Cais am ardrethi busnes ar gyfer eiddo llety hunanddarpar (cymwys i Gymru)
Cwblhewch yr holiadur hwn a’i ddychwelyd i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) os yw eich eiddo llety hunanddarpar yng Nghymru wedi cyfarfod â’r meini prawf i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes.
Yn berthnasol i Gymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r holiadur hwn ar gyfer cwsmeriaid sydd ag eiddo llety hunanddarpar sydd wedi cwrdd â’r meini prawf ar gyfer ardrethi busnes. Dylech ond lenwi’r ffurflen hon wedi ichwi gyfarfod â phob un o’r meini prawf os gwelwch yn dda.
Medrwch gwblhau’r ffurflen hon yn ddigidol, neu eu hargraffu a’i llenwi â llaw.
Ble i anfon eich ffurflen
Wedi ichwi ei llenwi, cadwch gopi gan atodi’r copi i e-bost, a’i hanfon i specialist.rating@voa.gov.uk gan ddefnyddio “Cais am ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar yn y llinell pwnc, a’i chyflwyno.
Medrwch hefyd ddewis anfon holiadur wedi ei gwblhau drwy’r post i:
Valuation Officer
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW