Hysbysiad preifatrwydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
Diweddarwyd 30 September 2024
Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland
Mae eich data’n cael eu casglu gan
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Mae APHA yn un o Asiantaethau Gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.
Mae APHA hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, sy’n rheolyddion ar y cyd ag APHA ar gyfer unrhyw ddata personol perthnasol.
Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.
Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.
Pa ddata personol sy’n cael eu casglu
Mae hysbysiadau preifatrwydd unigol APHA neu’r ddogfennaeth sy’n casglu data personol yn nodi’n glir pa ddata personol a gesglir.
Sut y cafwyd eich data
Rydym wedi cael eich data naill ai’n uniongyrchol gennych chi neu gan drydydd parti. Mae hysbysiadau preifatrwydd unigol APHA neu’r ddogfennaeth sy’n casglu data personol yn nodi’n glir sut y cafwyd eich data mewn unrhyw achos penodol.
Pam y mae APHA yn defnyddio eich data
Caiff data personol eu casglu a’u storio i gefnogi swyddogaethau APHA sy’n cynnwys:
- nodi a rheoli clefydau endemig ac egsotig a phlâu mewn anifeiliaid, planhigion a gwenyn, a chadw golwg ar blâu a chlefydau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg
- ymchwil wyddonol
- hwyluso masnachu rhyngwladol mewn anifeiliaid, cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid, a phlanhigion
- diogelu bywyd gwyllt mewn perygl drwy drwyddedu a chofrestru
- diogelu iechyd a lles anifeiliaid; a gwarchod iechyd dynol lle y bo’n berthnasol (milheintiau)
- rheoli rhaglen sy’n cynnwys archwilio gwenynfeydd, diagnosteg, ymchwil a datblygu a hyfforddiant a chyngor
- rheoleiddio’r gwaith o waredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn ddiogel er mwyn lleihau’r risg y bydd sylweddau a allai fod yn beryglus yn ymuno â’r gadwyn fwyd
- data cyflogeion sy’n angenrheidiol i gefnogi’r gwaith o reoli staff
- diogelu cyflogeion, is-gontractwyr a chwsmeriaid (gall hyn gynnwys defnydd cyfyngedig iawn o Gamera Fideo a Wisgir ar y Corff yn ôl yr angen)
- ar gyfer swyddogaethau statudol APHA mewn perthynas â bioddiogelwch planhigion; rhyddhau organebau a addaswyd yn enetig yn amgylcheddol; a rheoli rhywogaethau anfrodorol ac ymledol. Yn benodol ar gyfer plâu a chlefydau hysbysadwy, rheolaethau mewnforion ac allforion, hyfforddiant ac at ddibenion monitro diogelwch bwyd statudol.
Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion .
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data
Ymhlith y seiliau cyfreithiol dros brosesu data mae’r canlynol:
- cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd
- cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol sydd gan y rheolydd
- cyflawni contract y mae testun y data yn rhan ohono neu er mwyn cymryd camau ar gais testun y data cyn ymrwymo i gontract
- rydych wedi rhoi caniatâd i ni brosesu eich data at un neu fwy o ddibenion penodedig
Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion .
Cydsyniad i brosesu eich data
Os mai eich cydsyniad chi yw’r sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol, gallwch ymeithrio unrhyw bryd a bydd manylion ynglŷn â sut y gallwch wneud hynny ar gael i chi gan y tîm sy’n prosesu eich data personol.
Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol
Weithiau bydd APHA yn gofyn i chi, ar sail gyfreithiol neu ar sail gytundebol, i rannu data personol. Bydd yr hysbysiadau preifatrwydd perthnasol yn nodi’r sefyllfaoedd hyn yn glir.
Canlyniadau peidio â rhoi’r data angenrheidiol
At ddibenion statudol a budd y cyhoedd, mae angen darparu data fel y nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol.
Ar gyfer gweithgareddau prosesu sy’n seiliedig ar gontract, byddwch yn ymrwymo i gontract â ni yn wirfoddol a bydd gwybodaeth angenrheidiol yn cael ei darparu er mwyn cyflawni’r berthynas gytundebol honno.
Ar gyfer gweithgareddau prosesu sy’n seiliedig ar gydsyniad, mae gennych hawl i dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl unrhyw bryd.
Data personol a ddefnyddir i wneud penderfyniadau awtomataidd
Nid yw’r wybodaeth a ddarperir gennych yn gysylltiedig â gwneud penderfyniadau unigol, hynny yw gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd yn unig heb i unrhyw bobl fod yn rhan o’r broses.
Data personol a ddefnyddir ar gyfer ‘proffilio’ awtomataidd a chanlyniadau hyn
Nid yw’r wybodaeth a ddarperir gennych yn gysylltiedig â phroffilio, hynny yw prosesu data personol yn awtomataidd er mwyn gwerthuso pethau penodol ynglŷn ag unigolyn
Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data
Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a swyddogaethau rheoliadol a gorfodi.
Gallwn rannu data â Defra a’i asiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi swyddogol eraill.
Gallwn rannu data â sefydliadau eraill sy’n gweithio ar ein rhan er mwyn galluogi i ni gyflawni ein dyletswyddau.
Mae’n bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
- Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
- Deddf Diogelu Data 2018 y DU
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
- Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.
Storio a defnyddio data personol y tu allan i’r DU
Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.
Ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r DU. Ar achlysuron prin, pan fydd yn gyfreithlon ac yn ategu’r gwaith a gyflawnir gennym er budd y cyhoedd, mae’n bosibl y caiff data ymchwil eu trosglwyddo’n ddiogel y tu allan i’r DU.
Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol
Bydd yr holl wybodaeth a ddelir gan APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.
O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:
- apêl
- gweithgarwch archwilio
- cwyn
- afreoleidd-dra
- camau cyfreithiol
- cais ffurfiol am wybodaeth
- os yw’n gosod cynsail
- at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol
Eich hawliau
Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.
Cwynion
Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data), ar unrhyw adeg.
Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA
Gweler Siarter gwybodaeth bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion gwaith prosesu data personol APHA.