Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer Cofrestru Ceidwaid Da Byw

Diweddarwyd 24 May 2024

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Mae eich data’n cael eu casglu gan

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

Pa ddata personol sy’n cael eu casglu

Mae gan APHA ddyletswydd statudol i gofrestru manylion personol ceidwaid rhywogaethau amrywiol o dda byw (gwartheg, defaid, geifr, moch, ceirw, dofednod), manylion y mathau o anifeiliaid a’r system gynhyrchu a’r daliadau lle y’u cedwir. Mae angen cymeradwyaeth neu drwydded gan APHA ar gyfer rhai arferion gweithredu. Mewn rhai achosion, lle bydd APHA yn codi tâl neu’n bilio, gellir cadw data ariannol hefyd.

Mae’r data hyn yn ategu dyletswydd ehangach y llywodraeth i gefnogi’r broses o gofrestru anifeiliaid unigol ac adrodd am symudiadau, yn ôl y rhywogaethau.

Mae APHA hefyd yn cofrestru buchesi, heidiau ac unigolion o rywogaethau eraill, lle bo angen.

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Caiff data mewn perthynas â phob rhywogaeth eu casglu a’u storio i gefnogi swyddogaethau trawsbynciol APHA i hyrwyddo’r gwaith o leihau’r risg i iechyd a lles anifeiliaid, i fonitro ar gyfer pob statws, i gymryd camau gweithredu i reoli’r rhain lle bo angen, ac i lywio’r broses o lunio polisïau.

Gellid defnyddio gwybodaeth a ddarperir gennych i gadarnhau a ydych yn gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth i’r farchnad yn y dyfodol (er enghraifft, cymorth ariannol neu fuddiannau eraill) os cânt eu rhoi ar waith. Gellir hefyd ei defnyddio i bennu faint o gymorth a’r math o gymorth y byddwch yn ei gael. Os nad ydych yn cyflwyno’ch Rhestr Flynyddol, dylech fod yn ymwybodol y gellir eich eithrio o gynlluniau cymorth i’r farchnad yn y dyfodol.

Lle bo’n ofynnol yn ôl y gyfraith, gall data gael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU neu wefan yr UE. Gall data gael eu defnyddio hefyd at ddibenion ymchwil pan fyddant yn cydymffurfio â GDPR y DU.

Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn gov.uk/apha.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Ymhlith y seiliau cyfreithiol dros brosesu data mae’r canlynol:

  • cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr
  • cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol sydd gan y rheolwr

Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol

Mae gofyniad cyfreithiol arnoch i ddarparu data personol. Mae cadw anifeiliaid yn golygu bod gan y ceidwad gyfrifoldeb cyfreithiol am eu hiechyd a’u lles, gan gynnwys gofyniad cyfreithiol i roi gwybod am unrhyw achos a amheuir o glefyd hysbysadwy i’r awdurdod cymwys. Mae angen darparu data personol, fel enw a chyfeiriad y ceidwad er mwyn galluogi APHA i gyflawni dyletswyddau swyddogol i gadw at ddeddfwriaeth o’r fath.

Canlyniadau peidio â rhoi’r data angenrheidiol

At ddibenion statudol a budd y cyhoedd, mae angen darparu data fel y nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol.

I gael rhestr gyfredol o’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r clefydau hyn ewch i legislation.gov.uk/cy.

Data personol a ddefnyddir i wneud penderfyniadau awtomataidd

Nid yw’r wybodaeth a roddir gennych yn gysylltiedig â gwneud penderfyniadau unigol, hynny yw gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd yn unig heb i unrhyw bobl fod yn rhan o’r broses.

Data personol a ddefnyddir ar gyfer ‘proffilio’ penderfyniadau a wneir yn awtomataidd a chanlyniadau hyn

Nid yw’r wybodaeth a roddir gennych yn gysylltiedig â phroffilio, hynny yw prosesu data personol yn awtomataidd er mwyn gwerthuso pethau penodol ynglŷn ag unigolyn. Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol arbennig o sensitif.

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.

Gallwn rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU)
  • Deddf Diogelu Data 2018 y DU
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.

Storio a defnyddio data personol y tu allan i’r DU

Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Yn bennaf, ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Ar achlysuron prin, pan fydd yn gyfreithlon ac yn ategu’r gwaith a gyflawnir gennym er budd y cyhoedd, mae’n bosibl y caiff data ymchwil eu trosglwyddo’n ddiogel y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol

Bydd yr holl wybodaeth a ddelir o fewn APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.

O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:

  • apêl
  • gweithgarwch archwilio
  • cwyn
  • afreoleidd-dra
  • camau cyfreithiol
  • cais ffurfiol am wybodaeth
  • os yw’n gosod cynsail
  • at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data), ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion gwaith prosesu data personol APHA.