Canllawiau

Beth i’w wneud wrth ymweld â chyfleuster mewndirol wrth y ffin

Diweddarwyd 20 November 2023

Cyn i chi fynd i gyfleuster mewndirol wrth y ffin (IBF)

  1. Gwiriwch pa wasanaethau sy’n cael eu cynnig ym mhob un o’n cyfleusterau mewndirol wrth y ffin. Nid yw pob cyfleuster mewndirol wrth y ffin yn cyflawni’r un swyddogaethau.

  2. Gwiriwch pa mor brysur yw cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg) cyn dechrau ar eich taith.

  3. Cadwch le i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg) — bydd cadw lle yn golygu y dylem allu delio â chi’n gynt.

Does dim rhaid i fasnachwyr sy’n defnyddio Anfonwr neu Dderbynnydd Awdurdodedig (ACC) fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin. Gall Anfonydd neu Dderbynnydd Awdurdodedig ddechrau symudiad cludo nwyddau, a dod ag ef i ben, ar ei safle ei hun.

Mae ond angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin os ydych yn teithio drwy Borthladd Dover, Eurotunnel neu Gaergybi ac rydych yn symud y canlynol:

  • nwyddau o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac nid ydych yn defnyddio gwasanaethau Anfonydd neu Dderbynnydd Awdurdodedig i ddechrau neu ddod â’ch symudiadau Cludo i ben
  • nwyddau i’r wlad o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac rydych wedi cael gwybod i fynd i safle er mwyn gwirio’r nwyddau hynny

Pan fydd angen i chi, o bosibl, ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin

Mae’n rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ynghylch a oes angen i chi gael eich nwyddau wedi’u gwirio gan y tollau wrth gyrraedd neu a allwch barhau â’ch taith.

Dylech ddefnyddio’ch cyfeirnod symud nwyddau yn y gwasanaeth ‘gwirio a oes angen i chi fynychu archwiliad (yn Saesneg)’ i ddeall a yw’ch nwyddau’n cael eu cadw. Os ydych yn cyrraedd Porthladd Dover neu Eurotunnel neu Gaergybi, bydd angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin er mwyn i’r gwiriadau hyn gael eu cynnal.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd swyddogion Llu’r Ffiniau yn y porthladd hefyd yn eich atal er mwyn cynnal gwiriadau ar eich cerbyd neu’ch llwyth. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid i chi barhau i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin i gwblhau swyddogaethau’r tollau os ydych wedi cael cyfarwyddiadau i wneud hynny.

Mae’n rhaid mynd â’r nwyddau i gyfleuster mewndirol wrth y ffin yn uniongyrchol, a rhaid i’r nwyddau gyrraedd yn yr un cyflwr ag yr oeddent ar adeg eu mewnforio.

Mae’n bosibl y byddwch yn agored i gosb hyd at £2,500 os na fyddwch yn dilyn cyfarwyddiadau CThEF.

Pan nad oes rhaid i chi ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin

Does dim rhaid i chi ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych gerbyd sy’n wag
  • rydych yn teithio i mewn ac allan o’r DU drwy borthladdoedd eraill
  • rydych yn defnyddio gwasanaethau Anfonydd/Derbynnydd Awdurdodedig
  • rydych yn defnyddio gweithdrefnau mewnforio neu allforio eraill (nad ydynt yn rhan o’r Confensiwn Cludo Cyffredin) i symud eich nwyddau i mewn neu allan o’r DU

Bod yn ‘barod ar gyfer y ffin’

Byddwch yn barod cyn i chi gyrraedd Caint

Mae’n rhaid i chi fod yn ‘barod ar gyfer y ffin’ cyn i chi gyrraedd porthladdoedd Caint neu byddwch yn cael eich gwrthod a gallech wynebu dirwy.

Os ydych yn croesi’r Sianel drwy’r Eurotunnel neu Borthladd Dover, mae’n rhaid i chi wirio bod cerbyd nwyddau trwm (HGV) yn barod i groesi’r ffin.

Ar gyfer symudiadau tuag allan sy’n gadael y DU drwy Borthladd Dover neu’r Eurotunnel

Os oes angen i chi ddefnyddio cyfleuster mewndirol wrth y ffin a’ch bod yn dod i Gaint o rywle arall, dylech fod yn barod cyn cyrraedd Caint. Peidiwch ag aros tan i chi gyrraedd y porthladd yng Nghaint neu byddwch yn cael eich gwrthod.

Er mwyn paratoi, dylech fynychu’r cyfleuster mewndirol wrth y ffin yn Sevington.

Caergybi

Byddwch yn barod cyn i chi deithio i Gaergybi, defnyddiwch anfonydd neu dderbynnydd awdurdodedig i ddechrau’ch symudiad cludo neu i ddod ag ef i ben.

Chwiliwch am ragor o wybodaeth am baratoi ar gyfer porthladdoedd Cymru ar wefan llyw.cymru.

Dogfennau y bydd angen i chi ddod â nhw

Bydd angen yr holl waith papur perthnasol arnoch mewn perthynas â’ch symudiad.

Symudiadau’r Confensiwn Cludo Cyffredin

I ddechrau symudiad Confensiwn Cludo Cyffredin allan o Brydain Fawr (yn Saesneg), bydd yn rhaid i chi:

  • cael y canlynol gan eich asiant neu’ch trefnydd anfon nwyddau ar gyfer pob llwyth:
    • y Cyfeirnod Lleol (LRN)
    • naill ai’r holl gyfeirnodau ar gyfer y datganiadau allforio a’u cynnwys mewn cyfeirnod symud nwyddau, neu Brif Gyfeirnod Unigryw y Llwyth (os oes un) yn ysgrifenedig
  • dangos yr LRN a naill ai’r holl gyfeirnodau ar gyfer y datganiadau allforio sydd mewn cyfeirnod symud nwyddau, neu Brif Gyfeirnod Unigryw y Llwyth yn ysgrifenedig, yn y Swyddfa Ymadael er mwyn cael Dogfen Ategol ar gyfer Cludo (TAD)

I ddod â symudiad i ben mewn Swyddfa Pen y Daith, bydd angen i chi gyflwyno’r Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo a rhoi’r Cyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer pob llwyth.

Os ydych yn:

  • fasnachwr sy’n defnyddio Swyddfa Pen y Daith mewn Cyfleuster Mewndirol Wrth y Ffin, dylech sicrhau bod y cofnodion mewnforio wedi’u cyflwyno a’u bod wedi cyrraedd mewn pryd i’r nwyddau gyrraedd Swyddfa Pen y Daith
  • yrrwr sy’n mynychu Swyddfa Pen y Daith, dylech gael manylion y cofnodion tollau ar gyfer y llwythi sy’n cael eu cario gennych (er enghraifft, rhifau a dyddiadau’r cofnodion)

Bydd angen i nwyddau sy’n cyrraedd heb gofnodion mewnforio gael eu storio dros dro.

Os ydych yn yrrwr sy’n mynychu Cyfleuster Mewndirol wrth y Ffin gyda nwyddau sydd angen cael eu storio dros dro, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio cyfleuster arall, ar eich traul eich hun.

Ni ellid defnyddio Cyfleusterau Mewndirol wrth y Ffin at ddibenion storio masnachol.

Symudiadau ATA Carnet

Ar gyfer symudiadau i mewn ac allan, bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau Carnet ATA ar gyfer pob llwyth.

Symudiadau CITES

Ar gyfer symudiadau i mewn ac allan, bydd angen i chi gyflwyno trwydded CITES ar gyfer pob llwyth.

Lleoliadau cyfleusterau mewndirol wrth y ffin (wedi’u rhestru o’r Gogledd i’r De)

Safle Lleoliad Swyddogaethau
Caergybi (i mewn ac allan) Gwasanaeth cyfleuster mewndirol wrth y ffin Caergybi
Parc Cybi,
A55 Cyffordd 2,
Caergybi,
LL65 2YQ
Dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith)

Dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael)

Stamp Carnets ATA — dim ond os yw Carnet ATA yn cynnwys anifeiliaid byw y mae angen trefnu ymlaen llaw

CITES

Sevington (i mewn ac allan) (yn Saesneg) Sevington inland border facility,
Ashford,
TN25 6GE
At ddiben llywio â lloeren, defnyddiwch: 51.132138, 0.914994
Dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael)

Dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith)

Stamp Carnets ATA

CITES

Rheoli traffig
Stop 24 (i mewn ac allan ar gyfer cerbydau eithriedig) Stop 24,
Folkestone Services,
Junction 11 M20,
Hythe,
CT21 4BL
Dechrau symudiad cludo o gerbydau sydd wedi’u heithrio rhag defnyddio Sevington, neu ddod â symudiad i ben
Dociau Gorllewinol Dover (i mewn ac allan ar gyfer cerbydau eithriedig) Dover Western Docks,
Lord Warden Square,
Dover,
CT17 9DN
Dechrau symudiad cludo o gerbydau sydd wedi’u heithrio rhag defnyddio Sevington, neu ddod â symudiad i ben

Stop 24 a Dociau Gorllewinol Dover

Gall cerbydau, sydd wedi’u heithrio rhag defnyddio Sevington am eu bod yn rhy fawr neu’n cynnwys nwyddau peryglus, gael eu prosesu yn y safleoedd hyn.

Os bydd problem yn codi gyda chyfleusterau mewndirol wrth y ffin CThEF, mae’n bosibl y byddwn yn eich cyfeirio at Ddociau Gorllewinol Dover neu Stop24.

Mae hyn yn ychwanegol at y gweithrediadau masnachol presennol a ddarperir eisoes yn y safleoedd hyn.

Rhowch wybod i CThEF eich bod yn mynd i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin

Dylech roi gwybod i CThEF ymlaen llaw eich bod yn mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg) os yw’r canlynol yn wir am y nwyddau rydych yn eu symud:

  • maent yn mynd i swyddfa ymadael neu swyddfa pen y daith (dechrau symudiad cludo neu’n dod ag ef i ben)
  • maent yn dod o dan Garnet ATA
  • mae angen trwydded CITES arnynt

Beth bynnag yw’ch rheswm dros fynychu’r safle, os yw’ch nwyddau wedi’u nodi fel rhai sydd ‘wedi’u dal’ ar gyfer gwiriad cydymffurfio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn i staff y swyddfa flaen pan fyddwch yn cyrraedd.

Gallwch hefyd wirio a oes unrhyw oedi mewn cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg).

Beth i’w ddisgwyl wrth ymweld â chyfleuster mewndirol wrth y ffin

Bydd arwyddion lleol ar waith i helpu i’ch cyfeirio at y safle ar hyd y prif ffyrdd strategol.

Ar ôl cyrraedd y safle, cewch eich cyfarch gan farsial rheoli traffig.

Bydd camerâu adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig wrth bwyntiau mynediad ac ymadael y safle. Bydd y rhain yn monitro pa gerbydau sy’n mynd i mewn i’r safle ac sy’n ei adael, a hynny er mwyn rheoli traffig a diogelwch.

Bydd archwiliad gweledol cyflym o’r cerbyd yn cael ei wneud gan farsialiaid diogelwch yn y pwynt gwirio wrth y fynedfa. Er enghraifft, byddant yn gwirio nad oes unrhyw ollyngiadau ac nad oes angen gwahardd y cerbyd o ganlyniad i’r gwiriadau hyn.

Yn dilyn hyn, cewch eich cyfeirio at le parcio gwag. Unwaith y byddwch wedi parcio’ch cerbyd, bydd y marsial traffig yn gofyn i chi ddiffodd eich injan a’i gadw wedi’i diffodd tra byddwch wedi parcio. Ni ddylid gadael i injans droi.

Os yw’ch nwyddau wedi’u nodi fel rhai sydd ‘wedi’u dal’ ar gyfer gwiriad cydymffurfio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn i staff y swyddfa flaen pan fyddwch yn cyrraedd.

Yna, byddwch yn mynd â’ch dogfennau i’r swyddfa flaen ac yn cael eich cyfarwyddo i aros yn eich cerbyd tra bydd y gwaith papur yn cael ei brosesu. Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, byddwch yn cael naill ai cymeradwyaeth a derbynneb ymadael i symud oddi ar y safle, neu ddiffyg cymeradwyaeth lle byddwch yn dilyn proses ar wahân.

Yna, byddwch yn gallu gadael y safle ac ail-ymuno â’r brif ffordd strategol.

Hyd y gwiriadau

Amcangyfrifwn y bydd angen rhwng 1 a 2 awr arnoch yn y cyfleuster i fynd drwy broses glirio’r tollau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser wrth gynllunio’ch taith.

Mae’r safleoedd wedi’u staffio ac yn gweithredu 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses gwaith papur, gallwch ddychwelyd i’ch cerbyd a dylech adael ar unwaith.

Cyfleusterau sydd ar gael ar y safleoedd

Bydd pob safle yn darparu dŵr, toiledau a chyfleusterau golchi dwylo. Cynigir cyfleusterau ychwanegol fesul safle, fel yr amlinellir yn yr adrannau sy’n benodol i bob safle. Ni chaniateir poptai na thanau ar y safle.

Os yw’ch cerbyd wedi’i eithrio

Mae’n bosibl y bydd cerbydau’n cyrraedd y safle sydd wedi’u ‘heithrio’ rhag y gofyniad i barcio ar y safle. Mae hyn yn seiliedig ar bethau fel cynnwys llwythi, maint cerbydau a phresenoldeb nwyddau peryglus. Os oes unrhyw broblemau, bydd eich cerbyd yn cael ei symud i’r mannau archwilio er mwyn i uwch-swyddog diogelwch gynnal archwiliad pellach.

Caiff cerbydau eu heithrio os ydynt yn cynnwys:

  • llwythi anarferol, sef:
    • pwysau o fwy na 44,000kg
    • llwyth echel o fwy na 10,000kg ar gyfer un echel nad yw’n gyrru ac 11,500kg ar gyfer un echel yrru
    • lled o fwy na 2.9m
    • hyd sefydlog o fwy nag 18.65m
  • y nwyddau peryglus canlynol:
    • sylweddau ac erthyglau dosbarth 1 (ffrwydron) a sylweddau dosbarth 4.1 (sylweddau sy’n polymeru)
    • deunydd niwclear categori I neu II
    • nwyddau peryglus â chanlyniadau pellgyrhaeddol
    • sylweddau dosbarth 6.1 (pryfladdwyr)
  • cerbydau sy’n ddarostyngedig i Orchymyn Cerbydau Ffyrdd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) (STGO) 2003

Cyfyngiadau Caergybi o ran tanceri

Ni all Caergybi dderbyn tanceri sy’n cynnwys dros 3,000 litr o hylif peryglus na hylif halogedig.

Nid oes falf penstock yng nghyfleuster Caergybi, felly nad oes ffordd weithrediadol i glirio gollyngiadau.

Mae hylif halogedig yn llygru sianeli dŵr gan ei fod yn cynnwys mater organig, megis:

  • llaeth
  • bwyd
  • cnydau
  • dŵr budr
  • elifion silwair a slyri