Canllawiau

Cyfleuster mewndirol wrth y ffin Sevington

Diweddarwyd 21 May 2024

Nid oes angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin oni bai eich bod yn teithio drwy Borthladd Dover, Eurotunnel neu Gaergybi ac rydych yn gwneud y canlynol:

  • symud nwyddau i mewn i’r wlad ac rydych wedi cael cyfarwyddyd i fynd i safle er mwyn gwirio’r nwyddau hynny
  • symud nwyddau o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac mae angen i chi ddechrau neu orffen symudiadau cludo — oni bai eich bod yn defnyddio gwasanaethau Anfonydd neu Dderbynnydd Awdurdodedig (ACC)

Gwiriwch nwyddau neu gerbydau sydd wedi’u gwahardd cyn mynd i gyfleuster mewndirol wrth y ffin gan efallai na fydd yn caniatáu:

  • i fathau penodol o gerbydau fynd i mewn
  • i gerbydau sy’n cario mathau penodol o nwyddau fynd i mewn (er enghraifft, y rhai sy’n cynnwys nwyddau peryglus neu gerbydau sy’n rhy fawr)

Lleoliad

Cyfleuster mewndirol wrth y ffin Sevington
Ashford
TN25 6GE

At ddiben llywio â lloeren, defnyddiwch: 51.132138, 0.914994

Swyddogaethau

Yng nghyfleuster mewndirol wrth y ffin Sevington, byddwch yn gallu:

  • dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael)
  • dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith)
  • stamp Carnets ATA a TIR
  • prosesu trwyddedau CITES

Gwiriadau Iechydol a Ffytoiechydol (SPS)

Os cewch eich galw am wiriadau SPS ar eich nwyddau, bydd angen i chi fynd i’r Man Rheoli wrth y Ffin (BCP) yn Sevington yn y cyfleuster hwn.

Darllenwch ragor o wybodaeth am y Man Rheoli wrth y Ffin (BCP) yn Sevington (yn agor tudalen Saesneg).

Sut i gael at y safle

Mae’r safle hwn i’r de-ddwyrain o Ashford wrth gyffordd 10a yr M20, tua 50 milltir i’r de-ddwyrain o Lundain. I gael mynediad i’r safle, mae’n rhaid i chi ddilyn gweithdrefnau a gwyriadau rheoli traffig lleol, a fydd yn eich cyfeirio at y safle, ac oddi yno, gan ddefnyddio’r rhwydwaith ffyrdd strategol a’r priffyrdd cyhoeddus. Gallwch ddefnyddio ffordd ddeuol yr A2070, ger cyffordd 10a yr M20.

Mae gan y safle un pwynt mynediad gyda mynedfeydd ac allanfeydd ar wahân. Bydd hon yn gyffordd â goleuadau traffig ar yr A2070.

Mae system unffordd drwy’r safle. Mae gan y lleoliad hwn ddwy adran: un yn ardal aros i lorïau ar gyfer rheoli traffig a’r llall yw’r cyfleuster mewndirol wrth y ffin. Cewch eich cyfeirio at le gwag ar gyfer cerbydau nwyddau trwm (HGV) gan farsialiaid rheoli traffig.

Map of Sevington Inland Border Facility

Cyfleusterau ar y safle

Yn ogystal â chyfleusterau safonol safle (toiledau, golchi dwylo a dŵr ar gyfer yr holl yrwyr sydd wedi parcio ar y safle), mae’r safle hwn hefyd yn cynnig cymorth cyntaf gan staff sydd wedi’u hyfforddi.

Sut i adael y safle

Unwaith y bydd y gwiriadau wedi’u cwblhau, byddwch yn cael cerdyn i’w roi yn eich ffenestr sy’n caniatáu i chi adael y safle. I adael y safle, mae’n rhaid i chi ddilyn gweithdrefnau a gwyriadau rheoli traffig lleol, a fydd yn eich cyfeirio at y safle, ac oddi yno, gan ddefnyddio’r rhwydwaith ffyrdd strategol a’r priffyrdd cyhoeddus. Bydd angen i chi stopio wrth y man gwirio cerbydau sy’n gadael.

Gallwch adael y safle drwy ddefnyddio’r gyffordd â’r A2070. Mae’r broses ymadael yn cael ei goruchwylio gan uwch-farsial rheoli traffig.