Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid
Diweddarwyd 30 September 2024
Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland
Gan bwy y mae eich data’n cael eu casglu
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.
Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.
Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.
Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.
Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu
Cesglir data personol sy’n ymwneud â chymeradwyo / cofrestru busnesau sgil-gynhyrchion anifeiliaid er mwyn asesu cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaeth yr UE a gedwir EC1069/2009 ac EU142/2011. Mae’r data hyn yn sail i’r cais cymeradwyo/cofrestru ac fe’u defnyddir i gefnogi arolygiadau parhaus ar sail risg o’r gweithrediad.
Defnyddir Camera Fideo a Wisgir ar y Corff o bosibl yn ôl yr angen er mwyn diogelu cwsmeriaid a chyflogeion APHA.
Mae Erthygl 47 o ddeddfwriaeth yr UE a gedwir EC1069/2009 (rheoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid) yn ei gwneud yn ofynnol i aelod-wladwriaethau gynnal rhestr o sefydliadau, gweithfeydd a gweithredwyr sydd wedi cael eu cymeradwyo neu eu cofrestru. Mae dogfen manyleb dechnegol (SANCO/7177/2010/diw2) yn nodi’r data y mae angen eu harddangos ac yn cynnwys rhif cymeradwyo neu gofrestru y gweithredwr, Enw, Cyfeiriad (tref neu ranbarth), categori y sgil-gynhyrchion anifeiliaid yr ymdrinnir â hwy, y gweithgarwch cymeradwy neu gofrestredig a natur y cynnyrch a gynhyrchir.
Mae’r erthygl yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth fod ar gael i’r Comisiwn ac aelod-wladwriaethau eraill ac mae ar gael ar wefan APHA.
Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion - GOV.UK (gov.uk/apha).
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data
Ymhlith yr enghreifftiau o sail gyfreithiol dros brosesu data mae:
- Mae prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freinir yn y rheolydd
- Mae prosesu yn angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’n ofynnol i’r rheolydd gydymffurfio â hi
Canlyniadau peidio â rhoi data personol
At ddibenion statudol a budd y cyhoedd, mae angen darparu data fel y nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol.
I gael rhestr gyfredol o’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r gweithrediadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid hyn ewch i legislation.gov.uk/cy.
Data personol a ddefnyddir i wneud penderfyniadau awtomataidd
Nid yw’r wybodaeth a roddir gennych yn gysylltiedig â’r canlynol:
- gwneud penderfyniadau unigol, hynny yw gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd yn unig heb i unrhyw bobl fod yn rhan o’r broses
- neu broffilio, hynny yw prosesu data personol yn awtomataidd er mwyn gwerthuso pethau penodol ynglŷn ag unigolyn Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol arbennig o sensitif
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data
Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.
Gallwn rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.
Mae’n bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
- Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol DU (GDPR DU)
- Deddf Diogelu Data 2018 y DU
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
- Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.
Storio a defnyddio data y tu allan i’r DU
Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.
Ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r DU. Ar achlysuron prin, pan fydd yn gyfreithlon ac yn ategu’r gwaith a gyflawnir gennym er budd y cyhoedd, mae’n bosibl y caiff data ymchwil eu trosglwyddo’n ddiogel y tu allan i’r DU.
Am ba hyd y byddwn yn cadw data personol
Bydd yr holl wybodaeth a ddelir o fewn APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.
O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:
- apêl
- gweithgarwch archwilio
- cwyn
- afreoleidd-dra
- camau cyfreithiol
- cais ffurfiol am wybodaeth
- os yw’n gosod cynsail
- at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol
Eich hawliau
Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.
Cwynion
Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.
Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA
Gweler hefyd Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion prosesu data personol Defra.