Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd olrhain gwartheg

Diweddarwyd 29 Hydref 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Manylion am y ffordd y mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) yn casglu ac yn prosesu data personol sy’n ymwneud ag olrhain gwartheg.

1.  Diben Prosesu’r Data

1.1  Olrhain Gwartheg

System ar gyfer adnabod a chofrestru gwartheg.

2.  Pam y gallwn brosesu eich data personol

Mae’r gyfraith yn caniatáu i ni brosesu eich data personol o dan Erthygl 6 (1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU). Caniateir i ni brosesu data personol pan fydd angen i ni ymgymryd â thasg gyhoeddus.

3.  Pa ddata personol rydym yn eu prosesu

Y wybodaeth rydym yn ei chasglu ac yn ei phrosesu yw:

  • gwybodaeth gofrestru cwsmeriaid
  • manylion cyfrif banc
  • rhifau daliadau (CPH)
  • rhifau tagiau clust
  • llyfrau buchesi, cofnodlyfrau ceidwaid a chofnodion cysylltiedig
  • manylion unrhyw un sy’n gweithredu ar eich rhan, er enghraifft asiant

Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu eich data personol, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost a gaiff ei gynnwys mewn unrhyw gwestiynau neu adborth y byddwch yn eu hanfon atom. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am grantiau’r dyfodol a diweddariadau i’r polisi ffermio a fyddai’n berthnasol i chi.

4.  Eich cyfrifoldeb o ran data personol pobl eraill

Os ydych wedi cynnwys data personol am bobl eraill yn eich cofnodion, mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt. Rhaid i chi roi copi o’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod y bydd eu data personol yn cael eu defnyddio.

5.  Ble y bydd eich data personol yn cael eu storio

Rydym yn storio, yn trosglwyddo ac yn prosesu eich data personol ar ein gweinyddion yn y Deyrnas Unedig (y DU) ac yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).

6.  Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol

Byddwn yn cadw eich data am hyd oes yr anifail.

Cyfeiriwch at ein Siarter Gwybodaeth Bersonol a’r adran ‘Am faint o amser y byddwn yn cadw data’ am ragor o wybodaeth am unrhyw eithriadau posibl.

7.  Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol

Rydym yn rhannu eich data personol â’r canlynol:

  • Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
  • Gwasanaethau Ymchwilio Defra
  • Safonau Masnach
  • awdurdodau lleol
  • swyddogion allanol
  • lladd-dai
  • gwneuthurwyr tagiau clust
  • Cymdeithas Gwneuthurwyr Adnabod Da Byw Cymeradwy
  • Livestock Information Ltd
  • Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr
  • Gwasanaeth Cofnodi a Symud Anifeiliaid
  • Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (yn ogystal ag Awdurdod Gweithredol Moch Prydain)
  • Undeb Ffermwyr Ulster
  • Cyfarwyddiaeth Taliadau Gwledig ac Arolygiadau Llywodraeth yr Alban
  • Taliadau Gwledig Cymru Llywodraeth Cymru
  • Polisi Defra
  • cynlluniau gwarant fferm

8.  Eich hawliau

Darllenwch ein Siarter Gwybodaeth Bersonol i gael gwybod pa hawliau sydd gennych o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

9.  Sut i wneud cwyn

Os bydd gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r RPA yn defnyddio eich data personol, darllenwch am sut i gysylltu â ni neu am sut i wneud cwyn.