Arolwg Cyflog Prentisiaid 2018 i 2019: Galw am Dystiolaeth
Cyhoeddwyd 8 November 2018
Ymdrech ar y cyd rhwng llywodraethau datganoledig Cymru a’r Alban; ac Adran Addysg ac Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan yw Arolwg Cyflog Prentisiaid 2018.
Mae’r Arolwg hwn yn darparu gwybodaeth bwysig am hyfforddiant, oriau a chyflogau prentisiaid cyfredol. Mae’r canlyniadau’n ein helpu i ystyried lefelau cyflogau ledled Prydain, mesur newidiadau o gymharu â blynyddoedd blaenorol a monitro a yw cyflogwyr yn dilyn y rheolau cyflog teg. Bydd yr ymchwil yn helpu i bennu polisi cyflogau a chyflwyno gwelliannau i hyfforddiant prentisiaid.
Cwmni ymchwil annibynnol IFF Research fydd yn gwneud y gwaith ymchwil ar ein rhan.
Bydd prentisiaid dethol yn derbyn llythyr yn esbonio pwrpas yr ymchwil a phwy i gysylltu â nhw os oes ganddynt unrhyw gwestiynau pellach. Byddan nhw’n cael eu holi dros y ffôn. Bydd tua 10,000 o brentisiaid yn cymryd rhan yn yr holiadur ffôn sy’n cynnwys cwestiynau am:
- faint o oriau maen nhw’n ei dreulio’n gweithio i’w cyflogwyr, mewn wythnos arferol
- faint o oriau ychwanegol maen nhw’n treulio’n dysgu a hyfforddi ar ben eu gwaith arferol. Gallai hyn gynnwys mynd i’r coleg, dilyn cyrsiau, gweithdai neu sesiynau hyfforddi yn y gweithle neu’n allanol, dysgu yn y cartref, dysgu o lyfrau gwaith, amser gyda’u haseswyr ac amser yn llenwi portffolio
- faint o arian maen nhw’n ei ennill – yn ddelfrydol, y swm yn nhermau gros cyn unrhyw dreth, yswiriant gwladol a didyniadau eraill
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn yr arolwg yn ateb cwestiynau ychwanegol fel a ganlyn hefyd:
- eu cymhelliant dros ddilyn prentisiaeth
- natur yr hyfforddiant
- pa mor fodlon maen nhw gyda’r hyfforddiant a gawsant
- effaith y brentisiaeth ar eu gyrfaoedd a’u cynlluniau at y dyfodol
Ni fydd canlyniadau’r arolwg yn nodi unrhyw unigolyn, ac ni fyddwn yn defnyddio’r ymchwil i dargedu prentisiaid neu gyflogwyr penodol ar gyfer gweithgareddau gorfodi.
Does dim rhaid i brentisiaid gymryd rhan, ond byddem yn ddiolchgar pe bai cymaint ag sy’n bosib yn cyfrannu at yr ymchwil pwysig hwn.