of a registered estate in land if it is physically in his possession, or in that of a person who is entitled to be registered as the proprietor of the registered estate”. Bydd y cwestiwn a yw tir ym meddiant ffisegol parti mewn achos penodol yn dibynnu ar natur y tir a’r defnydd a wneir o’r tir gan, neu ar ran, y parti hwnnw.
Mae adran 131(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn nodi sefyllfaoedd penodol lle gellir priodoli meddiant gan barti arall i’r perchennog cofrestredig, sef:
- gellir priodoli meddiant gan denant i’w landlord
- gellir priodoli meddiant gan forgeisai i’w forgeisiwr
- gellir priodoli meddiant gan drwyddedai i’w drwyddedwr
- gellir priodoli meddiant gan fuddiolwr i’w ymddiriedolwr
4.2 Indemniad statudol
Mae’r cynllun indemniad statudol yn indemnio unrhyw un sy’n dioddef colled oherwydd:
- cywiriad o’r gofrestr
- camgymeriad yn y gofrestr y gellid bod wedi ei gywiro ond na chafodd ei gywiro
- camgymeriad yn y gofrestr cyn iddo gael ei gywiro
Os daw parti o fewn unrhyw un o’r categorïau uchod, mae ganddo hawl (yn amodol ar eithriadau penodol) i gael ei indemnio gan y cofrestrydd am unrhyw golledion a achoswyd. Mae’r adran ganlynol yn rhoi ychydig o wybodaeth ychwanegol ynghylch hawliadau indemniad sy’n ymwneud â chostau a threuliau cyfreithiol. Mae rhagor o wybodaeth am hawliadau indemniad yn gyffredinol, gan gynnwys sut yr asesir hawliadau ac unrhyw eithriadau i’r hawl i indemniad, i’w chael yng nghyfarwyddyd ymarfer 39: cywiro ac indemniad.
5. Costau mewn achosion newidiad
Gall parti sy’n dioddef colled oherwydd newidiad yn y gofrestr hawlio costau a threuliau. Yn dibynnu ar natur y newidiad, gall taliad fod yn ôl disgresiwn y cofrestrydd (achosion heb fod yn gywiriad) neu oherwydd hawl y parti i indemniad statudol (achosion cywiriad).
Yn y ddau achos, gwneir taliad dim ond ar gyfer costau neu dreuliau a dalwyd yn rhesymol gan yr hawlydd.
Gellir gwneud hawliad trwy lythyr, a dylai gynnwys (i’r graddau nad yw eisoes wedi ei ddarparu mewn cysylltiad â chais am gydsyniad):
- manylion y newidiad a wnaed i’r gofrestr
- manylion y costau a’r treuliau a hawlir a sail y cyfrifiad, ynghyd ag anfonebau neu dderbynebau ategol lle bo’n briodol, ac
- (os caiff ei wneud mewn perthynas â newidiad heb fod yn gywiriad) esboniad ynghylch pam y dylai’r cofrestrydd ei dalu o dan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002
5.1 Achosion cywiriad
Mae paragraff 1(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cadarnhau bod “[a] person is entitled to be indemnified by the registrar if he suffers loss by reason of…” cywiriad o’r gofrestr neu gamgymeriad y byddai ei gywiriad yn cynnwys cywiro’r gofrestr. Yn ogystal â thaliad am golledion sylweddol, caiff person hefyd hawlio indemniad ar gyfer y costau a threuliau a dalwyd o ganlyniad i’r cywiriad.
Fel rheol, bydd angen cydsyniad y cofrestrydd ymlaen llaw cyn talu costau neu dreuliau o’r fath, ac eithrio lle mae’n ymddangos i’r cofrestrydd bod yn rhaid talu’r costau neu dreuliau ar fyrder ac nad oedd yn rhesymol ymarferol i wneud cais i’r parti gael cydsyniad y cofrestrydd. Mewn amgylchiadau o’r fath, byddem yn dal i ddisgwyl i’r hawlydd gysylltu â ni cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (hyd yn oed os yw hyn ar ôl talu’r costau perthnasol).
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch hawliadau indemniad sy’n codi o ganlyniad i gywiriad yng nghyfarwyddyd ymarfer 39: cywiro ac indemniad.
5.2 Achosion heb fod yn gywiriad
Os caiff y gofrestr ei newid mewn achos nad yw’n cynnwys cywiriad, mae gan y cofrestrydd y pŵer i wneud taliad yn ôl disgresiwn mewn perthynas ag unrhyw gostau neu dreuliau a dalwyd yn rhesymol mewn cysylltiad â’r newidiad.
Fel mewn achosion cywiriad, fel rheol, bydd angen cydsyniad ymlaen llaw y cofrestrydd cyn talu costau neu dreuliau o’r fath ac eithrio lle mae’r cofrestrydd yn ystyried y bu’n rhaid talu’r costau neu dreuliau ar fyrder ac nad oedd yn rhesymol ymarferol i wneud cais i’r parti gael cydsyniad y cofrestrydd (paragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
6. Newidiad a thwyll
Gellir gwneud cais i newid y gofrestr o ganlyniad i gamgymeriad yn y gofrestr oherwydd twyll teitl cofrestredig. Er mai anaml y ceir achosion o dwyll teitl cofrestredig, gallant gael effaith fawr ar y rhai yr effeithir arnynt.
Gall perchnogion eiddo gymryd camau i leihau’r risg o ddioddef twyll, megis cofrestru ar gyfer gwasanaeth Property Alert Cofrestrfa Tir EF.
Cysylltwch â’n tîm twyll eiddo os ydych o’r farn eich bod wedi dioddef twyll eiddo.
Tîm twyll eiddo Cofrestrfa Tir EF
reportafraud@landregistry.gov.uk
Ffôn: 0300 006 7030
Dydd Llun – Dydd Iau, 8am i 5pm
Gallwch hefyd:
- gael cyngor gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu gynghorydd cyfreithiol annibynnol
- rhoi gwybod i Action Fraud
7. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.