Gwneud cais i fod yn ddirprwy panel
Defnyddiwch y canllawiau hyn i wneud cais i fod yn ddirprwy panel.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Ffurflen y mae angen i chi ei llenwi
Mae’r ffurflen y mae angen i chi ei llenwi yn dibynnu ar p’un a ydych yn gwneud cais fel unigolyn neu fel corfforaeth ymddiriedolaeth.
Os ydych yn gwneud cais fel unigolyn, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais dirprwy panel. Rhaid i ymgeiswyr fod yn un o’r canlynol:
- cyfreithwyr a reoleiddir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA)
- cyfrifwyr a reoleiddir gan Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW) neu Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA)
- cynghorwyr ariannol a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
- elusennau a reoleiddir gan y Comisiwn Elusennau
Os ydych chi’n gorfforaeth ymddiriedolaeth, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais Corfforaeth yr Ymddiriedolaeth.
Rhaid i chi anfon y ffurflen wedi’i llenwi at y tîm cymorth dirprwyon yn opgpaneldeputysupportteam@publicguardian.co.uk erbyn 16 Mai 2025.
Fe’ch cynghorir i gadw copi o’ch ffurflen wedi’i llenwi ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Darganfyddwch beth mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn casglu ac yn prosesu data personol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau cyhoeddus ei hun a swyddogaethau cyhoeddus cysylltiedig. Mae rhagor o wybodaeth yn yr hysbysiad preifatrwydd ar oruchwylio dirprwyon.
Os bydd eich cais i fod yn ddirprwy panel yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich rhestru ar GOV.UK yn y rhestr o weithwyr proffesiynol cymeradwy.