Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer One Health

Diweddarwyd 24 May 2024

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Gan bwy y mae eich data’n cael eu casglu

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

Pa ddata personol sy’n cael eu casglu

Mae APHA yn cynnal cyfres o gynlluniau gwyliadwriaeth a monitro clefydau mewn da byw sy’n cynnwys:

  • rheolaethau bwyd anifeiliaid
  • defnyddio meddyginiaeth filfeddygol ar ffermydd
  • rheoli, ac os bydd angen, dileu cyfres o glefydau:
    • Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy, er enghraifft BSE (“clefyd y gwartheg gwallgof”) a chlefyd y crafu

    • Salmonela a all achosi clefyd mewn pobl a dofednod drwy weithredu Rhaglenni Rheoli Cenedlaethol
    • unrhyw glefydau eraill y gellir eu trosglwyddo o anifeiliaid i bobl (milheintiau)
  • rhoi mesurau lliniaru ar waith mewn unrhyw ddigwyddiad lle ceir halogiad cemegol ar fferm

Byddwn yn casglu gwybodaeth sy’n ein galluogi i gymeradwyo, cofrestru, archwilio, samplu a chyflawni mesurau rheoli, fel y bo’n briodol. Diben hyn yw sicrhau diogelwch y gadwyn fwyd a bwyd anifeiliaid, i gefnogi’r fasnach ryngwladol mewn bwyd a bwyd anifeiliaid er mwyn sicrhau bod cynlluniau ar waith i liniaru achosion o glefydau hysbysadwy.

Mewn rhai achosion, lle bydd APHA yn codi tâl neu’n bilio, gellir cadw data ariannol hefyd.

Lle bo’n ofynnol yn ôl y gyfraith, gall data gael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU neu wefan yr UE. Gall data gael eu defnyddio hefyd at ddibenion ymchwil pan fydd yn cydymffurfio â’r GDPR.

Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn gov.uk/apha.

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Mae eich data yn ein galluogi i gymeradwyo, cofrestru, archwilio, samplu a chyflawni mesurau rheoli, fel y bo’n briodol. Diben hyn yw sicrhau diogelwch y gadwyn fwyd a bwyd anifeiliaid, i gefnogi’r fasnach ryngwladol mewn bwyd a bwyd anifeiliaid er mwyn sicrhau bod cynlluniau ar waith i liniaru achosion o glefydau hysbysadwy.

Mewn rhai achosion, lle bydd APHA yn codi tâl neu’n bilio, gellir cadw data ariannol hefyd.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Ymhlith y seiliau cyfreithiol dros brosesu data mae’r canlynol:

  • Cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr
  • Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol sydd gan y rheolwr

Canlyniadau peidio â rhoi data personol

At ddibenion statudol a budd y cyhoedd, mae angen darparu data fel y nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol.

I gael rhestr gyfredol o’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r clefydau hyn ewch i legislation.gov.uk/cy.

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.

Gallwn rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol DU (GDPR DU)
  • Deddf Diogelu Data 2018 y DU
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.

Storio a defnyddio data y tu allan i’r DU

Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Yn bennaf, ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Ar achlysuron prin, pan fydd yn gyfreithlon ac yn ategu’r gwaith a gyflawnir gennym er budd y cyhoedd, mae’n bosibl y caiff data ymchwil eu trosglwyddo’n ddiogel y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol

Bydd yr holl wybodaeth a ddelir o fewn APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.

O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:

  • apêl
  • gweithgarwch archwilio
  • cwyn
  • afreoleidd-dra
  • camau cyfreithiol
  • cais ffurfiol am wybodaeth
  • os yw’n gosod cynsail
  • at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler hefyd Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion gwaith prosesu data personol Defra.