Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer Masnach Ryngwladol

Diweddarwyd 24 May 2024

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Mae eich data’n cael eu casglu gan

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

Pa ddata personol sy’n cael eu casglu

Un o ofynion statudol APHA yw casglu data personol er mwyn darparu tystysgrifau, trwyddedau, cymeradwyaethau safleoedd a chofrestriadau safleoedd ar gyfer Masnach Ryngwladol o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ac ar gyfer mewnforion o wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE. Yn ogystal, ar gyfer CITES, cesglir data personol i brosesu ceisiadau o dan Reoliad Cyngor yr UE 338/97 a Rheoliad y Comisiwn 865/2006 ac o dan adran 7 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ar gyfer Cofrestru Adar.

Nid oes gofyniad statudol i APHA gasglu data personol i ddarparu tystysgrifau allforio ar gyfer anifeiliaid byw a chynhyrchion o darddiad anifeiliaid ar gyfer masnach nad yw’n dod o wledydd yr UE. Cesglir data personol wrth gyflawni’r ddyletswydd hon i hwyluso masnach nad yw’n dod o wledydd yr UE gan fod disgwyl i fanylion personol gael eu cynnwys yn y dystysgrif allforio i fodloni gofynion mewnforio Awdurdodau Milfeddygol Cymwys gwledydd nad ydynt yn yr UE.

Sut y cafwyd eich data

Gall eich data gael eu darparu i APHA gan asiant sy’n gweithredu ar eich rhan wrth wneud cais am dystysgrif allforio neu gan rywun sy’n gyfrifol am fewnforio llwyth ac sy’n gweithredu fel mewnforiwr ar eich rhan.

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Caiff eich data eu casglu at ddibenion rhoi tystysgrifau, trwyddedau, cymeradwyaethau a chofrestriadau safleoedd fel modd i hwyluso Masnach Ryngwladol â’r Undeb Ewropeaidd a gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Lle bo’n ofynnol yn ôl y gyfraith, gall data gael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU neu wefan yr UE.

Lle bo’n ofynnol yn ôl y gyfraith, gall data gael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU neu wefan yr UE.

Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion - GOV.UK (gov.uk/apha).

Ymhlith y seiliau cyfreithiol dros brosesu data mae’r canlynol:

  • cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr
  • cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol sydd gan y rheolwr
  • cyflawni contract y mae’r gwrthrych data yn rhan ohono neu er mwyn cymryd camau ar gais testun y data cyn ymrwymo i gontract
  • rydych wedi cydsynio i ni brosesu eich data at un neu fwy o ddibenion penodedig

Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol

Mae’n ofyniad statudol casglu eich data er mwyn galluogi APHA i roi tystysgrifau, a thrwyddedau, a chymeradwyo a chofrestru safleoedd er mwyn hwyluso Masnach Ryngwladol â’r Undeb Ewropeaidd a galluogi APHA i roi trwyddedau i fewnforio o wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE. Nid yw’n ofyniad statudol i chi ddarparu data personol er mwyn i APHA roi tystysgrif allforio ar gyfer masnach ryngwladol i wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE, ond mae’n ofyniad ar Awdurdod Cymwys y gyrchfan yn ystod gweithdrefn ardystio eich llwyth allforio, gan ei gwneud yn bosibl i’ch llwyth fodloni gofynion mewnforio Awdurdod Cymwys y gyrchfan.

Canlyniadau peidio â rhoi’r data angenrheidiol

At ddibenion statudol a budd y cyhoedd, mae angen darparu data fel y nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol.

I gael rhestr gyfredol o’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli Masnach Ryngwladol, ewch i legislation.gov.uk/cy.

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.

Gallwn rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Food Standards Scotland, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
  • Deddf Diogelu Data 2018 y DU
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.

Storio a defnyddio data personol y tu allan i’r DU

Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Yn bennaf, ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Ar achlysuron prin, pan fydd yn gyfreithlon ac yn ategu’r gwaith a gyflawnir gennym er budd y cyhoedd, mae’n bosibl y caiff data ymchwil eu trosglwyddo’n ddiogel y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol

Bydd yr holl wybodaeth a ddelir gan APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.

O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:

  • apêl
  • gweithgarwch archwilio
  • cwyn
  • afreoleidd-dra
  • camau cyfreithiol
  • cais ffurfiol am wybodaeth
  • os yw’n gosod cynsail
  • at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion gwaith prosesu data personol APHA.