Canllawiau

Hysbysiad Preifatrwydd APHA ar gyfer Milfeddygon Swyddogol, Paraweithwyr Iechyd Anifeiliaid Proffesiynol a Swyddogion Ardystio Cymwys ym maes Bwyd – Prosesu arferol data personol

Diweddarwyd 24 May 2024

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Mae a wnelo’r hysbysiad preifatrwydd hwn â phrosesu arferol data personol mewn perthynas â’ch rôl fel milfeddyg swyddogol, paraweithiwr iechyd anifeiliaid proffesiynol neu swyddog ardystio cymwys ym maes bwyd. 

Ceir yr hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer prosesu data personol sy’n ymwneud â milfeddygon swyddogol, paraweithwyr iechyd anifeiliaid proffesiynol a swyddogion ardystio cymwys ym maes bwyd mewn perthynas ag ymchwiliadau i’w hymddygiad a data personol sy’n ymwneud â thystion mewn ymchwiliadau o’r fath yn rhan APHA o GOV.UK.

Mae eich data’n cael eu casglu gan

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra.  Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.

Mae APHA hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, sy’n rheolyddion ar y cyd ag APHA ar gyfer unrhyw ddata personol perthnasol.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am filfeddygon swyddogol, paraweithwyr iechyd anifeiliaid proffesiynol a swyddogion ardystio cymwys ym maes bwyd neu eu rôl, cysylltwch â csconehealthovteam@apha.gov.uk.

Pa ddata personol sy’n cael eu casglu

Rydym yn casglu’r eitemau canlynol o ddata personol:

  • eich enw, eich cyfeiriad post a’ch manylion cyswllt
  • eich cenedligrwydd
  • manylion eich cyflogwr
  • eich cymwysterau milfeddygol proffesiynol a hyfforddiant milfeddyg swyddogol,  paraweithiwr iechyd anifeiliaid proffesiynol a swyddog ardystio cymwys ym maes bwyd a gafwyd – mae hyn yn cynnwys manylion aelodaeth o Goleg Brenhinol y Milfeddygon
  • unrhyw fanylion am ymchwiliadau a materion disgyblu sy’n ymwneud â gwaith a wnaed ar ran Defra

Sut y cafwyd eich data

Gall APHA gael eich data personol gan/o:

  • ffynonellau nad ydynt ar gael i’r cyhoedd – er enghraifft, cronfa ddata TG fewnol APHA (Sam) a chronfeydd data ‘Improve International’ Milfeddygon Swyddogol a Pharaweithwyr Iechyd Anifeiliaid Proffesiynol
  • unrhyw wefannau sy’n agored i unrhyw un – gelwir hyn yn ‘ddeunydd ffynhonnell agored’ ac mae’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, wefannau adroddiadau newyddion, Tŷ’r Cwmnïau, cofnodion y Gofrestrfa Tir, blogiau a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd ar waith
  • cyflogeion APHA ac unrhyw unigolion eraill a all roi gwybodaeth i APHA am y gwaith rydych wedi’i wneud ar ran APHA

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Diben casglu a phrosesu eich data personol yw eich awdurdodi i wneud gwaith ar ran APHA a Defra. Mae’n bosibl y bydd angen i ni gymryd camau rheoleiddio hefyd yn unol â’r Polisi Awdurdodi perthnasol, fel a ganlyn:

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Dyma’r seiliau cyfreithiol dros brosesu eich data:

  • pan fo unigolyn yn gweithio mewn rôl o ganlyniad i gontract, gan gynnwys contract cyflogaeth a chytundeb sy’n gyfystyr â chontract, (Erthygl 6(1)(b) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data)
  • mewn perthynas â chyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd (Erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data)

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol

Caiff cyfnodau cadw eu pennu drwy ystyried rhesymau statudol, rheoleiddiol, cyfreithiol a diogelwch, ochr yn ochr â gwerth hanesyddol.

Cedwir yr holl wybodaeth yn APHA yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras sut mae APHA yn prosesu data personol.