Canllawiau

Hysbysiad Preifatrwydd APHA ar gyfer Milfeddygon Swyddogol, Paraweithwyr Iechyd Anifeiliaid Proffesiynol a Swyddogion Ardystio Cymwys ym Maes Bwyd sy'n destun ymchwiliad

Diweddarwyd 24 May 2024

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gyfer milfeddygon swyddogol, paraweithwyr iechyd anifeiliaid proffesiynol a swyddogion ardystio cymwys ym maes bwyd, y mae eu hymddygiad yn destun ymchwiliad gan APHA

Ceir hysbysiadau preifatrwydd sy’n ymwneud â thystion a’r gwaith arferol o gasglu data personol yn GOV.UK.

Mae eich data’n cael eu casglu gan

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra.  Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.  

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am filfeddygon swyddogol, paraweithwyr iechyd anifeiliaid proffesiynol a swyddogion ardystio cymwys ym maes bwyd neu eu rôl, cysylltwch â csconehealthovteam@apha.gov.uk

Pa ddata personol sy’n cael eu casglu 

Efallai y byddwn yn casglu’r data personol canlynol sy’n ymwneud â chi pan fydd eu hangen ar gyfer ymchwiliad:

  • manylion cyswllt personol megis enw, teitl, cyfeiriadau, rhifau ffôn, a chyfeiriadau e-bost personol
  • manylion y gwaith rydych wedi’i wneud ar ran APHA
  • manylion achosion o gamymddwyn a throseddau honedig neu wirioneddol

Byddwn hefyd yn cadw datganiadau a wnaed mewn perthynas ag ymchwiliadau. Gallai hyn gynnwys trawsgrifiadau a recordiadau fideo.

Sut y cafwyd eich data

Gall APHA gael eich data personol gan/o:

  • ffynonellau nad ydynt ar gael i’r cyhoedd; er enghraifft, cronfa ddata fewnol APHA, system TG Sam ar gyfer cyflwyno gwaith ar-lein a chronfeydd data ‘Improve International’ Milfeddygon Swyddogol a Pharaweithwyr Iechyd Anifeiliaid Proffesiynol
  • unrhyw wefannau sy’n agored i unrhyw un. Gelwir hyn yn ‘ddeunydd ffynhonnell agored’ ac mae’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, wefannau adroddiadau newyddion, Tŷ’r Cwmnïau, cofnodion y Gofrestrfa Tir, blogiau a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd ar waith
  • cyflogeion APHA ac unrhyw unigolion eraill a all roi gwybodaeth i APHA am y gwaith rydych wedi’i wneud ar ran APHA neu unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i ymchwiliad

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Diben prosesu eich data personol yw ymchwilio a chymryd camau rheoleiddio yn unol â’r Polisi Awdurdodi Perthnasol, fel a ganlyn:

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Dyma’r seiliau cyfreithiol dros brosesu eich data:

  • pan fo unigolyn yn gweithio mewn rôl o ganlyniad i gontract, gan gynnwys contract cyflogaeth a chytundeb sy’n gyfystyr â chontract, (Erthygl 6(1)(b) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data)
  • mewn perthynas â chyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd (Erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data)

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Gall APHA rannu eich data â’r canlynol cyrff gorfodi’r gyfraith neu gyrff rheoleiddio. Ar gyfer milfeddygon swyddogol, mae hyn yn cynnwys Coleg Brenhinol y Milfeddygon.

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol

Y cyfnod cadw ar gyfer yr holl ddata sy’n ymwneud â’r ymchwiliad yw 10 mlynedd o’r dyddiad y daw achos yr ymchwiliad i ben yn ffurfiol – naill ai’r dyddiad yr anfonir llythyr Penderfynu’r Panel Adolygu (OV50) neu, os cyflwynir apêl, ganlyniad y dyddiad y cewch eich hysbysu am yr apêl honno.

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras sut mae APHA yn prosesu data personol.