Ffurflen

Sut i gofrestru fel busnes sy'n gwerthu cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) amatur

Diweddarwyd 30 September 2022

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Pwy sy’n gorfod cofrestru

Rhaid i werthwyr cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) amatur ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) gofrestru gyda’r ffurflen hon. Nid yw PPPs amatur wedi’u bwriadu ar gyfer dibenion proffesiynol a does dim angen ardystiad ar ddefnyddwyr amatur i’w taenu.

Does dim angen i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw gofrestru gyda’r ffurflen hon.

Sut i gofrestru

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen i gofrestru fel gwerthwr cynhyrchion diogelu planhigion amatur.

Lawrlwytho’r ffurflen

Mae’r ffurflen ar fformat taenlen. Mae angen meddalwedd taenlen fel Microsoft Excel, LibreOffice neu Mac OS Numbers ar eich dyfais i agor a llenwi’r ffurflen.

Mae’r ffurflen ar gael mewn 2 wahanol fath o ffeiliau:

  • Fformat OpenDocument (.ods)
  • Fformat Excel (.xlsx)

Os ydych chi’n defnyddio dyfais Apple a bod gennych chi OpenOffice neu LibreOffice, defnyddiwch y math o ffeil OpenDocument (.ods). Os ydych chi’n defnyddio Numbers, bydd angen ichi allforio a chadw eich ffeil orffenedig ar fformat Excel (.xls neu .xlsx) neu OpenDocument (.ods.)

Gwerthu PPPs amatur

Mae’r ffurflen yn gofyn ichi amcangyfrif faint o PPPs amatur rydych chi’n eu gwerthu mewn blwyddyn arferol.

Os yw’r swm rydych chi’n ei werthu yn newid o flwyddyn i flwyddyn, nodwch swm y byddech yn ei werthu mewn blwyddyn arferol. Os ydych chi’n gwerthu PPPs yn ystod rhai blynyddoedd ond nid eraill, rhowch y swm nodweddiadol y byddech yn ei werthu mewn blwyddyn rydych chi’n ei wneud.

Dychwelyd y ffurflen

Ar ôl ei llenwi, cadwch y ffurflen fel ffeil OpenDocument (.ods) neu Excel (.xls neu .xlsx).

Ebostiwch eich ffeil .ods, .xls neu .xlsx i GB-OCR-amateur@defra.gov.uk.

Dim ond ffurflenni sydd wedi’u cadw yn y fformatau hyn y gall Defra eu prosesu. Os anfonwch chi’ch eich ffurflen mewn fformat ffeil gwahanol, megis dogfen PDF neu Word, ni fydd yn cael ei phrosesu a gofynnir ichi ailgyflwyno’r wybodaeth.

Os bydd eich cwmni’n cau ar ôl cofrestru, rhaid ichi roi gwybod i GB-OCR-closures@defra.gov.uk.

Help gyda’r ffurflen

I gael help gyda’r ffurflen, gallwch:

  • ebostio: defra.helpline@defra.gov.uk (defnyddiwch y llinell bwnc ‘Ymholiad cofrestru OCR-PPP’)
  • ffonio’r llinell gymorth: 03459 33 55 77

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm.

Gwybodaeth am daliadau am alwadau (yn Saesneg).

I gysylltu â Defra ynghylch cwyn, dilynwch y weithdrefn gwyno (yn Saesneg).